1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 6 Chwefror 2018.
6. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o ganiatâd cynllunio a newid defnydd o ran tafarndai yng Nghymru? OAQ51734
Rydym ni'n cydnabod y cyfraniad pwysig y mae tafarndai yn ei wneud i gymunedau. Rydym ni'n gweithio gyda grwpiau cymunedol a chynrychiolwyr eraill, gan gynnwys yr Ymgyrch Dros Gwrw Go Iawn—rwy'n datgan buddiant fel aelod—ar y ffordd orau o ddiogelu safleoedd a chyfleusterau ac i helpu i ddod â phobl at ei gilydd. Rwyf i wedi dweud erioed mai casgliad o dai yw cymuned heb dafarn. Yn aml iawn, rwyf i wedi gweld hyn yn digwydd yn fy rhan i o'r byd. Byddwn yn ymgynghori ar adolygiad o'r Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Dosbarthiadau Defnydd) ym mis Mai, gyda'r bwriad o ystyried sut y gallwn ni ddiogelu ein tafarndai yn well.
Diolch am yr ymateb yna. Do, soniasoch ar achlysur blaenorol eich bod chi'n aelod o CAMRA, ac mae'n dda eich bod chi'n cymryd rhan yn y byd cwrw go iawn. Rydym ni'n ceisio—. Mae gennym ni grŵp trawsbleidiol nawr. Mae Nick yn rhan ohono hefyd. Simon Thomas sy'n ei redeg. Rydym ni'n mynd i'ch helpu, gobeithio, i fwrw ymlaen â hyn, gan ein bod ni wedi bod yn aros cryn amser am ddatganiad ar hyn. Nid wyf i eisiau rhagweld beth fydd canlyniad eich adolygiad, ond mae gennym ni—wel, mae ganddyn nhw—Ddeddf Lleoliaeth 2011 yn Lloegr nawr, felly mae honno'n rhoi rhywfaint o ddiogelwch i dafarndai fel asedau o werth i'r gymuned. A allai hwnnw fod yn gyfeiriad y gallech chi fod yn ystyried ei ddilyn yng Nghymru?
Wel, rydym ni wedi bod yn gweithio gyda CAMRA, ac mae'r gwaith hwnnw wedi bod yn ddefnyddiol i archwilio goblygiadau rhannu dosbarthiad defnydd bwyd a diod A3, a byddwn yn ystyried sut y gallai hynny weithio. Rydym ni hefyd yn ystyried yr argymhellion a wnaed gan Brifysgol Gorllewin Lloegr o ran gweithrediad y Gorchymyn dosbarthiadau defnydd, a soniais sut bydd yr ymgynghoriad yn mynd rhagddo yn hynny o beth. Mae'n wir i ddweud, i rai tafarndai, nad yw'r busnes yn hyfyw mwyach, ond ceir llawer o dafarndai yr wyf i'n gwybod amdanynt lle'r oedd yn fusnes gwbl hyfyw ond bod mwy o arian i'w wneud o droi'r tafarndai hynny'n fflatiau. Dyna'r hyn y mae'n rhaid i ni fod yn wyliadwrus ohono yn y dyfodol, gan fod tafarndai yn asedau arbennig o bwysig i'n trefi a'n pentrefi a'n cymunedau ledled Cymru, ac rydym ni eisiau gwneud yn siŵr y gallwn ni wneud popeth o fewn ein gallu i amddiffyn y rhai sy'n hyfyw ac sy'n darparu gwasanaeth o'r fath i bobl leol.
Rwyf innau hefyd wedi cymryd rhan ym myd CAMRA dros y blynyddoedd, Prif Weinidog, felly mae gennym ni rywbeth yn gyffredin y gallwn ni siarad amdano dros beint rywbryd. Rwy'n cytuno â'r safbwyntiau a fynegwyd gan Gareth Bennett. Cynhaliwyd digwyddiad CAMRA yn y Cynulliad yr wythnos diwethaf, ac rwy'n falch o weld y grŵp trawsbleidiol ar gwrw a'r dafarn yn cael ei ailsefydlu. Ceir llawer o faterion sy'n wynebu tafarndai ledled Cymru. Roeddech chi'n iawn i ddweud yn eich ateb, Prif Weinidog, nad yw tafarndai yn dafarndai yn unig. Nhw, i lawer o'n cymunedau gwledig yn arbennig, yw calon ein cymunedau, a phan fyddwch chi'n colli'r dafarn, rydych chi'n colli canolfan y gymuned leol. Yn y digwyddiad CAMRA, clywsom fod llawer o dafarndai yn cau yng Nghymru bob wythnos, ac ar draws y ffin yn Lloegr, mae'r gyfraith cynllunio wedi ei newid i wneud newid defnydd yn fwy anodd. A ydych chi'n bwriadu dilyn hynny gyda newidiadau tebyg yma? Clywaf yr hyn yr ydych chi'n ei ddweud am gyflwyno Gorchymyn yn ddiweddarach yn y flwyddyn. A fyddwch chi'n ystyried cyfyngu'r gyfraith cynllunio fel ei bod hi'n llawer mwy anodd newid tafarn, yn enwedig mewn ardal wledig, i ddefnydd arall?
Mae pob dewis yn agored o ran sut i wneud hynny. Rydym ni eisiau dod o hyd i'r ffordd fwyaf effeithiol o'i wneud er mwyn gwneud yn siŵr bod ein tafarndai yn cael eu diogelu.