Cronfa Buddsoddi i Arbed

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:55 pm ar 6 Chwefror 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 1:55, 6 Chwefror 2018

(Cyfieithwyd)

Wel, gadewch i ni gael golwg ar rai o'r buddsoddiadau a wnaed sydd o fantais i gynghorwyr etholedig: dyfarnwyd £2.2 miliwn yn ddiweddar i Fwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg, sy'n cynnwys £769,000 ar gyfer moderneiddio'r system cofnodion cleifion fel y gellir dod o hyd i gofnodion a'u bod ar gael, £400,000 ar gyfer gostwng lefelau salwch yn y bwrdd a £441,000 ar gyfer gwasanaeth gofal sylfaenol y tu allan i oriau—nawr, nid yw hynny'n ymddangos i mi fel helpu cynghorwyr; £500,000 i'r elusen iechyd meddwl Hafal, ac mae hynny wedi cefnogi datblygiad cyfleuster adsefydlu iechyd meddwl arbenigol, y cyntaf o'i fath yn y DU, sydd er lles y cyhoedd; £3 miliwn i Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru; a £108,000 i wasanaethau cymdeithasol cyngor Abertawe i weithio gyda phobl ifanc i dorri'r cylch o blant a oedd yn derbyn gofal yn derbyn gofal eu hunain. Mae hon yn ffordd y mae arian cyhoeddus yn gwneud gwahaniaeth, ac rwy'n synnu nad yw UKIP yn barod i ganmol hynny.