Part of the debate – Senedd Cymru am 3:02 pm ar 6 Chwefror 2018.
Rydw i'n croesawu'r datganiad pwysig yma, ac os caf i ddweud hefyd, rydw i'n croesawu'r ymddiheuriad a ges i gan y Prif Weinidog yn gynharach heddiw.
Roeddech chi'n cyfeirio yn eich datganiad at sail dystiolaethol i bolisi'r Llywodraeth, ac rydw i'n cyd-fynd yn hollol â hynny, ac mae'r ymchwil yr oeddech chi wedi'i chomisiynu gan Ysgol Busnes Caerdydd yn ddefnyddiol ac yn ddiddorol. Beth sydd ddim gyda ni mor belled, wrth gwrs, ydy astudiaeth traweffaith—impact—llawn, yn dangos y gwahaniaeth rhwng y senarios gwahanol. Dyna'r math o astudiaeth mae Llywodraeth yr Alban wedi'i chyhoeddi, maer Llundain, ac wrth gwrs mae hi wedi'i datgelu erbyn hyn o ran Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol, ac rydych chi'n cyfeirio at hynny, a hefyd at astudiaethau eraill ar draws y Deyrnas Gyfunol. Oni fyddai'n ddefnyddiol i ni yng Nghymru gael astudiaeth o'r math hwnnw, fel ein bod ni'n gallu rhoi ffigwr ar yr agendor yma o ran effaith y gwahanol senarios, er mwyn i ni wneud yr achos hyd yn oed yn gryfach?
Roedd Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi, wythnos diwethaf, rydw i'n credu, papur sydd yn ymwneud â'r cwestiwn yma o rôl Llywodraethau is-wladwriaethol o ran y polisi masnach. Mi oedd yr adroddiad wedi gwneud nifer o argymhellion i Lywodraeth Cymru o ran recriwtio negodwyr dylanwadol, tîm o negodwyr, a hefyd datblygu, bron a bod, gwasanaeth para-ddiplomyddol, os gallwch chi ei alw fe'n hynny, o ran Cymru yn dylanwadu ar lefelau gwahanol yn rhyngwladol, wrth gwrs, cyn Brexit ac ar ôl. A ydych chi'n bwriadu gweithredu rhai o’r argymhellion hyn?
Ac yn olaf, wrth roi tystiolaeth ddoe i'r Pwyllgor Gweinyddiaeth Cyhoeddus a Materion Cyfansoddiadol, fe ddywedoch chi nad oedd yn bosibl i fod yn gwbl glir ynglŷn â pha fath o Brexit yr oedd pobl yn pleidleisio drosto. Onid oes cyfle yn y fan hyn i ni ddefnyddio, yng Nghymru, y pŵer sydd gyda ni fel Senedd i gynnal refferendwm cynghorol, a holi pobl Cymru pa fath o Brexit y maen nhw am ei weld? A ydyn nhw’n cytuno â ni mai’r opsiwn gorau i economi Cymru yw aelodaeth o’r farchnad sengl a’r undeb tollau?