1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 6 Chwefror 2018.
4. Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda chyrff sector cyhoeddus i wella y broses o ymdrin ag achosion hanesyddol o gam-drin rhywiol? OAQ51725
Wel, bwriwyd ymlaen â'r gwersi o ymchwiliad Waterhouse gyda chyrff cyhoeddus Cymru. Cryfhawyd trefniadau diogelu trwy ddeddfwriaeth, gan gynnwys dyletswydd newydd i adrodd, ac mae'r Bwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol, a grŵp cyfeirio amlasiantaeth Cymru wedi eu sefydlu mewn partneriaeth â'r ymchwiliad annibynnol i gam-drin plant yn rhywiol.
Diolch, Prif Weinidog. Rwy'n sylweddoli'r cyfyngiadau datganoledig ynghylch y cwestiwn hwn, ond yn fy swyddogaeth fel Aelod Cynulliad dros etholaeth, rwyf wrthi ar hyn o bryd yn ymdrin â nifer o achosion hanesyddol o gam-drin rhywiol, ac rwy'n gorfod siarad, yn rheolaidd, â phobl sydd wedi dioddef loes a thrawma aruthrol.
Ar sawl achlysur, mae'n ymddangos y bu amharodrwydd pendant a llwyr gan Wasanaeth Erlyn y Goron i fwrw ymlaen ag erlyniad, er gwaethaf tystiolaeth dda a gadarnhawyd, naill ai oherwydd newidiadau i'r gyfraith yn ystod y blynyddoedd yn y cyfamser—os ydych chi'n sôn am rywbeth, dyweder, 30 mlynedd yn ôl, mae'r oed o allu cael eich rhoi ar brawf, er enghraifft, am drosedd yn amlwg wedi newid, yn 1985 neu 1987 rwy'n credu—neu oherwydd, yn eu barn nhw, nid yw er budd y cyhoedd. Ond, wrth gwrs, mae o fudd i'r rheini sydd wedi eu heffeithio. Mae gen i un achos lle'r aeth yr hawlwyr, yn y pen draw, â'u hachos eu hunain i'r Uchel Lys ac ennill, a chafodd welliant yn yr erlyniad neu yn y dyfarniad. A oes unrhyw beth y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i gadw cydbwysedd o ran penderfyniadau Gwasanaeth Erlyn y Goron, a'r heddlu, er mwyn sicrhau ein bod ni'n sicrhau cyfiawnder yn ogystal â siarad am gyfiawnder a cheisio cael ein gweld yn cael cyfiawnder?
Yn uniongyrchol, wrth gwrs, nid yw'r cyrff hyn yn ddatganoledig. Ein barn ni yw y dylen nhw fod, ond dydyn nhw ddim, ac mae hynny ar gyfer amser arall. Ond mae hi'n gwbl gywir i ofyn beth, felly, yr ydym ni wedi ei wneud fel Llywodraeth o ran adleisio ei phryderon. Wel, yn amlwg, rydym ni wedi mynegi ein hatgasedd at y ffaith na dderbyniodd y goroeswyr yn yr achos hwn yr ymateb yr oeddent yn ei haeddu. Rydym ni wedi cyflwyno dyletswydd i hysbysu am blant sydd mewn perygl, a dyletswydd i hysbysu am oedolion sydd mewn perygl, i sicrhau bod pryderon ynghylch cam-drin pobl yn cael eu hadrodd ac y gellir ymchwilio iddynt yn briodol. Gwn fod y Gweinidog Plant a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cysylltu â bwrdd diogelu plant rhanbarthol canolbarth a gorllewin Cymru i ofyn am ddiweddariad ar gamau sy'n cael eu cymryd i fynd i'r afael â phryderon a godwyd am y trefniadau diogelu presennol. Rwy'n deall bod Heddlu Dyfed-Powys a sir Benfro wedi cyfarfod â chynrychiolwyr o Ynys Bŷr gan fod angen cryfhau eu trefniadau—
Nid yw'n ymwneud ag Ynys Bŷr yn unig.
Clywaf yr hyn y mae'r Aelod yn ei ddweud ac, wrth gwrs, nid wyf yn amau hynny.
Ysgrifennodd y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol at y Gwasanaeth Ymgynghorol Diogelu Catholig hefyd i geisio sicrwydd eu bod nhw'n cymryd camau o ran pryderon cyfredol. Nid ydynt yn achosion ar wahân. Rwy'n deall hynny. Ynys Bŷr, wrth gwrs, yw'r achos sydd wedi bod fwyaf yn y newyddion, ond rwy'n gobeithio fy mod i wedi rhoi rhywfaint o gysur iddi am yr hyn yr ydym ni wedi ei wneud fel Llywodraeth, o ystyried ein cyfrifoldebau datganoledig, i sicrhau na fydd y sefyllfa hon yn digwydd eto.
Wel, nid yw cam-drin rhywiol hanesyddol yn dod yn hanesyddol os ydym yn ymdrin ag ef yn y fan a'r lle. Rydym ni'n gwybod bod ymchwiliad gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru o ganlyniad i honiadau Kris Wade, ond bu'n rhaid cael pwysau cyhoeddus a gwleidyddol sylweddol i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd sefydlu'r adroddiad penodol hwn gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru. Fe'm syfrdanwyd na ddaeth gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru eu hunain—y bydden nhw'n chwarae rhan fwy rhagweithiol o ran gweld lle ceir honiadau o gam-drin, ac iddyn nhw fwrw ymlaen â'r adroddiadau penodol hynny felly. Beth ydych chi'n ei wneud fel Llywodraeth i sicrhau y ceir gweithdrefnau cwynion unffurf, bod pobl yn teimlo'n hyderus y gallant ddod ymlaen gyda'r honiadau hyn, fel na fydd y problemau hyn gennym ni yn y dyfodol, lle mae pobl yn gorfod mynd yn ôl mewn amser, fel y dywedodd Angela Burns, yn sôn am les y cyhoedd, yn sôn am yr hyn sy'n berthnasol yma nawr, pan, i'r bobl hynny sydd wedi cael eu cam-drin, y mae'n bwysig iawn iddyn nhw gael atebion i'r cwestiynau hynny?
Mae'r Aelod yn codi achos trallodus iawn, yr wyf innau'n gyfarwydd ag ef. Os caf i ysgrifennu ati hi, gan roi mwy o fanylion iddi o ran yr ateb y mae'n chwilio amdano—oherwydd mae'n bwysig, wrth gwrs, bod y system gwynion mor syml â phosibl ac nad oes unrhyw beth yn disgyn drwy'r bylchau, ond byddaf yn ysgrifennu ati hi gydag ateb, ateb manwl, i'w chwestiwn.