3. Datganiad gan y Prif Weinidog: 'Y Polisi Masnach: materion Cymru'

– Senedd Cymru am 2:45 pm ar 6 Chwefror 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 2:45, 6 Chwefror 2018

(Cyfieithwyd)

Byddwn yn symud ymlaen yn awr at y datganiad gan y Prif Weinidog ar bolisi masnach Cymru. Galwaf ar y Prif Weinidog, Carwyn Jones.

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 2:46, 6 Chwefror 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch, Llywydd. Rydym ni wedi cyhoeddi dogfen newydd yn ein cyfres o bapurau safbwynt polisi Brexit dan yr enw 'Y Polisi Masnach: materion Cymru'. Dyma'r pumed yn ein cyfres o bapurau, sy'n nodi sut yr ydym yn credu y dylem ni yng Nghymru, a'r DU yn ei chyfanrwydd, ymateb i'r heriau sylweddol iawn yn sgil penderfyniad y DU i adael yr Undeb Ewropeaidd. Mae'r papur yn nodi ein dyheadau polisi masnach ac yn adlewyrchu'r gwaith dadansoddol ac ymarferol yr ydym yn ei wneud wrth baratoi ar gyfer ymadael â'r Undeb Ewropeaidd.

Llywydd, mae'r papur hwn yn dangos pwysigrwydd masnach i Gymru. Mae Cymru yn genedl sy'n edrych allan ar y byd, sy'n masnachu yn fyd-eang, ac rydym wedi ymrwymo i ryngwladoliaeth. Fodd bynnag, ni allwn golli golwg ar y ffaith bod mwyafrif clir—61 y cant—o allforion nwyddau Cymru yn mynd yn syth i'r Undeb Ewropeaidd a bod ein hanes cryf o ddenu mewnfuddsoddiad yn adlewyrchu ein sefyllfa hanesyddol o gynnig amgylchedd sy'n addas ar gyfer busnes o fewn marchnad sengl Ewrop.

Mae'r gwaith yr ydym wedi'i wneud dros y 12 mis diwethaf, gan gynnwys yr ymchwil a gomisiynwyd gan Ysgol Busnes Caerdydd—a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf hefyd—ond wedi cryfhau ein hargyhoeddiad mai'r safbwynt a nodwyd gennym yn y Papur Gwyn 'Diogelu Dyfodol Cymru' y llynedd, a luniwyd ar y cyd â Phlaid Cymru, yw'r un cywir. Mae mynediad llawn a dilyffethair parhaus i'r farchnad sengl yn hanfodol i fuddiannau economaidd Cymru yn y dyfodol, fel y mae parhau i fod yn rhan o undeb tollau gyda'r UE. Ni welsom unrhyw ddadleuon economaidd cadarn i'r gwrthwyneb, ac mae'r wybodaeth a ryddhawyd heb awdurdod yn ddiweddar am ddadansoddiad Llywodraeth y DU o'n dyfodol economaidd y tu allan i'r UE yn awgrymu bod hyn am nad oes dadl o'r fath.

A gaf i bwysleisio yn y fan hon ymrwymiad cryf Llywodraeth Cymru i bolisi sy'n seiliedig ar dystiolaeth? Wrth gwrs, mae gennym adnoddau cyfyngedig ac, wrth gwrs, ni allwn ddarogan y dyfodol yn gwbl gywir. Ond gallwn ni, ac rydym ni wedi, casglu tystiolaeth ynghylch pa faterion ymarferol y mae ein busnesau mwy o faint yn eu hwynebu o ganlyniad i'r bleidlais i adael yr UE, a byddwn yn parhau â rhagor o ymchwil yn canolbwyntio ar fusnesau llai. Gallwn wrando'n astud, ac rydym yn gwneud hynny, ar y dystiolaeth gan randdeiliaid yng Nghymru a thu hwnt am oblygiadau'r gwahanol senarios o ran eu gallu i weithredu'n effeithiol yn y dyfodol.

