Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:00 pm ar 6 Chwefror 2018.
Clywaf yr hyn y mae'r Aelod yn ei ddweud ac, wrth gwrs, nid wyf yn amau hynny.
Ysgrifennodd y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol at y Gwasanaeth Ymgynghorol Diogelu Catholig hefyd i geisio sicrwydd eu bod nhw'n cymryd camau o ran pryderon cyfredol. Nid ydynt yn achosion ar wahân. Rwy'n deall hynny. Ynys Bŷr, wrth gwrs, yw'r achos sydd wedi bod fwyaf yn y newyddion, ond rwy'n gobeithio fy mod i wedi rhoi rhywfaint o gysur iddi am yr hyn yr ydym ni wedi ei wneud fel Llywodraeth, o ystyried ein cyfrifoldebau datganoledig, i sicrhau na fydd y sefyllfa hon yn digwydd eto.