Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi Cadwaladr

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:35 pm ar 6 Chwefror 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mr Neil Hamilton Mr Neil Hamilton UKIP 1:35, 6 Chwefror 2018

(Cyfieithwyd)

Wel, diolch i'r Prif Weinidog am yr ateb cryno yna. Dywedodd yr Ysgrifennydd dros iechyd yn ddiweddar bod pethau wedi gwaethygu i Betsi Cadwaladr yn 2017-18 i bob pwrpas, er gwaethaf mesurau arbennig. Dywedodd yn benodol ei bod wedi bod yn dorcalonnus ac yn annerbyniol bod problemau wedi gwaethygu yn ystod 2017-18 o ran y sefyllfa ariannol a rhai meysydd allweddol o berfformiad. Nid yw Betsi Cadwaladr wedi gallu clirio ei ôl-groniad llawdriniaeth ers o leiaf wyth mlynedd erbyn hyn, ac, er bod y £13 miliwn ychwanegol a gyhoeddwyd yn ddiweddar i'w groesawu'n fawr iawn, mae'n eglur efallai fod angen hyd at £50 miliwn i dynnu'r rhestrau aros i lawr o fewn eu targed 36 wythnos. Ceir adroddiad hynod feirniadol a gyhoeddwyd gan Deloitte, llawer ohono wedi ei atal gan y bwrdd iechyd ac na roddwyd ar gael i'r cyhoedd ei ddarllen. Mae'n dweud yn hwn mai prin yw'r wybodaeth am sut y mae'r bwrdd iechyd yn mynd i adfer ei sefyllfa ariannol yn y pen draw. A all y Prif Weinidog ddweud wrthym ni pryd y byddwn ni'n gallu—[Torri ar draws.] Ie, fe wnaf i ofyn hyn. Pam mae Llywodraeth Cymru yn methu yn ei dyletswydd i bobl y gogledd, i roi iddynt y math o wasanaeth iechyd modern y dylai gwlad fel Prydain ei haeddu?