Ar y sail honno, Llywydd, o wrando ar y dystiolaeth, nid ar ryw eithafiaeth ideolegol, yr ydym wedi penderfynu ar ein safbwynt o gefnogi'r berthynas agosaf bosib â'r farchnad sengl a'r undeb tollau, un sy'n gwbl gydnaws â chyflawni'r mandad gan y refferendwm o beidio â bod yn aelod-wladwriaeth o'r UE—safbwynt sydd hefyd, yn fras, yn unol â safbwynt y prif sefydliadau busnes yn ogystal â'r TUC.

Dyna wahaniaeth, felly, i Weinidogion Llywodraeth y DU, sydd yn ôl pob golwg yn ymosod ar eu gweision sifil eu hunain am fethu â meddwl am yr atebion cywir a dal eu dwylo dros eu clustiau i atal eu hunain rhag clywed y galw cynyddol am Brexit synhwyrol; Brexit sy'n rhoi buddiannau ein heconomi yn gyntaf, nid un a bennir gan y llinellau coch mympwyol a nodir gan y Prif Weinidog yn ei haraith yn Lancaster House.

Wrth gwrs, rydym ni'n derbyn yn llwyr bod yna gyfleoedd masnachu sylweddol y tu allan i Ewrop hefyd, ond nid ydym o'r farn y dylai Llywodraeth y DU fynd ar drywydd cytundebau masnach rydd ar draul ein perthynas fasnachu â'n cymdogion agosaf a mwyaf integredig yn economaidd. Dylid ystyried datblygu perthynas fasnachu newydd â gwledydd eraill ledled y byd fel rhywbeth i ategu'r berthynas â'r UE ac nid rhywbeth yn ei lle.

Mae Brexit yn achosi heriau mawr i'n heconomi. Ond, fel y nodwyd gennym yn ein papur 'Brexit a Datganoli', mae hefyd yn codi cwestiynau am y ffordd yr ydym yn rheoli cysylltiadau rhynglywodraethol yn y DU. Dros y 45 mlynedd diwethaf, mae'r Undeb Ewropeaidd wedi bod â chymhwysedd ecsgliwsif i reoli'r tollau a'r polisi masnachol cyffredin—negodi a chytuno ar gytundebau masnach rhyngwladol—ar ran y DU. Pan fyddwn yn gadael yr UE, er y bydd masnach ryngwladol yn parhau i fod yn fater a gedwir yn ôl o ran ein setliad datganoli, bydd angen cydweithredu dyfnach a mwy parhaus rhwng gweinyddiaethau datganoledig a Llywodraeth y DU ynghylch y materion hyn. Oherwydd bydd gan y polisi masnach groestoriad sylweddol â phwerau datganoledig, megis safonau amgylcheddol, datblygiad economaidd, amaethyddiaeth a physgodfeydd, a sgiliau a chymwysterau. Ni all Llywodraeth y DU ddatblygu polisi masnach sy'n addas at ei ddiben ar gyfer y DU gyfan ar ei ben ei hun—rhywbeth y mae Llywodraeth y DU ei hun yn ei gydnabod.

Nid wyf yn gyfarwydd â chael fy hun yn cytuno â Dr Liam Fox, ond mae'r Papur Gwyn ar fasnach 'Preparing for our future UK Trade Policy', a gyhoeddwyd gan Lywodraeth y DU yr hydref diwethaf, yn eithaf clir am hyn. Mae'n dweud y bydd y gweinyddiaethau datganoledig â buddiant uniongyrchol yn ein cytundebau masnach yn y dyfodol. Byddwn yn gweithio'n agos â nhw i sicrhau dull o weithredu sy'n gweithio ar gyfer y DU gyfan ac sy'n adlewyrchu anghenion ac amgylchiadau unigol yn Lloegr, yr Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon, gan fanteisio ar eu gwybodaeth a'u harbenigedd hanfodol.

