9. Dadl Fer: Agor drysau: sicrhau eglurder ynghylch mynediad i bobl anabl ac argaeledd diffibrilwyr

Part of the debate – Senedd Cymru am 6:40 pm ar 31 Ionawr 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Suzy Davies Suzy Davies Conservative 6:40, 31 Ionawr 2018

(Cyfieithwyd)

Nawr, yr agweddau ymarferol. Y pwynt cyntaf i'w wneud yw bod enghreifftiau achlysurol o'r syniad hwn ar waith eisoes, diolch i sefydliadau megis Cymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth Cymru a'r Gymdeithas Alzheimer. Mae Aberhonddu yn dref sy'n deall dementia, mae Aberdaugleddau yn dref sy'n ystyried awtistiaeth, a'r ddau deitl yn seiliedig yn bennaf ar hyfforddiant ymwybyddiaeth. Mae rhai o'n siopau mawr a'n theatrau wedi cyflwyno cyfnodau siopa tawel neu hamddenol a pherfformiadau i helpu pobl a'u gofalwyr, yn ogystal â staff, i deimlo'n fwy cyfforddus wrth rannu profiadau bob dydd a bydd ganddynt arwyddion neu dystysgrifau i ddangos hynny hefyd.

Dywedodd Mark Isherwood wrthyf ychydig ddyddiau'n ôl, am Communicating With Confidence, elusen fach yng ngogledd-ddwyrain Cymru, sy'n codi ymwybyddiaeth o anawsterau cyfathrebu pobl o bob oedran a phob cefndir o ganlyniad i strôc, clefyd Parkinson's, clefyd niwronau motor ac anafiadau i'r ymennydd. Maent eisiau symbol cyfathrebu cenedlaethol i'w roi ochr yn ochr â'r bathodynnau cyfarwydd ar gyfer nam ar y clyw neu'r golwg a namau corfforol, ac maent eisoes yn defnyddio arwyddion a sticeri yn lleol i hybu ymwybyddiaeth.

Ac o ran diffibrilwyr, wel, rwy'n siŵr eich bod i gyd wedi gweld y nod mellten yn ymddangos mewn mwy o fannau cyhoeddus bellach, ond go brin eu bod ar gael ym mhobman. Rydym yn dal i fod mewn sefyllfa lle na ellir darganfod y wybodaeth allweddol ynglŷn â lle i ddod o hyd i'ch diffibriliwr agosaf heb ffonio'r gwasanaeth ambiwlans, gan golli amser gwerthfawr. Yr wythnos hon, nododd pennaeth Sefydliad Prydeinig y Galon ei gefnogaeth i ymestyn yr egwyddorion yn y ddeiseb hon, gan ddweud,

Mae sicrhau bod y cyhoedd yn gwybod ble y gallant ddod o hyd i ddiffibriliwr neu gymorth gan unigolyn sydd wedi cael hyfforddiant adfywio cardio-pwlmonaidd yn hanfodol i achub bywydau.  

Rwy'n credu mai'r hyn y mae'n ei ddangos, Ysgrifennydd y Cabinet, yw bod pob un ohonom, nid pobl sydd ag anableddau'n unig, yn ymateb i symbolau cyfarwydd lle mae'r symbolau hynny'n gyson ac ar gael yn eang. Er y tybiaf ein bod yn siarad am ymgynghori eto o ran sut rai fyddai unrhyw symbolau newydd, nid yw'r gost o ychwanegu ychydig o symbolau ychwanegol i'r casgliad o sticeri sydd eisoes ar gael, gwefannau neu ddeunydd ysgrifenedig yn debyg o fod yn eithafol.

Pwy ddylai fod yn gyfrifol am hyfforddiant? Wel, mae'n amlwg i mi y dylid cynnal hyfforddiant gan bobl sy'n gwybod beth y maent yn ei wneud, gan gynnwys pobl ag anableddau eu hunain, yn ôl egwyddorion cydgynhyrchu, yn bendant. Nid wyf yn meddwl ei fod y tu hwnt i'r sector i fod yn gyfrifol am y strategaeth a'r cynllunio chwaith, ond mae hwn yn gwestiwn agored o'm rhan i. Gallaf ragweld, er enghraifft, ei fod yn debygol o effeithio ar drwyddedu tacsis, sy'n gyfrifoldeb awdurdod lleol, ond nid yw hynny'n golygu y dylai'r cyngor lleol sy'n brin o arian ysgwyddo cyfrifoldeb am y cynllun cyfan. Mae awdurdodau lleol yn chwarae rhan allweddol yn y system hylendid bwyd a gallai, neu dylai rhannau gwahanol o'r sector cyhoeddus fod yn bartneriaid yn hyn.

