– Senedd Cymru am 6:32 pm ar 31 Ionawr 2018.
Symudaf ymlaen yn awr at y ddadl fer. Os ydych yn gadael y Siambr, a allwch wneud hynny'n gyflym, os gwelwch yn dda? Felly, symudwn yn awr at y ddadl fer, a galwaf ar Suzy Davies i siarad ar y pwnc mae wedi'i ddewis. Suzy.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet, am ymateb i hyn heddiw. Rwyf wedi cyflwyno'r ddadl benodol hon fel cam yn yr hyn y gobeithiaf y bydd yn ymgyrch lwyddiannus. Mae'n gyfle i'r Aelodau ddechrau ystyried a fyddai'r hyn rwyf am siarad amdano yn gam defnyddiol, ymarferol a rhesymol tuag at gydraddoldeb yn eu hetholaethau a'u rhanbarthau, ac mae'n gyfle i chi, Ysgrifennydd y Cabinet, ehangu ar sylw gwreiddiol y Llywodraeth:
Mewn egwyddor, ymddengys bod peth rhinwedd i'r syniad hwn a byddai'n ddiddorol gweld sut y byddai cynllun o'r fath yn gweithio'n ymarferol.
Ym mis Tachwedd, agorodd Cynghrair Pobl Anabl Pen-y-bont ar Ogwr e-ddeiseb drwy wefan y Cynulliad, deiseb a fydd maes o law wrth gwrs yn cael ei hystyried gan y Pwyllgor Deisebau. Rwy'n gobeithio y bydd y ddadl hon a'ch ateb chi, Ysgrifennydd y Cabinet, o ddefnydd i'r pwyllgor yn ystod yr ystyriaethau hynny, ac anogaf yr holl Aelodau y gobeithiaf eu bod yn gwylio hyn yn eu swyddfeydd i ddweud wrth eich etholwyr amdani gan y bydd yn agored i'w llofnodi tan fis Mawrth. Mae eisoes wedi casglu llofnodion dros 1,700 o gefnogwyr, ond buaswn wrth fy modd pe baem yn cael digon i allu cael dadl yn ei gylch yn y Cyfarfod Llawn.
Mudiad ymgyrchu gweithgar ac uchel ei barch o bobl anabl yn fy rhanbarth i yw Cynghrair Pobl Anabl Pen-y-bont ar Ogwr, gyda rhai aelodau gweithredol hefyd yn aelodau o gyrff cenedlaethol eraill sy'n cynrychioli pobl ag anableddau. Mae'n debyg y byddwch eisoes yn adnabod rhai ohonynt o'u gwaith ymgysylltu ag Aelodau'r Cynulliad a'r Llywodraeth wrth gwrs.
Mae'r gynghrair yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno tystysgrif mynediad yn dangos rhifau o sero i bump tebyg i'r dystysgrif hylendid bwyd. Dylid asesu'r holl adeiladau a ddefnyddir gan y cyhoedd—megis siopau, siopau bwyd, clybiau chwaraeon, tafarndai a swyddfeydd, yn ogystal â gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus—o ran pa mor hygyrch i gadeiriau olwyn ydynt, yn ogystal â pha mor hawdd yw hi i rywun â nam ar y synhwyrau neu anabledd dysgu eu defnyddio.
Credaf fod hyn yn cydweddu'n dda iawn â'r ddadl a gawsom ychydig yn gynharach heddiw ar rai o'r pethau hyn. Byddai aelodau'r gynghrair hefyd yn hoffi pe bai safleoedd yn cael rhif y gallent ei arddangos i ddangos pa mor hawdd yw eu safleoedd i bobl anabl eu defnyddio. Maent yn dadlau y gallai rhai sy'n cael sgoriau uchel berswadio eraill gerllaw i wella mynediad a chael sgoriau uwch eu hunain. Maent yn nodi llwyddiant y gymhariaeth amlwg yma, sef y dystysgrif hylendid bwyd, gan ddweud bod safonau bwyd wedi gwella llawer ers cyflwyno'r dystysgrif hylendid bwyd orfodol, ac mae safleoedd gyda sgôr uchel yn defnyddio'r dystysgrif gyda balchder. Mae aelodau'r gynghrair yn credu y bydd busnesau'n gwneud ymdrech fawr i wella mynediad a gwasanaethau i'r gymuned anabl pe bai tystysgrif debyg yn cael ei chyflwyno ar gyfer mynediad, gan arwain at wasanaethau gwell o lawer ar gyfer siopwyr anabl a'r rhai sydd am fynd am ddiod, pryd o fwyd neu ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus—y cyfleusterau y mae'r rhan fwyaf ohonom yn eu cymryd yn ganiataol. Mae'n sefyllfa lle y gallai pawb fod ar eu hennill: mae gwasanaethau gwell yn golygu mwy o gwsmeriaid.
