Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:14 pm ar 6 Chwefror 2018.
Diolch yn fawr iawn am yr ateb yna. Efallai eich bod chi'n gwybod bod digwyddiadau ychwanegol yn Abertawe a Chaerfyrddin newydd gael eu hychwanegu at y rhaglen ymgynghori ar gyfer masnachfraint GW, masnachfraint Great Western, a gobeithiaf y bydd etholwyr yng Ngorllewin De Cymru yn manteisio ar y cyfle hwn i ddadlau'r achos dros gael gorsaf parcffordd Abertawe i'r gogledd-orllewin o'r ddinas. O ystyried y diddordeb trawsbleidiol mewn metro gorllewin Abertawe, os caf ei alw'n hynny, ac ymrwymiad eich Llywodraeth i'r cysyniad o hynny, wrth gwrs, a allwch chi ddweud wrthyf pa arian y mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi ei ymrwymo neu ei wario ar ddichonoldeb a chwmpasu pellach, efallai, y tu hwnt i syniadau gwreiddiol yr Athro Barry? Diolch.