Part of the debate – Senedd Cymru am 6:50 pm ar 31 Ionawr 2018.
Felly, mae angen mwy o ymwybyddiaeth o ddiffibrilwyr, sut i'w defnyddio, lle maent wedi'u lleoli, a chefnogi'r ymgyrch i gael mwy ohonynt yn ein cymunedau, a'u bod ar gael ar system fapio diffibrilwyr gwasanaeth ambiwlans Cymru. Rwy'n llwyr gefnogi camau i wneud offer achub bywyd, megis diffibrilwyr, yn fwy hygyrch a chael arwyddion priodol i dynnu sylw at eu lleoliadau, ac unwaith eto, cysondeb wrth wneud hynny hefyd. Wrth gwrs, mae'r rhain ar gael nid yn unig gan sefydliadau masnachol, ond gan amrywiaeth o grwpiau trydydd sector hefyd fel Ambiwlans Sant Ioan, Sefydliad Prydeinig y Galon, ac amryw o rai eraill llai o faint—wyddoch chi, Calonnau Cymru ac elusennau eraill yma yng Nghymru.
Mae gennyf ddiddordeb yn nhrefn a dichonoldeb cael system o'r fath, ond rwy'n agored i dderbyn mwy o wybodaeth ar sut y gallem weld system o'r fath yn gweithio. Mae'n ymwneud â gallu ymarferol i ddatblygu syniad hollol resymol. Fis Mehefin diwethaf, fe fyddwch yn gwybod fy mod wedi lansio ein cynllun ar gyfer ataliad y galon y tu allan i'r ysbyty yng Nghymru—un arall o'n teitlau bachog yn y byd iechyd a llywodraeth yn gyffredinol. Rydym yn y camau cynnar o geisio gweithredu'r cynllun hwnnw a sicrhau gwelliannau go iawn. Ac felly ceir is-grŵp o'r grŵp gweithredu ar gyfer cyflyrau ar y galon, ac maent yn goruchwylio cynnydd yn erbyn yr amcanion yn y cynllun hwnnw. Felly, mae dychweliad cylchrediad naturiol yn cael ei weithredu eisoes—mae'r llwybr yn cael ei weithredu gan wasanaeth ambiwlans Cymru a'r byrddau iechyd.
Y mis diwethaf, cynorthwyodd Llywodraeth Cymru gyda'r gwaith o drefnu gweithdy gweithredu, a gellais fynychu rhan ohono hefyd, er mwyn ceisio ennyn trafodaeth ynglŷn â sut rydym yn cyflawni'r tair dolen gyntaf yn y gadwyn oroesi: nodi cynnar, CPR cynnar a diffibrilio cynnar. Roedd pobl yno o ystod o elusennau clefyd y galon, ynghyd â chynrychiolwyr o'r gwasanaethau brys, a chlywyd siaradwyr yn sôn am weithredu yng Nghymru a'r hyn rydym yn ei wneud eisoes, yn ogystal â dysgu gwersi o'r Alban ac ymwelwyr rhyngwladol o Seattle yn ogystal. Cynhyrchodd y gweithdy drafodaethau angerddol a gwybodus. Mae rhywbeth yma ynghylch y modd y down â'r sector cyfan at ei gilydd i gael y drafodaeth honno ac yna cytuno ar ddewisiadau cenedlaethol. Rydym am ddefnyddio'r egni a'r adborth i weithredu a gwella'r cynllun sydd gennym ymhellach, gan ddefnyddio canlyniadau o'r gweithdy a manteisio ar y profiad o'r Alban hefyd. Rwy'n wirioneddol falch o ddysgu o rannau eraill o'r system yn y DU sydd fwyaf tebyg i ni yma, wrth gwrs. Mae gwaith wedi dechrau ar ddatblygu cynllun gweithredu manwl i gefnogi'r dull cydweithredol hwnnw o gynyddu mynediad at hyfforddiant CPR a'r defnydd o ddiffibrilwyr.
Yn ogystal, rydym yn sefydlu grŵp cyfathrebu i ddatblygu agweddau ar godi ymwybyddiaeth. Byddant yn edrych ar faterion yn ymwneud ag ymwybyddiaeth o ddiffibrilwyr yn ein cymunedau—unwaith eto, y pwynt a wneuthum yn gynharach am symleiddio'r defnydd ohonynt. Bu cynnydd sylweddol sydd i'w groesawu yn ystod y tair blynedd diwethaf yn nifer y diffibrilwyr sydd ar gael i'r cyhoedd y gŵyr y gwasanaeth ambiwlans amdanynt. Mae nifer o ymgyrchoedd wedi helpu i wneud hynny: Diwrnod Adfywio Calon, Shoctober, Defibuary yn eu plith. Wrth gwrs, arweiniodd y ddwy ymgyrch ddiwethaf a nodais at ddysgu CPR ac ymwybyddiaeth o ddiffibrilwyr i bron 13,000 o blant ysgol yn ystod mis Hydref y llynedd. Pleser oedd cael cyfarfod ag amryw o'r bobl hyn mewn nifer o leoliadau gwahanol ledled Cymru fel rhan ohono.