Mae'r deisebwyr wedi rhoi syniad o ba wybodaeth y dylai'r sgoriau allu ei chyfleu. Mae gennyf rai syniadau i'w hychwanegu at hynny, a dof atynt mewn ychydig eiliadau, ond maent yn awgrymu y bydd yn rhaid i safle, er mwyn cyflawni sgôr o 5, fod yn hygyrch i gadeiriau olwyn, a hefyd yn gwbl gynhwysol ar gyfer pobl â nam ar eu clyw neu eu golwg, a dealltwriaeth gan y staff o bobl ag anableddau dysgu. Mae cael bwyty gyda staff sy'n gallu defnyddio iaith arwyddion neu fwydlenni Braille yn gallu gwneud gwahaniaeth enfawr a rhoi profiad llawer haws a llai o straen wrth wneud pethau bob dydd y bydd y rhan fwyaf ohonom yn eu cymryd yn ganiataol.
Syniad arall a gyflwynwyd ganddynt, yn ogystal â chael sgôr 5 i 0, yw cael symbolau ychwanegol islaw i ddangos a oes gan safle fynediad llawn i gadeiriau olwyn, toiled hygyrch, gwybodaeth mewn Braille, staff a all ddefnyddio iaith arwyddion ac a yw'r safle—i ddyfynnu'r ddeiseb—yn 'ystyried awtistiaeth'.
Nid wyf am gael fy rhwydo gan y manylion ar y cam hwn. Byddai'n rhy hawdd diystyru'r ddeiseb a'r syniad oherwydd termau amwys fel 'ystyried awtistiaeth' neu 'ystyriol o anabledd'. Gwn y byddai'n amhosibl rhagweld yr ymateb unigol, er enghraifft, ac felly, anghenion mynediad pob unigolyn â chyflwr ar y sbectrwm awtistig. Fy hun, buaswn yn dweud mai'r gofyniad sylfaenol i gael sgôr ar hynny fyddai bod aelodau allweddol o'r staff wedi cael hyfforddiant ymwybyddiaeth, ond dyna beth yw diben ymgynghori ac nid ydym yn brin o unigolion a chyrff i ymgynghori â hwy yma yng Nghymru.
Mae rhai ohonynt eisoes wedi cynnig eu cefnogaeth i gynigion y gynghrair. Mae Cymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth Cymru, er enghraifft, wedi dweud:
Ar gyfer anableddau cudd megis awtistiaeth, yn aml gallai mynediad at nwyddau a gwasanaethau ymwneud yn aml â gwneud newidiadau i'r amgylchedd ffisegol ond mae bod yn ymwybodol o gyflyrau gwahanol yn allweddol hefyd. Byddai Cymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth Cymru yn croesawu hyfforddiant ymwybyddiaeth o anabledd, gan gynnwys awtistiaeth, ar gyfer staff sy'n rhyngweithio gyda'r cyhoedd fel nad yw pobl awtistig yn teimlo wedi'u hynysu'n gymdeithasol ac yn methu defnyddio siopau a gwasanaethau.
Mae Cŵn Tywys Cymru, yn eu hadroddiad, 'Access to food premises for guide dog owners and other blind and partially sighted people', yn diffinio'r problemau a brofir gan rai o'r 100,000 o bobl Cymru sydd wedi colli'u golwg. Y pum math o le sy'n fwyaf tebygol o wrthod mynediad i berchnogion cŵn tywys yw tacsis, bwytai, siopau papurau newydd a siopau cyfleustra, caffis a siopau stryd fawr er mai bwytai a siopau stryd fawr, fel arall hefyd, sy'n rhoi'r gwasanaeth gorau pan gaiff ei gynnig. Rwy'n credu bod hynny'n dangos mai'r elfen sydd ar goll i rai busnesau yw meddwl am hygyrchedd yn y lle cyntaf.