O'n rhan ni, rydym wedi galw am sefydlu cyngor o Weinidogion y Deyrnas Unedig, sy'n dwyn ynghyd Weinidogion datganoledig â Gweinidogion y DU, a ddylai gael eu cynnwys yn llawn ar bob cam datblygu a gweithredu ein polisi masnach yn y dyfodol. Yn y tymor byrrach, dylid sefydlu cyd-bwyllgor gweinidogol newydd ar fasnach ryngwladol i gytuno ar ddulliau ar y cyd ar fasnach.

Rwy'n cymeradwyo'r papur hwn i'r Cynulliad, felly, ac yn croesawu unrhyw gwestiynau.

Photo of Mark Isherwood Mark Isherwood Conservative 2:51, 6 Chwefror 2018

(Cyfieithwyd)

Ddoe, dywedodd negodwr yr EU, Michel Barnier ei fod yn parchu penderfyniad y DU i ddiystyru unrhyw fath o undeb tollau tymor hir, ond fe ychwanegodd—ac rwy'n siŵr y bydd y Prif Weinidog yn cyfeirio at hyn—heb undeb tollau a'r tu allan i'r farchnad sengl,

'mae rhwystrau i fasnachu nwyddau a gwasanaethau yn anochel', sydd, wrth gwrs, yr union sefyllfa y byddem yn ei disgwyl ar ddechrau trafodaethau tuag at fargen gytûn ac yr un mor ddigyfaddawd, mae'n ymddangos, â'r safbwynt a gymerwyd ar ddechrau'r negodi ar y trafodaethau [Cywiriad: bargen] cam 1, a gwblhawyd yn llwyddiannus gyda chyfaddawd ar y ddwy ochr cyn y Nadolig.

Mewn ymateb ddoe, dywedodd yr Ysgrifennydd Gwladol ar gyfer gadael yr Undeb Ewropeaidd yn Llywodraeth y DU, David Davis, ei fod yn dymuno cael bargen fasnach rydd gyda'r UE, ond hefyd y rhyddid i daro bargen â gwledydd eraill lle mae cyfleoedd masnach yn tyfu. Wel, gan fod y Prif Weinidog dro ar ôl tro wedi datgan ei fod yn derbyn canlyniad y refferendwm ac yn credu bod hon yn fwy o bleidlais brotest nag yn ymwneud â rheolaeth ar ffiniau, cyfreithiau, masnach ac arian, a wnaiff gadarnhau i bobl Cymru y byddai parhau gydag aelodaeth o'r farchnad sengl a'r undeb tollau yn golygu na allai'r DU daro bargeinion masnach â gwledydd y tu allan i'r UE, heblaw drwy'r UE?

Yn ôl ffigurau Tollau Tramor a Chartref Ei Mawrhydi a'r Swyddfa Ystadegau Gwladol ac yn ddarostyngedig i addasiadau bach ar gyfer cyllid, teithio a thrafnidiaeth, mae tua 90 y cant o economi'r DU ac 85 y cant o economi Cymru nad ydynt yn ymwneud ag allforio i'r UE. Mae'r DU yn gwneud mwy o fasnach â gweddill y byd nag â'r UE. Gwn, yng Nghymru, fod y sefyllfa ychydig yn wahanol , ond rydym yn sôn am negodiadau i farchnad sengl y DU, y mae Cymru yn allweddol iddynt. Mae masnach gyda gweddill y byd yn tyfu'n gyflymach na masnach y DU gyda'r UE, ac oherwydd bod yr UE yn gwerthu tua £80 biliwn yn fwy i'r DU na'r DU i'r UE, yn amlwg, ni fyddai o fudd iddyn nhw i stopio'r masnachu hwnnw.

