Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:57 pm ar 6 Chwefror 2018.
Wel, bwriwyd ymlaen â'r gwersi o ymchwiliad Waterhouse gyda chyrff cyhoeddus Cymru. Cryfhawyd trefniadau diogelu trwy ddeddfwriaeth, gan gynnwys dyletswydd newydd i adrodd, ac mae'r Bwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol, a grŵp cyfeirio amlasiantaeth Cymru wedi eu sefydlu mewn partneriaeth â'r ymchwiliad annibynnol i gam-drin plant yn rhywiol.