Mae Cŵn Tywys Cymru yn dweud:
I bobl ddall a rhannol ddall, byddai'r ddeiseb yn helpu mewn dwy ffordd. Yn gyntaf, byddai'n codi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd mynediad i adeiladau. Mae adeiladau hygyrch yn cynyddu'r cyfle i bobl ddall a rhannol ddall, a'r holl bobl sy'n anabl, i fyw'n annibynnol yn y gymuned. Mae mynediad gwael i adeilad yn ffactor pwysig wrth benderfynu a yw'n bosibl defnyddio canolfan hamdden, llyfrgell, bwyty neu feddygfa heb gymorth. Yn ail, drwy godi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd mynediad i adeiladau, mae gobaith y byddai gwell gwybodaeth am y pwnc ar ran darparwyr gwasanaethau yn arwain at ostyngiadau yn nifer y penderfyniadau i wrthod mynediad.
Cyn i mi droi at yr agweddau ymarferol, hoffwn sôn am y tri syniad arall sydd gennyf y credaf y gellid eu cynnwys yn hyn. Yn gyntaf oll, system sgorio neu wybodaeth i ddangos ymwybyddiaeth o ddementia mewn busnes. Os ydym o ddifrif yn awyddus i gael cymunedau sy'n deall dementia, gadewch inni gynnwys hyn. Yn ail, anawsterau cyfathrebu—clywsom ddoe gan David Melding y bydd Afasic Cymru yn cau eu swyddfeydd yng Nghymru, ond nid yw hynny'n golygu bod hwn yn fater caeedig. Yn drydydd—wel, mae'n debyg na fydd hyn yn syndod—sgiliau achub bywyd mewn argyfwng a diffibrilwyr. Efallai y bydd yr Aelodau'n cofio eu cefnogaeth i fy nghynigion deddfwriaethol i helpu i greu cenedl o achubwyr bywyd yn y flwyddyn ddiwethaf o'r Cynulliad presennol. Ymhlith y rheini roedd cynigion i gynyddu argaeledd diffibrilwyr ar gyfer y cyhoedd a chynyddu nifer y staff sy'n gweithio mewn adeiladau a ddefnyddir gan y cyhoedd sy'n meddu ar sgiliau achub bywyd mewn argyfwng, fel y gallai aelodau o'r cyhoedd elwa ar eu harbenigedd, nid y gweithlu yn yr adeilad hwnnw'n unig.
Nawr, yr agweddau ymarferol. Y pwynt cyntaf i'w wneud yw bod enghreifftiau achlysurol o'r syniad hwn ar waith eisoes, diolch i sefydliadau megis Cymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth Cymru a'r Gymdeithas Alzheimer. Mae Aberhonddu yn dref sy'n deall dementia, mae Aberdaugleddau yn dref sy'n ystyried awtistiaeth, a'r ddau deitl yn seiliedig yn bennaf ar hyfforddiant ymwybyddiaeth. Mae rhai o'n siopau mawr a'n theatrau wedi cyflwyno cyfnodau siopa tawel neu hamddenol a pherfformiadau i helpu pobl a'u gofalwyr, yn ogystal â staff, i deimlo'n fwy cyfforddus wrth rannu profiadau bob dydd a bydd ganddynt arwyddion neu dystysgrifau i ddangos hynny hefyd.
Dywedodd Mark Isherwood wrthyf ychydig ddyddiau'n ôl, am Communicating With Confidence, elusen fach yng ngogledd-ddwyrain Cymru, sy'n codi ymwybyddiaeth o anawsterau cyfathrebu pobl o bob oedran a phob cefndir o ganlyniad i strôc, clefyd Parkinson's, clefyd niwronau motor ac anafiadau i'r ymennydd. Maent eisiau symbol cyfathrebu cenedlaethol i'w roi ochr yn ochr â'r bathodynnau cyfarwydd ar gyfer nam ar y clyw neu'r golwg a namau corfforol, ac maent eisoes yn defnyddio arwyddion a sticeri yn lleol i hybu ymwybyddiaeth.
Ac o ran diffibrilwyr, wel, rwy'n siŵr eich bod i gyd wedi gweld y nod mellten yn ymddangos mewn mwy o fannau cyhoeddus bellach, ond go brin eu bod ar gael ym mhobman. Rydym yn dal i fod mewn sefyllfa lle na ellir darganfod y wybodaeth allweddol ynglŷn â lle i ddod o hyd i'ch diffibriliwr agosaf heb ffonio'r gwasanaeth ambiwlans, gan golli amser gwerthfawr. Yr wythnos hon, nododd pennaeth Sefydliad Prydeinig y Galon ei gefnogaeth i ymestyn yr egwyddorion yn y ddeiseb hon, gan ddweud,
Mae sicrhau bod y cyhoedd yn gwybod ble y gallant ddod o hyd i ddiffibriliwr neu gymorth gan unigolyn sydd wedi cael hyfforddiant adfywio cardio-pwlmonaidd yn hanfodol i achub bywydau.
