Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:01 pm ar 6 Chwefror 2018.
Mae'r Aelod yn codi achos trallodus iawn, yr wyf innau'n gyfarwydd ag ef. Os caf i ysgrifennu ati hi, gan roi mwy o fanylion iddi o ran yr ateb y mae'n chwilio amdano—oherwydd mae'n bwysig, wrth gwrs, bod y system gwynion mor syml â phosibl ac nad oes unrhyw beth yn disgyn drwy'r bylchau, ond byddaf yn ysgrifennu ati hi gydag ateb, ateb manwl, i'w chwestiwn.