Part of the debate – Senedd Cymru am 6:45 pm ar 31 Ionawr 2018.
Ie. Diolch, Lywydd—. [Torri ar draws.] O, fe wnaf hyn, ac ni fyddaf yn clecian. Diolch, Ddirprwy Lywydd, a diolch i'r Aelod am gyflwyno'r ddadl gydag araith mor adeiladol. I fod yn deg, dyna a gawn yn gyson gan Suzy Davies ar y ddau fater—hawliau anabledd a materion ehangach yn ymwneud â diffibrilwyr. Rwy'n ymwybodol o'r ddeiseb a grybwyllwyd gennych ar ddechrau eich cyfraniad ynghylch graddio hygyrchedd gwasanaethau i bobl anabl ac nid yw'n syndod ei fod wedi ennyn peth cefnogaeth ac edrychaf ymlaen at ystyriaeth y Pwyllgor Deisebau ohono.
Wrth gwrs, rydym am weld pawb yn cael mynediad cyfartal i siopau, bwytai a mannau cyhoeddus eraill. Mae hynny'n rhywbeth y mae'r rhan fwyaf ohonom yn ei gymryd yn ganiataol. Felly, mewn egwyddor, mae peth rhinwedd i'r syniad, ac rwy'n croesawu awgrymiadau ynghylch agweddau ymarferol a sut y gallai cynllun o'r fath weithio. Credaf y byddai'n well cadw pethau mor syml â phosibl fel ei fod yn hawdd ei ailadrodd a'i ddeall. Gall fod yn anodd i system rifo sylfaenol ystyried yr ystod eang o faterion mynediad gwahanol y byddai angen eu hystyried, ac rwy'n cydnabod yr hyn a ddywedoch am wahanol heriau y mathau gwahanol o anabledd. Ond mae'n argymhelliad i'w groesawu a dylid meddwl drwyddo a'i archwilio'n briodol i weld sut y gallai pob safle fod mor hygyrch â phosibl.
Wrth gwrs, mae yna her, wrth feddwl am ein fframwaith deddfwriaethol presennol o'r Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd wreiddiol yn 1995 ac yn awr y darpariaethau sy'n ffurfio rhan o Ddeddf Cydraddoldeb 2010. Ceir darpariaethau a wnaed yn arbennig ar gyfer siopau a busnesau llai mewn adeiladau hŷn lle nad yw'n bosibl gwneud yr holl addasiadau y byddem fel arall yn disgwyl i adeiladau a busnesau eraill eu gwneud. Ond i'r rhan fwyaf, dylai fod yn bosibl gwneud rhai newidiadau fan lleiaf i wneud eu busnesau'n fwy croesawgar i bobl anabl. Byddai'r ymagwedd gynhwysol honno, gydag agwedd gadarnhaol ar ran y staff, o fudd i'r holl gwsmeriaid, gan gynnwys pobl â namau cudd a gweladwy, pobl â phramiau, coetsis, dinasyddion hŷn, ac mewn gwirionedd, pobl heb anabledd o gwbl. Ceir her ehangach ynghylch gwasanaeth i gwsmeriaid mewn amrywiaeth o leoedd yr awn iddynt yn rheolaidd gyda'n cwstwm neu yn wir, y rhai y dewiswn beidio â mynd â'n cwstwm iddynt oherwydd profiad gwasanaeth cwsmeriaid. Mae hynny'n rhywbeth y dylai pob busnes roi amser a sylw iddo eto.
Wrth gwrs, dylid cynllunio’r amgylchedd a gwasanaethau i fod mor hygyrch â phosibl i bawb i'r graddau mwyaf posibl. Ac mae rhywbeth yma—ac roeddwn yn falch o glywed yr Aelod yn cydnabod hyn—am y darpariaethau yn y Ddeddf Cydraddoldeb, ond rhywbeth sy'n mynd y tu hwnt i hynny ac yn ôl at y pwynt a wnaethoch yn eich cyfraniad ynghylch gwasanaeth i gwsmeriaid, oherwydd nid yw'n ymwneud yn syml â chydymffurfio â deddfwriaeth, mae'n ymwneud â rhywbeth llawer mwy ac mewn gwirionedd, i nifer o bobl, mae'n ymwneud â rhywbeth llawer mwy gwerthfawr, lle y teimlant eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a'u croesawu go iawn pan fyddant yn defnyddio gwasanaeth.
Mae angen inni hyrwyddo trafodaeth onest ac agored—dyna ymadrodd a glywais o'r blaen, ond trafodaeth agored a gonest rhwng grwpiau anabledd, unigolion, y sector busnes, darparwyr gwasanaethau cyhoeddus a'r trydydd sector er mwyn deall beth y credwn sydd ei angen a beth y credwn sy'n bosibl, boed hynny drwy system sgoriau ar ddrysau neu drwy ddulliau eraill, i ystyried yr opsiynau a beth yw'r cyfle gorau i wneud rhywbeth ymarferol er mwyn gwella hygyrchedd ac ymwybyddiaeth ohono yn ogystal. Ac roeddwn yn falch o glywed y pwyntiau niferus a wnaethoch yn eich cyfraniad.
Fe gyfeirioch chi hefyd at ddiffibrilwyr wrth gwrs, pwnc yr ydych wedi sôn amdano yn y gorffennol ac rwy'n siŵr y byddwch yn sôn amdano eto, boed hynny mewn dadl fer neu mewn cwestiynau, yn y dyfodol. Fe fyddwch yn gwybod ein bod yn rhannu ymrwymiad i wella cyfraddau goroesi pobl sy'n dioddef ataliad ar y galon yn y gymuned. Felly, mae defnydd cyflym o ddiffibriliwr ochr yn ochr ag adfywio cardio-pwlmonaidd (CPR) effeithiol a ffonio 999 cyn gynted â phosibl yn cynnig y gobaith mwyaf i bobl o oroesi. Rwy'n siŵr nad fi yw'r unig berson yn yr ystafell hon sydd wedi gwneud peth o'r hyfforddiant hwnnw eu hunain. Mae fy staff wedi cael hyfforddiant, a hyfforddiant diweddaru yn ogystal. Mae'n rhywbeth y gall pob un ohonom ei wneud i wneud rhywbeth ymarferol am hynny er mwyn ceisio lleihau peth o'r ofn, gan mai un pwynt a wneir yn rheolaidd os oes rhywun wedi cael trawiad ar y galon yw na allwch eu brifo drwy ymyrryd, oherwydd os nad ydych yn ymyrryd, nid ydynt yn mynd i fod yno. Mae rhywbeth yma am symleiddio. Ac mewn gwirionedd, fel pob person sydd wedi cael hyfforddiant i ddefnyddio diffibriliwr, gwnaed argraff fawr arnaf gan y ffaith ei fod yn fater o, 'O, mae'n dweud wrthych go iawn beth i'w wneud'. Felly, mae rhywbeth yma am gael gwared ar beth o'r pryder a fyddai, yn ddigon dealladwy, gan bobl sydd heb gael yr hyfforddiant hwnnw na'r profiad hwnnw.