Rwy'n credu mai'r hyn y mae'n ei ddangos, Ysgrifennydd y Cabinet, yw bod pob un ohonom, nid pobl sydd ag anableddau'n unig, yn ymateb i symbolau cyfarwydd lle mae'r symbolau hynny'n gyson ac ar gael yn eang. Er y tybiaf ein bod yn siarad am ymgynghori eto o ran sut rai fyddai unrhyw symbolau newydd, nid yw'r gost o ychwanegu ychydig o symbolau ychwanegol i'r casgliad o sticeri sydd eisoes ar gael, gwefannau neu ddeunydd ysgrifenedig yn debyg o fod yn eithafol.
Pwy ddylai fod yn gyfrifol am hyfforddiant? Wel, mae'n amlwg i mi y dylid cynnal hyfforddiant gan bobl sy'n gwybod beth y maent yn ei wneud, gan gynnwys pobl ag anableddau eu hunain, yn ôl egwyddorion cydgynhyrchu, yn bendant. Nid wyf yn meddwl ei fod y tu hwnt i'r sector i fod yn gyfrifol am y strategaeth a'r cynllunio chwaith, ond mae hwn yn gwestiwn agored o'm rhan i. Gallaf ragweld, er enghraifft, ei fod yn debygol o effeithio ar drwyddedu tacsis, sy'n gyfrifoldeb awdurdod lleol, ond nid yw hynny'n golygu y dylai'r cyngor lleol sy'n brin o arian ysgwyddo cyfrifoldeb am y cynllun cyfan. Mae awdurdodau lleol yn chwarae rhan allweddol yn y system hylendid bwyd a gallai, neu dylai rhannau gwahanol o'r sector cyhoeddus fod yn bartneriaid yn hyn.
Fel erioed, y cwestiynau a fydd yn peri trafferth i bawb fydd cost a chosteffeithiolrwydd. Unwaith eto, rwy'n gwbl agored ar hyn, ond yn yr oes hon o gyllidebau cyfranogol—maent yn dod i'r amlwg bellach—mae hwn yn gynllun sy'n gynnil, yn hawdd ei esbonio ac yn hawdd ei ddeall. Felly, pam na ddylid ei gynnig fel syniad? Yr egwyddor o gyllidebau cyfunol a mwy o gydweithredu rhwng sectorau yw'r cyfeiriad rydym yn mynd iddo hefyd, felly mae llai o reswm bellach, rwy'n meddwl, i ddweud bod rhaid i hyn gael ei ariannu o gyllideb iechyd ganolog neu gyllideb yr awdurdod lleol. Nid oes unrhyw reswm mewn egwyddor pam na all pen cyfoethocach y sector elusennau pobl anabl gyfrannu at gyllideb gyffredin. Archwiliwch yr holl syniadau a pheidiwch â gadael i'r hen fodelau ariannol lethu datblygiad syniadau newydd gwych.
Ac yna, yn olaf, mewn perthynas â chosteffeithiolrwydd, y peth cyntaf i'w nodi gyda hyn yw nad yw'n disodli cydymffurfiaeth â Deddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd 2005. Nid yw'n ymwneud â gorfodi na hyd yn oed arfer hawliau. Mae'n ymwneud yn bennaf â gwybodaeth, ond hyd yn oed wedyn mae'n rhan o rywbeth mwy. Credaf fod diddordeb yn y cynllun hwn yn dystiolaeth bellach fod cymdeithas yn dod yn fwy parod i dderbyn, pa un ai'n fwriadol ai peidio, y model cymdeithasol o anabledd, fod anabledd yn nodwedd o sut y caiff cymdeithas ei threfnu, yn hytrach na nam sy'n rhaid byw gydag ef.
Nid oes unrhyw rwymedigaeth yn y system hon i berchnogion busnesau wneud unrhyw beth â'u safle. Dyna'n union yw'r sgoriau ar y drysau: gwybodaeth i'r cyhoedd. Os ydynt yn arwain at berswâd tawel i fusnesau wella eu gwasanaethau, a chredaf y byddai'n debyg o wneud hynny, yna ni fuaswn yn dadlau y dylid codi tâl ar y busnesau hynny am ail asesiad, fel sy'n digwydd yn achos tystysgrifau hylendid bwyd.
