Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:56 pm ar 6 Chwefror 2018.
Prif Weinidog, fel yr ydych chi wedi ei nodi eisoes, mae'r fenter buddsoddi i arbed yn fy ardal i, Gorllewin De Cymru, wedi ei ganolbwyntio ar y gwasanaeth iechyd. Mae PABM wedi cael arian ar gyfer y system gofnodion newydd, a hefyd arian ar gyfer yr academi, y gwasanaeth y tu allan i oriau, i wella hynny, a hefyd ar gyfer ailystyried llywodraethu meddyginiaethau a rheoli meddyginiaethau. Dyna'r math o fuddsoddiad sy'n gwella effeithlonrwydd, ac felly'n darparu gwell gwasanaethau i'm hetholwyr. A ydych chi'n cytuno â mi bod angen i ni wneud mwy o hyn i sicrhau y gall cleifion gael gwell gwasanaethau allan o PABM, gan y byddant yn gwella cynhyrchiant ac effeithlonrwydd?