1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 6 Chwefror 2018.
2. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y cymorth ariannol sydd wedi cael ei ddarparu i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr? OAQ51731
Gwnaf. Mae dyraniad refeniw Llywodraeth Cymru i fwrdd iechyd Betsi Cadwaladr dros £1.3 biliwn yn y flwyddyn ariannol gyfredol.
Wel, diolch i'r Prif Weinidog am yr ateb cryno yna. Dywedodd yr Ysgrifennydd dros iechyd yn ddiweddar bod pethau wedi gwaethygu i Betsi Cadwaladr yn 2017-18 i bob pwrpas, er gwaethaf mesurau arbennig. Dywedodd yn benodol ei bod wedi bod yn dorcalonnus ac yn annerbyniol bod problemau wedi gwaethygu yn ystod 2017-18 o ran y sefyllfa ariannol a rhai meysydd allweddol o berfformiad. Nid yw Betsi Cadwaladr wedi gallu clirio ei ôl-groniad llawdriniaeth ers o leiaf wyth mlynedd erbyn hyn, ac, er bod y £13 miliwn ychwanegol a gyhoeddwyd yn ddiweddar i'w groesawu'n fawr iawn, mae'n eglur efallai fod angen hyd at £50 miliwn i dynnu'r rhestrau aros i lawr o fewn eu targed 36 wythnos. Ceir adroddiad hynod feirniadol a gyhoeddwyd gan Deloitte, llawer ohono wedi ei atal gan y bwrdd iechyd ac na roddwyd ar gael i'r cyhoedd ei ddarllen. Mae'n dweud yn hwn mai prin yw'r wybodaeth am sut y mae'r bwrdd iechyd yn mynd i adfer ei sefyllfa ariannol yn y pen draw. A all y Prif Weinidog ddweud wrthym ni pryd y byddwn ni'n gallu—[Torri ar draws.] Ie, fe wnaf i ofyn hyn. Pam mae Llywodraeth Cymru yn methu yn ei dyletswydd i bobl y gogledd, i roi iddynt y math o wasanaeth iechyd modern y dylai gwlad fel Prydain ei haeddu?
Wel, rwy'n cael pregeth gan aelod o UKIP ar ariannu'r gwasanaeth iechyd yn briodol, pan fo arweinydd ei blaid ei hun wedi dweud ar un adeg na ddylai fod unrhyw wasanaeth iechyd a ariennir yn gyhoeddus o gwbl. A gaf i ddweud, o ran ateb ei gwestiwn—[Torri ar draws.]
Fe gaf i fy ymddiheuriad yr wythnos nesaf, gaf i, ar ddechrau cwestiynau? [Torri ar draws.]
Gadewch i'r Prif Weinidog barhau â'i ateb, os gwelwch yn dda.
Mae ef wedi cyfeirio at ddyraniad o £13.1 miliwn i Betsi Cadwaladr a'r cymorth ar gyfer datblygu gofal heb ei drefnu cynaliadwy—£1.5 miliwn dros ddwy flynedd. Beth mae hynny'n ei olygu? Wel, ein disgwyliadau, erbyn mis Ebrill 2018, yw y dylai fod gostyngiad i amseroedd atgyfeirio i driniaeth o tua 50 y cant yn y niferoedd sy'n aros dros 36 wythnos, a chynnydd i barhau i mewn i 2018 a 2019, a chamau adfer ariannol a fydd yn arwain at y bwrdd iechyd yn bodloni'r rhagolwg diwygiedig o £36 miliwn ar ddiwedd y flwyddyn, ac yn gwella i mewn i 2018 i 2019.
Mae'r data diweddaraf ar gyfer bwrdd Betsi yn dangos bod 9,526 o gleifion sydd angen triniaeth wedi bod yn aros dros 36 wythnos erbyn hyn, o'u hatgyfeiriad. Mae'r ffigur hwnnw wedi mwy na dyblu o'r adeg y gwnaed y bwrdd yn destun mesurau arbennig, ac mae 41 y cant o'r rhain yn achosion orthopedig a thrawma. Ym mis Rhagfyr, addawodd eich Ysgrifennydd y Cabinet i haneru'r nifer honno erbyn mis Mawrth eleni, ac yr wythnos diwethaf, wrth gwrs, cawsom addewid pellach o gamau gweithredu ar unwaith a'r dyraniad o £13.1 miliwn i wella amseroedd aros ac £1.5 miliwn ar gyfer rhaglen gofal heb ei drefnu. Ond cyfaddefodd hefyd fod angen rhoi sylw brys i ofal iechyd meddwl yn y bwrdd hwn. Fel ein Prif Weinidog, pa gamau y byddwch chi yn eu cymryd i sicrhau nad oes yr un o'r addewidion hyn yn cael eu torri, ac a wnewch chi sicrhau hefyd y bydd y cyllid diweddaraf hwn yn cyrraedd y cleifion rheng flaen mewn gwirionedd, ac yn helpu ar gyfer canlyniadau cadarnhaol yn y bwrdd iechyd hwn sydd dan warchae?
Wel, rwy'n credu fy mod i wedi rhoi'r ateb i'r cwestiwn blaenorol, o ran sut y bydd yr arian yn cael ei wario.
Mae cyllid ychwanegol i wella amseroedd aros i'w groesawu'n fawr, wrth gwrs, ond nid yw'n gynaliadwy, yn amlwg. Nid yw'n mynd i'r afael â'r problemau capasiti sylfaenol sydd gennym ni yn y gwasanaeth iechyd yn y gogledd—dim digon o feddygon, dim digon o nyrsys, a'ch Llywodraeth chi yn amlwg ddim yn gwneud digon i fynd i'r afael â rhai o'r heriau sylfaenol hynny. A beth mae hyn yn ei ddweud am waith y Blaid Lafur o redeg y gwasanaeth iechyd gwladol ei bod yn ymddangos bod eich Llywodraeth, ddwy flynedd ar ôl cymryd rheolaeth uniongyrchol, wedi cymryd Betsi Cadwaladr o'r categori mesurau arbennig i rywbeth sy'n edrych braidd fel mesurau arbennig iawn?
Na, mae'n ffordd amlwg o atal gwasanaethau mamolaeth rhag gwaethygu. Mae'n dangos yr hyn y gellir ei gyflawni gyda gweithredu a chymorth wedi'i dargedu. Ceir heriau sylweddol o hyd y mae'r bwrdd iechyd yn eu hwynebu ac mae angen rhagor o gynnydd a gweithredu ar frys i weddnewid gwasanaethau iechyd meddwl. Mae Ysgrifennydd y Cabinet, ynghyd â'r cyfarwyddwr cyffredinol, yn cynnal cyfarfodydd atebolrwydd misol gyda chadeirydd a phrif weithredwr BIP Betsi Cadwaladr. Byddwn yn cyflwyno fframwaith diwygiedig ar gyfer Betsi Cadwaladr dros y 12 i 18 mis nesaf, gyda cherrig milltir a disgwyliadau wedi eu nodi, ac wedi eu cytuno'n amlwg gydag Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, Swyddfa Archwilio Cymru a'r BIP ei hun.