Mae gwella ei hun yn gam tuag at ad-drefnu cymdeithas yn y fath fodd. Gwelaf y cynllun hwn fel un gwerthfawr iawn i bobl heb anableddau. Pan fydd arwyddion yn dod yn rhan o'r dirwedd, i'r graddau nad ydych yn sylwi arnynt efallai, yna maent wedi cyflawni rhywbeth. Mae'n debyg i groesi Pont Hafren, ac mae'n gwawrio arnoch yn araf nad yw'r arwyddion ffyrdd yn ddwyieithog mwyach. Efallai nad ydych yn siarad Cymraeg, ond mae eich disgwyliad anymwybodol, di-weld yn cael ei herio am eiliad, oherwydd nad yw rhywbeth sydd fel arfer yno yno, yn rhyfedd, a dyna rwy'n gallu ei weld yn digwydd yma: pob un ohonom yn dod mor gyfarwydd â'r disgwyliad o hygyrchedd cyffredinol fel ei fod yn rhoi ysgytiad bach bob tro y gwelwn sgôr wael.
Dyma pam rwy'n cefnogi'r syniad hwn yn hytrach nag apiau neu ffynonellau eraill o wybodaeth uniongyrchol i bobl ag anableddau, er mor ddefnyddiol y bônt. Oherwydd nid yw'n ymwneud yn unig â gwasanaethau i bobl ag anableddau; mae'n hwb tuag at y newid cymdeithasol cadarnhaol hwn. Mae a wnelo â normaleiddio disgwyliad o fynediad ar gyfer pawb, syndod os yw adeiladau'n anhygyrch i grwpiau o bobl ag anabledd penodol, a bod hyn yn ystyriaeth bob dydd i bawb, o'r cynllunydd tref i'r pensaer, o'r adran adnoddau dynol i'r cynrychiolydd undeb. Credaf fod hynny'n werth mawr am arian am ychydig o sticeri, Ysgrifennydd y Cabinet, a gobeithiaf y byddwch yn mynd ar drywydd y syniad hwn yn frwd. Diolch.
Diolch. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ymateb i'r ddadl. Vaughan Gething.
Ie. Diolch, Lywydd—. [Torri ar draws.] O, fe wnaf hyn, ac ni fyddaf yn clecian. Diolch, Ddirprwy Lywydd, a diolch i'r Aelod am gyflwyno'r ddadl gydag araith mor adeiladol. I fod yn deg, dyna a gawn yn gyson gan Suzy Davies ar y ddau fater—hawliau anabledd a materion ehangach yn ymwneud â diffibrilwyr. Rwy'n ymwybodol o'r ddeiseb a grybwyllwyd gennych ar ddechrau eich cyfraniad ynghylch graddio hygyrchedd gwasanaethau i bobl anabl ac nid yw'n syndod ei fod wedi ennyn peth cefnogaeth ac edrychaf ymlaen at ystyriaeth y Pwyllgor Deisebau ohono.
Wrth gwrs, rydym am weld pawb yn cael mynediad cyfartal i siopau, bwytai a mannau cyhoeddus eraill. Mae hynny'n rhywbeth y mae'r rhan fwyaf ohonom yn ei gymryd yn ganiataol. Felly, mewn egwyddor, mae peth rhinwedd i'r syniad, ac rwy'n croesawu awgrymiadau ynghylch agweddau ymarferol a sut y gallai cynllun o'r fath weithio. Credaf y byddai'n well cadw pethau mor syml â phosibl fel ei fod yn hawdd ei ailadrodd a'i ddeall. Gall fod yn anodd i system rifo sylfaenol ystyried yr ystod eang o faterion mynediad gwahanol y byddai angen eu hystyried, ac rwy'n cydnabod yr hyn a ddywedoch am wahanol heriau y mathau gwahanol o anabledd. Ond mae'n argymhelliad i'w groesawu a dylid meddwl drwyddo a'i archwilio'n briodol i weld sut y gallai pob safle fod mor hygyrch â phosibl.
Wrth gwrs, mae yna her, wrth feddwl am ein fframwaith deddfwriaethol presennol o'r Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd wreiddiol yn 1995 ac yn awr y darpariaethau sy'n ffurfio rhan o Ddeddf Cydraddoldeb 2010. Ceir darpariaethau a wnaed yn arbennig ar gyfer siopau a busnesau llai mewn adeiladau hŷn lle nad yw'n bosibl gwneud yr holl addasiadau y byddem fel arall yn disgwyl i adeiladau a busnesau eraill eu gwneud. Ond i'r rhan fwyaf, dylai fod yn bosibl gwneud rhai newidiadau fan lleiaf i wneud eu busnesau'n fwy croesawgar i bobl anabl. Byddai'r ymagwedd gynhwysol honno, gydag agwedd gadarnhaol ar ran y staff, o fudd i'r holl gwsmeriaid, gan gynnwys pobl â namau cudd a gweladwy, pobl â phramiau, coetsis, dinasyddion hŷn, ac mewn gwirionedd, pobl heb anabledd o gwbl. Ceir her ehangach ynghylch gwasanaeth i gwsmeriaid mewn amrywiaeth o leoedd yr awn iddynt yn rheolaidd gyda'n cwstwm neu yn wir, y rhai y dewiswn beidio â mynd â'n cwstwm iddynt oherwydd profiad gwasanaeth cwsmeriaid. Mae hynny'n rhywbeth y dylai pob busnes roi amser a sylw iddo eto.
