Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:39 pm ar 6 Chwefror 2018.
Na, mae'n ffordd amlwg o atal gwasanaethau mamolaeth rhag gwaethygu. Mae'n dangos yr hyn y gellir ei gyflawni gyda gweithredu a chymorth wedi'i dargedu. Ceir heriau sylweddol o hyd y mae'r bwrdd iechyd yn eu hwynebu ac mae angen rhagor o gynnydd a gweithredu ar frys i weddnewid gwasanaethau iechyd meddwl. Mae Ysgrifennydd y Cabinet, ynghyd â'r cyfarwyddwr cyffredinol, yn cynnal cyfarfodydd atebolrwydd misol gyda chadeirydd a phrif weithredwr BIP Betsi Cadwaladr. Byddwn yn cyflwyno fframwaith diwygiedig ar gyfer Betsi Cadwaladr dros y 12 i 18 mis nesaf, gyda cherrig milltir a disgwyliadau wedi eu nodi, ac wedi eu cytuno'n amlwg gydag Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, Swyddfa Archwilio Cymru a'r BIP ei hun.