Pan gyfarfu'r Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol â Llywodraeth Fflandrys, dywedasant wrthym eu bod yn dibynnu ar fynediad i farchnadoedd y DU a Chymru ac yn gweithio gyda sectorau a rhanbarthau tebyg ar draws yr UE yr oedd oedd angen bargen arnynt i'w galluogi i barhau i gael mynediad didrafferth i farchnad y DU. Felly, pa ymgysylltu a gawsoch gyda'r sectorau a'r rhanbarthau ar draws yr UE y mae angen bargen arnynt sy'n eu galluogi i barhau i gael masnach rydd gyda Chymru a'r DU?

Wrth gwrs, cyhoeddodd Cyllid a Thollau EM fanylion y newidiadau i sut y cyfrifir ystadegau masnach ranbarthol ym mis Mai 2016. Y canlyniad oedd, dan yr hen fethodoleg, fod allforion Cymru i'r UE  yn cyfrif am 39.2 y cant o'r holl allforion yn y pedwar chwarter a oedd yn dod i ben ym mis Mehefin 2016, ond, ar un ergyd, cododd hynny i 67.4 y cant o holl allforion Cymru. Felly, yn ymarferol, nid oedd llawer wedi newid. Nawr, yn ei ddatganiad heddiw ac yn y ddogfen a gyhoeddwyd ddydd Gwener diwethaf, mae'r Prif Weinidog yn sôn bod tua 61 y cant o nwyddau adnabyddadwy Cymru a allforir yn cael eu masnachu gyda marchnad sengl yr UE. Felly pam mae'r ffigur hwnnw eisoes, mae'n debyg, wedi gostwng o 67 y cant i 61 y cant?

Mae'n sôn am ei gred bod mynediad parhaus llawn a dilyffethair i farchnad sengl Ewrop yn hanfodol i ddatblygu buddiannau economaidd Cymru, ac yn dweud,

'Rydym yn dal i fod heb ein hargyhoeddi bod gadael undeb tollau gyda'r UE o fudd i ni, o leiaf ar gyfer y dyfodol rhagweladwy.' 

Beth ydych yn ei olygu wrth 'o leiaf ar gyfer y dyfodol rhagweladwy'? Byddem yn ddiolchgar pe gallech egluro. A yw hynny yn gyfnod pontio yn unig, neu a oes gennych chi rywbeth arall mewn golwg. Fel y dywedwch, rydych chi,

'yn croesawu cydnabyddiaeth Llywodraeth y DU yn ei Phapur Gwyn, Paratoi ar gyfer ein polisi Masnach y DU yn y Dyfodol, fod gan Lywodraethau datganoledig (a...deddfwrfeydd) rôl bwysig mewn llunio polisi masnach yn y dyfodol'.

Ond, mewn tystiolaeth, fel y clywsom yn gynharach gan arweinydd Plaid Cymru, ddoe gennych chi i Bwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Gweinyddiaeth Gyhoeddus Tŷ'r Cyffredin, dywedasoch nad ydych yn credu y dylem gael feto, ond ei fod yn eithriadol o bwysig inni gael ymgynghoriad. Ac, wrth gwrs, yn eich saith mlynedd yn y swydd, rydych wedi meithrin yr economi allforio leiaf amrywiol yn y DU, sy'n gadael Cymru yn dibynnu'n fwy nag unrhyw genedl arall ar yr UE. Felly, pa drafodaethau y mae swyddogion Llywodraeth Cymru yn eu cael gyda Llywodraeth y DU, sydd, mi wn, yn mynd yn eu blaen yn fanwl ynghylch fframweithiau, am farchnad sengl y DU gyda dulliau cytûn ar amrywiaeth o faterion, wrth gwrs, gan gynnwys masnach? Efallai y gallech roi adroddiad o gynnydd ar drafodaethau sydd yn digwydd eisoes yn amlwg. Diolch.

