Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:37 pm ar 6 Chwefror 2018.
Mae ef wedi cyfeirio at ddyraniad o £13.1 miliwn i Betsi Cadwaladr a'r cymorth ar gyfer datblygu gofal heb ei drefnu cynaliadwy—£1.5 miliwn dros ddwy flynedd. Beth mae hynny'n ei olygu? Wel, ein disgwyliadau, erbyn mis Ebrill 2018, yw y dylai fod gostyngiad i amseroedd atgyfeirio i driniaeth o tua 50 y cant yn y niferoedd sy'n aros dros 36 wythnos, a chynnydd i barhau i mewn i 2018 a 2019, a chamau adfer ariannol a fydd yn arwain at y bwrdd iechyd yn bodloni'r rhagolwg diwygiedig o £36 miliwn ar ddiwedd y flwyddyn, ac yn gwella i mewn i 2018 i 2019.