Fel erioed, y cwestiynau a fydd yn peri trafferth i bawb fydd cost a chosteffeithiolrwydd. Unwaith eto, rwy'n gwbl agored ar hyn, ond yn yr oes hon o gyllidebau cyfranogol—maent yn dod i'r amlwg bellach—mae hwn yn gynllun sy'n gynnil, yn hawdd ei esbonio ac yn hawdd ei ddeall. Felly, pam na ddylid ei gynnig fel syniad? Yr egwyddor o gyllidebau cyfunol a mwy o gydweithredu rhwng sectorau yw'r cyfeiriad rydym yn mynd iddo hefyd, felly mae llai o reswm bellach, rwy'n meddwl, i ddweud bod rhaid i hyn gael ei ariannu o gyllideb iechyd ganolog neu gyllideb yr awdurdod lleol. Nid oes unrhyw reswm mewn egwyddor pam na all pen cyfoethocach y sector elusennau pobl anabl gyfrannu at gyllideb gyffredin. Archwiliwch yr holl syniadau a pheidiwch â gadael i'r hen fodelau ariannol lethu datblygiad syniadau newydd gwych.

Ac yna, yn olaf, mewn perthynas â chosteffeithiolrwydd, y peth cyntaf i'w nodi gyda hyn yw nad yw'n disodli cydymffurfiaeth â Deddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd 2005. Nid yw'n ymwneud â gorfodi na hyd yn oed arfer hawliau. Mae'n ymwneud yn bennaf â gwybodaeth, ond hyd yn oed wedyn mae'n rhan o rywbeth mwy. Credaf fod diddordeb yn y cynllun hwn yn dystiolaeth bellach fod cymdeithas yn dod yn fwy parod i dderbyn, pa un ai'n fwriadol ai peidio, y model cymdeithasol o anabledd, fod anabledd yn nodwedd o sut y caiff cymdeithas ei threfnu, yn hytrach na nam sy'n rhaid byw gydag ef.

Nid oes unrhyw rwymedigaeth yn y system hon i berchnogion busnesau wneud unrhyw beth â'u safle. Dyna'n union yw'r sgoriau ar y drysau: gwybodaeth i'r cyhoedd. Os ydynt yn arwain at berswâd tawel i fusnesau wella eu gwasanaethau, a chredaf y byddai'n debyg o wneud hynny, yna ni fuaswn yn dadlau y dylid codi tâl ar y busnesau hynny am ail asesiad, fel sy'n digwydd yn achos tystysgrifau hylendid bwyd.

Mae gwella ei hun yn gam tuag at ad-drefnu cymdeithas yn y fath fodd. Gwelaf y cynllun hwn fel un gwerthfawr iawn i bobl heb anableddau. Pan fydd arwyddion yn dod yn rhan o'r dirwedd, i'r graddau nad ydych yn sylwi arnynt efallai, yna maent wedi cyflawni rhywbeth. Mae'n debyg i groesi Pont Hafren, ac mae'n gwawrio arnoch yn araf nad yw'r arwyddion ffyrdd yn ddwyieithog mwyach. Efallai nad ydych yn siarad Cymraeg, ond mae eich disgwyliad anymwybodol, di-weld yn cael ei herio am eiliad, oherwydd nad yw rhywbeth sydd fel arfer yno yno, yn rhyfedd, a dyna rwy'n gallu ei weld yn digwydd yma: pob un ohonom yn dod mor gyfarwydd â'r disgwyliad o hygyrchedd cyffredinol fel ei fod yn rhoi ysgytiad bach bob tro y gwelwn sgôr wael.

Dyma pam rwy'n cefnogi'r syniad hwn yn hytrach nag apiau neu ffynonellau eraill o wybodaeth uniongyrchol i bobl ag anableddau, er mor ddefnyddiol y bônt. Oherwydd nid yw'n ymwneud yn unig â gwasanaethau i bobl ag anableddau; mae'n hwb tuag at y newid cymdeithasol cadarnhaol hwn. Mae a wnelo â normaleiddio disgwyliad o fynediad ar gyfer pawb, syndod os yw adeiladau'n anhygyrch i grwpiau o bobl ag anabledd penodol, a bod hyn yn ystyriaeth bob dydd i bawb, o'r cynllunydd tref i'r pensaer, o'r adran adnoddau dynol i'r cynrychiolydd undeb. Credaf fod hynny'n werth mawr am arian am ychydig o sticeri, Ysgrifennydd y Cabinet, a gobeithiaf y byddwch yn mynd ar drywydd y syniad hwn yn frwd. Diolch.