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 2:57, 6 Chwefror 2018

(Cyfieithwyd)

Mae amser yn brin, ac eto nid oes gennym syniad beth yw diweddgan Llywodraeth y DU. Nid ydym yn gwybod ym mha sefyllfa y maent yn dymuno bod. Mae gennym, ar y naill law, Jacob Rees-Moggs y byd hwn yn dweud nad oes ots am dariffau, does dim ots os ydym yn colli swyddi gweithgynhyrchu, oherwydd gwneir yn iawn amdanynt  mewn rhyw ffordd amhenodol, ac yna mae gennym gangen arall o'r Blaid Geidwadol yn mynnu y dylai Jacob Rees-Mogg gael ei ddiarddel. Mae hyn yn rhoi rhyw syniad o'r anhrefn a geir wrth galon Llywodraeth y DU.

Os yw'n sôn am gytundeb masnach rydd gyda'r UE, bydd yr UE yn ceisio alinio gyda'r farchnad y mae ganddi gytundeb masnach rydd â hi. Beth yw'r gwahaniaeth o ran ble'r ydym yn awr o'i gymharu â chytundeb masnach rydd? Bydd rhai yn dweud bod cytundebau masnach rydd yn gyfle i ni gael cytundebau masnach rydd gyda gwledydd eraill. Pa rai? Pa rai? Mae pawb yn sôn am Seland Newydd—ar gyfer beth? Gwledydd megis Tsieina— ffarwel, ddiwydiant dur. Mae angen inni fod yn ofalus iawn, iawn o ran pa fath o gytundebau masnach rydd ddylai fod gennym, ac mae hwn yn addewid gwag. Os na ellir dod i gytundeb gyda'n marchnad agosaf, fwyaf, fwyaf cyson, nid oes gennym unrhyw obaith o gytundebau masnach rydd sy'n cymryd chwech neu saith mlynedd i'w negodi, ar gyfartaledd, gydag unrhyw economi arall, a pham y byddem eisiau hynny? Un o'r pethau a glywaf gan Brexiteers yw'r awgrym hwn, rywsut, nad yw Ewrop yn bwysig, 'Anghofiwch am hynny, yn hytrach edrychwch ar economïau eraill'. Rwy'n anghytuno; Ewrop yw ein marchnad bwysicaf. Mae'n fwy na'r Unol Daleithiau, mae ar garreg ein drws, nid yw 3,500 o filltiroedd i ffwrdd. Mae anwybyddu ein marchnad bwysicaf un, rwy'n credu, yn ffolineb.

Nawr, mae Mark Isherwood yn sôn am ennill rheolaeth ar arian. Nid oeddwn yn ymwybodol bod y DU yn yr ewro, felly dydw i ddim yn deall beth mae'n ei olygu gyda rheolaeth ar arian. O ran cyfreithiau, wel, rhaid i hynny fod yn berthnasol, wrth gwrs, i'r lle hwn yn ogystal â Senedd y DU. O ran masnach, wel, un o'r pethau a ddywedodd yn nes ymlaen oedd bod ein heconomi yn wan oherwydd ei bod yn dibynnu ar yr UE. Beth ar y ddaear sydd o'i le â dibynnu ar fasnach ag Ewrop? Nid ydym yn awtarciaeth, ac mae'n bwysig dros ben ein bod yn masnachu gyda gwledydd eraill ac economïau eraill fel Ewrop.

Yn olaf, ar ffiniau, beth am hoelio'r  chwedl hon unwaith eto. Ni fydd ac ni all y DU reoli ei ffiniau ei hun. Nid yw hynny'n mynd i ddigwydd. Pam? Oherwydd bod gan y DU dir sydd yn ffinio â Gweriniaeth Iwerddon a fydd yn ffin agored. Felly, gadewch inni setlo hyn nawr: mae'r syniad hwn y bydd y DU yn rheoli ei ffiniau mewn rhyw ffordd gyda rheolaethau ar ei ffiniau yn anghywir, ac mae hynny'n rhywbeth y mae angen ei bwysleisio drosodd a throsodd.