Wrth gwrs, dylid cynllunio’r amgylchedd a gwasanaethau i fod mor hygyrch â phosibl i bawb i'r graddau mwyaf posibl. Ac mae rhywbeth yma—ac roeddwn yn falch o glywed yr Aelod yn cydnabod hyn—am y darpariaethau yn y Ddeddf Cydraddoldeb, ond rhywbeth sy'n mynd y tu hwnt i hynny ac yn ôl at y pwynt a wnaethoch yn eich cyfraniad ynghylch gwasanaeth i gwsmeriaid, oherwydd nid yw'n ymwneud yn syml â chydymffurfio â deddfwriaeth, mae'n ymwneud â rhywbeth llawer mwy ac mewn gwirionedd, i nifer o bobl, mae'n ymwneud â rhywbeth llawer mwy gwerthfawr, lle y teimlant eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a'u croesawu go iawn pan fyddant yn defnyddio gwasanaeth.
Mae angen inni hyrwyddo trafodaeth onest ac agored—dyna ymadrodd a glywais o'r blaen, ond trafodaeth agored a gonest rhwng grwpiau anabledd, unigolion, y sector busnes, darparwyr gwasanaethau cyhoeddus a'r trydydd sector er mwyn deall beth y credwn sydd ei angen a beth y credwn sy'n bosibl, boed hynny drwy system sgoriau ar ddrysau neu drwy ddulliau eraill, i ystyried yr opsiynau a beth yw'r cyfle gorau i wneud rhywbeth ymarferol er mwyn gwella hygyrchedd ac ymwybyddiaeth ohono yn ogystal. Ac roeddwn yn falch o glywed y pwyntiau niferus a wnaethoch yn eich cyfraniad.
Fe gyfeirioch chi hefyd at ddiffibrilwyr wrth gwrs, pwnc yr ydych wedi sôn amdano yn y gorffennol ac rwy'n siŵr y byddwch yn sôn amdano eto, boed hynny mewn dadl fer neu mewn cwestiynau, yn y dyfodol. Fe fyddwch yn gwybod ein bod yn rhannu ymrwymiad i wella cyfraddau goroesi pobl sy'n dioddef ataliad ar y galon yn y gymuned. Felly, mae defnydd cyflym o ddiffibriliwr ochr yn ochr ag adfywio cardio-pwlmonaidd (CPR) effeithiol a ffonio 999 cyn gynted â phosibl yn cynnig y gobaith mwyaf i bobl o oroesi. Rwy'n siŵr nad fi yw'r unig berson yn yr ystafell hon sydd wedi gwneud peth o'r hyfforddiant hwnnw eu hunain. Mae fy staff wedi cael hyfforddiant, a hyfforddiant diweddaru yn ogystal. Mae'n rhywbeth y gall pob un ohonom ei wneud i wneud rhywbeth ymarferol am hynny er mwyn ceisio lleihau peth o'r ofn, gan mai un pwynt a wneir yn rheolaidd os oes rhywun wedi cael trawiad ar y galon yw na allwch eu brifo drwy ymyrryd, oherwydd os nad ydych yn ymyrryd, nid ydynt yn mynd i fod yno. Mae rhywbeth yma am symleiddio. Ac mewn gwirionedd, fel pob person sydd wedi cael hyfforddiant i ddefnyddio diffibriliwr, gwnaed argraff fawr arnaf gan y ffaith ei fod yn fater o, 'O, mae'n dweud wrthych go iawn beth i'w wneud'. Felly, mae rhywbeth yma am gael gwared ar beth o'r pryder a fyddai, yn ddigon dealladwy, gan bobl sydd heb gael yr hyfforddiant hwnnw na'r profiad hwnnw.