Mewn gwirionedd fe lansiais yr ymgyrch 'Byddwch yn Arwr Diffib' ym mis Chwefror 2015, pan oeddwn yn Ddirprwy Weinidog Iechyd ar y pryd, ac efallai nad oedd bywyd yn symlach, ond roedd yn haws ar un ystyr, o leiaf. Ond ers hynny rydym wedi cael 396 o ddiffibrilwyr ychwanegol wedi'u cofnodi a'u mapio ar system ddosbarthu gwasanaeth ambiwlans Cymru. Ceir cyfanswm o 3,254 o ddiffibrilwyr ar y system ar hyn o bryd, ac maent yn caniatáu i'r sawl sy'n ateb galwad gyfeirio pobl sy'n ffonio at yr un agosaf a'r argaeledd os yw rhywun yn dioddef ataliad ar y galon. Eisoes rydym wedi clywed straeon, o ganlyniad i'r system honno, nid yn unig fod mwy o ddiffibrilwyr yno, ond am fywydau'n cael eu hachub oherwydd bod y diffibrilwyr hynny sydd ar gael i'r cyhoedd wedi cael eu defnyddio. Ac wrth gwrs, mae staff ambiwlans a gwirfoddolwyr wedi bod yn gweithio yn eu cymunedau lleol ar gaffael a lleoli diffibrilwyr, a hyfforddiant dadebru CPR.
Unwaith eto, yn fy etholaeth fy hun, bûm mewn digwyddiad yn hen Ysgol Uwchradd y Dwyrain, gyda chyn-ddisgybl yr oedd ei bywyd ei hun wedi'i achub gan y gwasanaeth iechyd, ac mae'n rhoi llawer yn ôl, yn gwneud—mae'n ffisiotherapydd a hyfforddwr personol sy'n gwneud gwaith adsefydlu gyda chleifion yr ysgyfaint. Mae hi hefyd wedi codi arian, ac mae'n darparu diffibriliwr ar gyfer ei hen ysgol, sy'n mynd i gael ei leoli yn yr ysgol newydd a agorodd yn ddiweddar. Dylai fod rhywbeth ar gael felly yn y rhan o'r ysgol sy'n hygyrch i'r cyhoedd, a bydd ar gael y tu allan i oriau yn ogystal â'r ochr arall i'r ysgol sy'n mynd i fod yn fwy cyfyngedig i oriau gwaith. Mae honno'n enghraifft dda o'r hyn y gwyddom ei fod eisoes yn digwydd mewn nifer o gymunedau ledled y wlad.
Felly, bydd angen amser i weld y cynnydd a wnawn gyda'n cynllun ar gyfer ataliad y galon y tu allan i'r ysbyty ac i adeiladu ar y momentwm sydd gennym gyda rhanddeiliaid, sefydliadau elusennol, y sector cyhoeddus, ac amrywiaeth o fusnesau, yn wir, sy'n hapus i gael eu diffibrilwyr wedi'u mapio ar y system gyhoeddus. Gobeithio y bydd yr Aelodau'n cymryd rhan ac yn hyrwyddo ymgyrch newydd Defibuary gwasanaeth ambiwlans Cymru, sydd wrth gwrs yn dechrau yfory ar 1 Chwefror, ac mae'r ymgyrch yn ymwneud â chodi ymwybyddiaeth o ddiffibrilio cynnar ac annog pawb i ganfod lle mae eu diffibrilwyr agosaf a rhannu hynny ar y cyfryngau cymdeithasol.
Rydym yn cydnabod bod pob eiliad yn cyfrif pan fydd rhywun yn dioddef ataliad ar y galon, felly credaf y bydd gan bob un ohonom genhadaeth gyffredin o ran y modd yr awn ati i helpu i godi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd CPR a diffibrilio cynnar, ac wrth gwrs, byddwn yn parhau i sôn am hynny yn y lle hwn a gweld a ydym wedi gwneud y cynnydd a ddymunwn ac a oes camau eraill y gallem eu rhoi ar waith, gan gynnwys—a gwn beth fyddai orau gan yr Aelod—cael y gallu deddfwriaethol i wneud peth o hyn yn ogystal.