O ran yr hyn a ddywedodd am gytundebau masnach, ie, wrth gwrs ein bod eisiau gweld y cysylltiadau masnachu gorau posib ag economïau eraill. Rydym yn edrych ar wledydd eraill. Os edrychwn ar gig oen Cymru, er enghraifft, mae'n cael ei werthu yn yr Emiraethau Arabaidd Unedig. Ond ni allwn anwybyddu'r ffaith bod gennym economi fawr a marchnad fawr ar garreg ein drws. Nid oes marchnad—nid  oes marchnad—a fydd yn disodli'r farchnad ar gyfer allforio cig defaid Cymru yn y farchnad sengl Ewropeaidd. Nid yw'n bodoli. Nid yw'n bodoli. A phan glywaf Brexiteers, fel Jacob Rees-Mogg ac eraill, yn dweud, 'bydd yn golygu y cawn fwyd rhatach', yr hyn y maent yn ei olygu yw y bydd bwyd yn cael ei fewnforio a bydd ein ffermwyr yn cael eu twyllo. Dyna beth maent yn ei olygu. Felly, gadewch inni fod yn gwbl glir am hynny: maent yn barod i fradychu'r diwydiant amaethyddiaeth fel bod mewnforion yn rhad, a byddant yn gwneud yr un peth ar gyfer diwydiannau eraill. Pam? Pam? Oherwydd nid yw'n bwysig iddynt. Os ydych yn gwrando ar rai economegwyr, nid yw'n bwysig: 'Beth os collwn swyddi gweithgynhyrchu, oherwydd gwneir iawn am hynny mewn rhyw ffordd yn y diwydiannau gwasanaeth?' Felly, ffarwel, ddiwydiant dur; nid ydych yn cyfrif. Awyrenneg, ceir—ddim yn cyfrif. 'Economeg heb fodau dynol', yr wyf yn galw hynny, ond dyna'r hyn a argymhellir gan y Brexiteers caled. Os edrychwn, er enghraifft, ar— [Torri ar draws.]

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 3:00, 6 Chwefror 2018

(Cyfieithwyd)

Na, na, na, datganiad yw hwn.

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour

(Cyfieithwyd)

Mae'n sôn am Lywodraeth Fflandrys. Wrth gwrs mae'r DU yn farchnad bwysig, ond mae uniondeb y farchnad sengl Ewropeaidd yn llawer pwysicach i unrhyw wlad neu unrhyw weithgynhyrchydd na dim arall. Dywedwyd wrthym y byddai gwneuthurwyr ceir yr Almaen yn gyrru—mae'n debyg y byddent yn gyrru—i'n hachub. Maen nhw wedi dweud yn eithaf clir, 'Mae'r DU yn farchnad bwysig, ond mae uniondeb y farchnad sengl Ewropeaidd yn llawer pwysicach i ni, ac nid ydym yn mynd i wneud unrhyw beth i darfu ar hynny.' Felly, nid oedd hynny'n wir, a chanfuwyd ei fod yn anghywir.

O ran ein hallforion, mae'r ffigur yn amrywio, o ran y 60au— weithiau i fyny, weithiau i lawr. Ond yr hyn sy'n gwbl glir yw bod y mwyafrif llethol o'n hallforion yn mynd i'r farchnad sengl. A yw hynny'n golygu na ellir gwerthu yno yn y dyfodol? Na, wrth gwrs nad ydyw. Nid yw'n golygu na allwn fasnachu a gwerthu yn y farchnad sengl Ewropeaidd. Y cyfan y mae'n ei olygu yw y bydd yr hyn a gynhyrchwn yn agored i rwystrau nad ydynt yn bodoli ar hyn o bryd, boed yn rhwystrau ariannol neu'n rhwystrau tariff—gwaith papur, biwrocratiaeth. Mae pobl yn sôn am leihau biwrocratiaeth; dyma lond gwlad o fiwrocratiaeth sydd yn mynd i gael ei gosod ar fusnes o ganlyniad i Brexit ac mae'r rhwystrau hynny yn bwysig, oherwydd byddai'n golygu ein bod yn llai cystadleuol yn y marchnadoedd hynny. Rydym eisoes yn gwybod bod rhai gwledydd yn Ewrop yn edrych ar gynhyrchu ŵyn mynydd ysgafn, oherwydd maent yn meddwl y bydd ein cynnyrch yn fwy costus ar y farchnad Ewropeaidd a byddant yn gallu cystadlu yn ein herbyn. A rhaid inni fod yn hollol glir ynghylch hynny.