Felly, mae angen mwy o ymwybyddiaeth o ddiffibrilwyr, sut i'w defnyddio, lle maent wedi'u lleoli, a chefnogi'r ymgyrch i gael mwy ohonynt yn ein cymunedau, a'u bod ar gael ar system fapio diffibrilwyr gwasanaeth ambiwlans Cymru. Rwy'n llwyr gefnogi camau i wneud offer achub bywyd, megis diffibrilwyr, yn fwy hygyrch a chael arwyddion priodol i dynnu sylw at eu lleoliadau, ac unwaith eto, cysondeb wrth wneud hynny hefyd. Wrth gwrs, mae'r rhain ar gael nid yn unig gan sefydliadau masnachol, ond gan amrywiaeth o grwpiau trydydd sector hefyd fel Ambiwlans Sant Ioan, Sefydliad Prydeinig y Galon, ac amryw o rai eraill llai o faint—wyddoch chi, Calonnau Cymru ac elusennau eraill yma yng Nghymru.
Mae gennyf ddiddordeb yn nhrefn a dichonoldeb cael system o'r fath, ond rwy'n agored i dderbyn mwy o wybodaeth ar sut y gallem weld system o'r fath yn gweithio. Mae'n ymwneud â gallu ymarferol i ddatblygu syniad hollol resymol. Fis Mehefin diwethaf, fe fyddwch yn gwybod fy mod wedi lansio ein cynllun ar gyfer ataliad y galon y tu allan i'r ysbyty yng Nghymru—un arall o'n teitlau bachog yn y byd iechyd a llywodraeth yn gyffredinol. Rydym yn y camau cynnar o geisio gweithredu'r cynllun hwnnw a sicrhau gwelliannau go iawn. Ac felly ceir is-grŵp o'r grŵp gweithredu ar gyfer cyflyrau ar y galon, ac maent yn goruchwylio cynnydd yn erbyn yr amcanion yn y cynllun hwnnw. Felly, mae dychweliad cylchrediad naturiol yn cael ei weithredu eisoes—mae'r llwybr yn cael ei weithredu gan wasanaeth ambiwlans Cymru a'r byrddau iechyd.
Y mis diwethaf, cynorthwyodd Llywodraeth Cymru gyda'r gwaith o drefnu gweithdy gweithredu, a gellais fynychu rhan ohono hefyd, er mwyn ceisio ennyn trafodaeth ynglŷn â sut rydym yn cyflawni'r tair dolen gyntaf yn y gadwyn oroesi: nodi cynnar, CPR cynnar a diffibrilio cynnar. Roedd pobl yno o ystod o elusennau clefyd y galon, ynghyd â chynrychiolwyr o'r gwasanaethau brys, a chlywyd siaradwyr yn sôn am weithredu yng Nghymru a'r hyn rydym yn ei wneud eisoes, yn ogystal â dysgu gwersi o'r Alban ac ymwelwyr rhyngwladol o Seattle yn ogystal. Cynhyrchodd y gweithdy drafodaethau angerddol a gwybodus. Mae rhywbeth yma ynghylch y modd y down â'r sector cyfan at ei gilydd i gael y drafodaeth honno ac yna cytuno ar ddewisiadau cenedlaethol. Rydym am ddefnyddio'r egni a'r adborth i weithredu a gwella'r cynllun sydd gennym ymhellach, gan ddefnyddio canlyniadau o'r gweithdy a manteisio ar y profiad o'r Alban hefyd. Rwy'n wirioneddol falch o ddysgu o rannau eraill o'r system yn y DU sydd fwyaf tebyg i ni yma, wrth gwrs. Mae gwaith wedi dechrau ar ddatblygu cynllun gweithredu manwl i gefnogi'r dull cydweithredol hwnnw o gynyddu mynediad at hyfforddiant CPR a'r defnydd o ddiffibrilwyr.
Yn ogystal, rydym yn sefydlu grŵp cyfathrebu i ddatblygu agweddau ar godi ymwybyddiaeth. Byddant yn edrych ar faterion yn ymwneud ag ymwybyddiaeth o ddiffibrilwyr yn ein cymunedau—unwaith eto, y pwynt a wneuthum yn gynharach am symleiddio'r defnydd ohonynt. Bu cynnydd sylweddol sydd i'w groesawu yn ystod y tair blynedd diwethaf yn nifer y diffibrilwyr sydd ar gael i'r cyhoedd y gŵyr y gwasanaeth ambiwlans amdanynt. Mae nifer o ymgyrchoedd wedi helpu i wneud hynny: Diwrnod Adfywio Calon, Shoctober, Defibuary yn eu plith. Wrth gwrs, arweiniodd y ddwy ymgyrch ddiwethaf a nodais at ddysgu CPR ac ymwybyddiaeth o ddiffibrilwyr i bron 13,000 o blant ysgol yn ystod mis Hydref y llynedd. Pleser oedd cael cyfarfod ag amryw o'r bobl hyn mewn nifer o leoliadau gwahanol ledled Cymru fel rhan ohono.
