1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 6 Chwefror 2018.
9. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y ddarpariaeth o drafnidiaeth yng Ngorllewin De Cymru? OAQ51728
Gwnaf. Mae ein diweddariad o'r cynllun cyllid trafnidiaeth cenedlaethol a gyhoeddwyd yn ddiweddar yn nodi darpariaeth rhaglen uchelgeisiol o welliannau i ffyrdd, rheilffyrdd, bysiau a theithio llesol ar gyfer y tair blynedd nesaf, a bydd hynny'n helpu i sicrhau bod y de-orllewin wedi ei gysylltu drwy system trafnidiaeth gyhoeddus hygyrch, fforddiadwy, dibynadwy a chwbl integredig.
Diolch yn fawr iawn am yr ateb yna. Efallai eich bod chi'n gwybod bod digwyddiadau ychwanegol yn Abertawe a Chaerfyrddin newydd gael eu hychwanegu at y rhaglen ymgynghori ar gyfer masnachfraint GW, masnachfraint Great Western, a gobeithiaf y bydd etholwyr yng Ngorllewin De Cymru yn manteisio ar y cyfle hwn i ddadlau'r achos dros gael gorsaf parcffordd Abertawe i'r gogledd-orllewin o'r ddinas. O ystyried y diddordeb trawsbleidiol mewn metro gorllewin Abertawe, os caf ei alw'n hynny, ac ymrwymiad eich Llywodraeth i'r cysyniad o hynny, wrth gwrs, a allwch chi ddweud wrthyf pa arian y mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi ei ymrwymo neu ei wario ar ddichonoldeb a chwmpasu pellach, efallai, y tu hwnt i syniadau gwreiddiol yr Athro Barry? Diolch.
Rydym ni wedi ariannu gwaith datblygu'r cysyniad cychwynnol ar gyfer metro Bae Abertawe o'r gronfa drafnidiaeth leol. Caiff y cam hwnnw o'r gwaith datblygu ei gwblhau erbyn diwedd y mis nesaf. Rydym ni wedi dyrannu £4,378,940 o'r gronfa drafnidiaeth leol yn 2017-18 ar gyfer dinas-ranbarth bae Abertawe. Yn ogystal â gwaith cysyniad y metro, rydym ni'n gwybod bod cynlluniau yn Abertawe, megis y gyfnewidfa ar bont Baldwin a chynllun teithio llesol Kingsbridge, sy'n enghreifftiau o fannau lle mae gwelliannau i drafnidiaeth yn cael eu gwneud.
Byddai gorsaf parcffordd Abertawe wedi ei lleoli ar reilffordd rhanbarth Abertawe, ac rwy'n amau y byddai angen rhywfaint o uwchraddio arni. Mae'n cario gwasanaethau i deithwyr achlysurol ar hyn o bryd. Rheilffordd cludo nwyddau yw hi yn bennaf, ond serch hynny byddai'n gwasanaethu ardal sylweddol o ran ogleddol Abertawe a rhan isaf Cwm Tawe, yn yr un modd ag y mae Bristol Parkway yn gwasanaethu rhan benodol o Fryste o'i gymharu â Bristol Temple Meads.