1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 6 Chwefror 2018.
7. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am berfformiad ariannol cynghorau tref a chymuned yng Nghymru? OAQ51732
Gwnaf. Rwy'n croesawu asesiad diweddaraf Archwilydd Cyffredinol Cymru bod cynnydd wedi ei wneud o ran gwella perfformiad ariannol, ond bod angen i gynghorau tref a chymuned wneud mwy o hyd i sicrhau bod ganddyn nhw drefniadau atebolrwydd cadarn ar waith.
Diolch, Prif Weinidog. Rwy'n falch eich bod chi wedi darllen yr adroddiad. Ond, fel y dywedasoch yn gywir, mae'r archwilydd cyffredinol wedi mynegi nifer o bryderon. Un peth, yn arbennig, fodd bynnag: £41.5 miliwn yw cronfeydd wrth gefn cynghorau lleol ar hyn o bryd. Mae hwn yn arian y mae trethdalwyr wedi ei dalu trwy archebiant cyngor i ddarparu gwasanaethau ar eu cyfer. Nododd hefyd bod cynghorau cymuned yng Nghymru yn derbyn safbwyntiau archwilio amodol diangen—dros 170—a methodd 81 o gynghorau â chydymffurfio â'r amserlen statudol ar gyfer cyhoeddi eu cyfrifon, a chyflwynodd 174 ohonynt ffurflenni anghyflawn. Nawr, rwy'n gwybod bod adolygiad cynghorau cymuned, trawsbleidiol, sy'n parhau, ac roeddwn i'n gweithio gyda'r Ysgrifennydd Cabinet blaenorol ar hynny. Fodd bynnag, mae'r broses ymgynghori yn amwys dros ben, ac nid yw'n ceisio mynd i'r afael â'r materion sylfaenol o onestrwydd ariannol ac atebolrwydd archwiliadwy, y mae'r archwilydd cyffredinol y teimlo'r angen i'w godi flwyddyn ar ôl blwyddyn. A wnewch chi weithio gyda'ch Ysgrifennydd y Cabinet er mwyn mynd i'r afael â diffygion y lefel benodol hon o lywodraethu democrataidd?
Rwy'n credu y dylem ni fod yn ofalus i beidio â phriodoli methiannau i bob cyngor tref a chymuned. Rydym ni'n gwybod bod rhai sydd wedi cael trafferthion, rydym ni'n gwybod bod rhai sy'n fach iawn—yn fach iawn, iawn—ac, weithiau, mae'n anodd gweld sut maen nhw'n ymdopi o bryd i'w gilydd, ond maen ymddangos eu bod nhw.
O ran y panel adolygu, wel, i fod yn eglur, cylch gwaith y panel hwnnw yw ystyried swyddogaeth bosibl llywodraeth leol islaw cynghorau awdurdodau lleol, gan fanteisio ar arfer gorau i ddiffinio'r modelau neu'r strwythurau mwyaf priodol i gyflawni'r swyddogaeth hon, ac i ystyried sut y dylid cymhwyso'r modelau a'r strwythurau hynny ledled Cymru. Nawr, yn rhan o hynny, wrth gwrs, mae cynaliadwyedd ariannol yn ffactor pwysig. Mae'r panel wrthi'n casglu tystiolaeth ar hyn o bryd ac yn ceisio barn cynghorau cymuned, ie, ond hefyd y cymunedau y maen nhw'n eu gwasanaethu a'r bobl y maen nhw'n gweithio â nhw. Ac, yn wir, mae'r panel eisoes wedi cael tystiolaeth gan Swyddfa Archwilio Cymru.
Prif Weinidog, rydym ni'n clywed yn aml y gair 'cyni' yn cael ei ddefnyddio yn y Siambr hon. Felly, o ystyried maint cyfyngedig llawer o'n hawdurdodau lleol, sut gellir cyfiawnhau'r arian sy'n cael ei wario ar gynghorau cymuned, o'r safbwynt bod angen cost prif weithredwr, sawl aelod o staff, a nifer o adeiladau swyddfa i hwyluso eu gweithrediadau? Mewn geiriau eraill, Prif Weinidog, beth mae cynghorau cymuned yn ei gynnig na allai llywodraeth leol ei weithredu eu hunain?
Nid wyf yn ymwybodol o unrhyw gynghorau tref neu gymuned sydd â phrif weithredwr, mae'n rhaid i mi ddweud. Rwy'n ymwybodol o'r rheini sydd â chlercod, ac mae rhai yn llawn amser a rhai yn rhan-amser. Rwy'n credu bod cynghorau tref a chymuned yn lefel hynod werthfawr o lywodraeth. Os yw'r Aelod yn awgrymu y dylem ni ddiddymu, er enghraifft, Cyngor Tref Pen-y-bont ar Ogwr neu Gyngor Tref Porthcawl, yna mae croeso iddo esbonio hynny i unrhyw—[Torri ar draws.]—ar wahân i'r Rhondda, wrth gwrs, lle nad oes unrhyw gynghorau cymuned—mae croeso iddo ddod ac esbonio hynny iddyn nhw. Yr hyn sy'n bwysig yw nid ein bod ni'n dileu lefel gyfan o lywodraeth leol, ond ein bod ni'n ceisio dod o hyd i ffyrdd o gryfhau'r lefel honno yn y dyfodol.