Mewn gwirionedd fe lansiais yr ymgyrch 'Byddwch yn Arwr Diffib' ym mis Chwefror 2015, pan oeddwn yn Ddirprwy Weinidog Iechyd ar y pryd, ac efallai nad oedd bywyd yn symlach, ond roedd yn haws ar un ystyr, o leiaf. Ond ers hynny rydym wedi cael 396 o ddiffibrilwyr ychwanegol wedi'u cofnodi a'u mapio ar system ddosbarthu gwasanaeth ambiwlans Cymru. Ceir cyfanswm o 3,254 o ddiffibrilwyr ar y system ar hyn o bryd, ac maent yn caniatáu i'r sawl sy'n ateb galwad gyfeirio pobl sy'n ffonio at yr un agosaf a'r argaeledd os yw rhywun yn dioddef ataliad ar y galon. Eisoes rydym wedi clywed straeon, o ganlyniad i'r system honno, nid yn unig fod mwy o ddiffibrilwyr yno, ond am fywydau'n cael eu hachub oherwydd bod y diffibrilwyr hynny sydd ar gael i'r cyhoedd wedi cael eu defnyddio. Ac wrth gwrs, mae staff ambiwlans a gwirfoddolwyr wedi bod yn gweithio yn eu cymunedau lleol ar gaffael a lleoli diffibrilwyr, a hyfforddiant dadebru CPR.
Unwaith eto, yn fy etholaeth fy hun, bûm mewn digwyddiad yn hen Ysgol Uwchradd y Dwyrain, gyda chyn-ddisgybl yr oedd ei bywyd ei hun wedi'i achub gan y gwasanaeth iechyd, ac mae'n rhoi llawer yn ôl, yn gwneud—mae'n ffisiotherapydd a hyfforddwr personol sy'n gwneud gwaith adsefydlu gyda chleifion yr ysgyfaint. Mae hi hefyd wedi codi arian, ac mae'n darparu diffibriliwr ar gyfer ei hen ysgol, sy'n mynd i gael ei leoli yn yr ysgol newydd a agorodd yn ddiweddar. Dylai fod rhywbeth ar gael felly yn y rhan o'r ysgol sy'n hygyrch i'r cyhoedd, a bydd ar gael y tu allan i oriau yn ogystal â'r ochr arall i'r ysgol sy'n mynd i fod yn fwy cyfyngedig i oriau gwaith. Mae honno'n enghraifft dda o'r hyn y gwyddom ei fod eisoes yn digwydd mewn nifer o gymunedau ledled y wlad.
Felly, bydd angen amser i weld y cynnydd a wnawn gyda'n cynllun ar gyfer ataliad y galon y tu allan i'r ysbyty ac i adeiladu ar y momentwm sydd gennym gyda rhanddeiliaid, sefydliadau elusennol, y sector cyhoeddus, ac amrywiaeth o fusnesau, yn wir, sy'n hapus i gael eu diffibrilwyr wedi'u mapio ar y system gyhoeddus. Gobeithio y bydd yr Aelodau'n cymryd rhan ac yn hyrwyddo ymgyrch newydd Defibuary gwasanaeth ambiwlans Cymru, sydd wrth gwrs yn dechrau yfory ar 1 Chwefror, ac mae'r ymgyrch yn ymwneud â chodi ymwybyddiaeth o ddiffibrilio cynnar ac annog pawb i ganfod lle mae eu diffibrilwyr agosaf a rhannu hynny ar y cyfryngau cymdeithasol.
Rydym yn cydnabod bod pob eiliad yn cyfrif pan fydd rhywun yn dioddef ataliad ar y galon, felly credaf y bydd gan bob un ohonom genhadaeth gyffredin o ran y modd yr awn ati i helpu i godi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd CPR a diffibrilio cynnar, ac wrth gwrs, byddwn yn parhau i sôn am hynny yn y lle hwn a gweld a ydym wedi gwneud y cynnydd a ddymunwn ac a oes camau eraill y gallem eu rhoi ar waith, gan gynnwys—a gwn beth fyddai orau gan yr Aelod—cael y gallu deddfwriaethol i wneud peth o hyn yn ogystal.
Diolch yn fawr iawn, a dyna ddiwedd y trafodion am heddiw. Diolch.