Soniodd am ba hyd y dylai aelodaeth o'r undeb tollau bara. Wel, hyd nes fod dewisiadau eraill gwell, a dweud y gwir. Cyfnod trosiannol, ie, ond nid wyf yn glynu at y syniad y dylai'r cyfnod trosiannol fod am gyfnod penodedig o amser. Siawns na ddylai'r cyfnod trosiannol fod am gyhyd ag sy'n dda i'r  DU ac yn dda i Gymru.

Ac yna, yn olaf, o ran fframweithiau—holodd am fframweithiau. Gwneir cynnydd ar y fframweithiau. Mae trafodaethau yn digwydd. Maent heb ragfarn, wrth gwrs, i ddod i gytundeb ar gymal 11, a chymalau eraill y Bil Ymadael sy'n effeithio ar y setliad datganoli, ond mae'r trafodaethau hynny yn mynd rhagddynt. A gallaf weld o fainc flaen y Ceidwadwyr bod y Brexiters caled eisoes wedi eu diarddel. [Chwerthin.]

Photo of Adam Price Adam Price Plaid Cymru 3:02, 6 Chwefror 2018

Rydw i'n croesawu'r datganiad pwysig yma, ac os caf i ddweud hefyd, rydw i'n croesawu'r ymddiheuriad a ges i gan y Prif Weinidog yn gynharach heddiw.

Roeddech chi'n cyfeirio yn eich datganiad at sail dystiolaethol i bolisi'r Llywodraeth, ac rydw i'n cyd-fynd yn hollol â hynny, ac mae'r ymchwil yr oeddech chi wedi'i chomisiynu gan Ysgol Busnes Caerdydd yn ddefnyddiol ac yn ddiddorol. Beth sydd ddim gyda ni mor belled, wrth gwrs, ydy astudiaeth traweffaith—impact—llawn, yn dangos y gwahaniaeth rhwng y senarios gwahanol. Dyna'r math o astudiaeth mae Llywodraeth yr Alban wedi'i chyhoeddi, maer Llundain, ac wrth gwrs mae hi wedi'i datgelu erbyn hyn o ran Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol, ac rydych chi'n cyfeirio at hynny, a hefyd at astudiaethau eraill ar draws y Deyrnas Gyfunol. Oni fyddai'n ddefnyddiol i ni yng Nghymru gael astudiaeth o'r math hwnnw, fel ein bod ni'n gallu rhoi ffigwr ar yr agendor yma o ran effaith y gwahanol senarios, er mwyn i ni wneud yr achos hyd yn oed yn gryfach?

Roedd Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi, wythnos diwethaf, rydw i'n credu, papur sydd yn ymwneud â'r cwestiwn yma o rôl Llywodraethau is-wladwriaethol o ran y polisi masnach. Mi oedd yr adroddiad wedi gwneud nifer o argymhellion i Lywodraeth Cymru o ran recriwtio negodwyr dylanwadol, tîm o negodwyr, a hefyd datblygu, bron a bod, gwasanaeth para-ddiplomyddol, os gallwch chi ei alw fe'n hynny, o ran Cymru yn dylanwadu ar lefelau gwahanol yn rhyngwladol, wrth gwrs, cyn Brexit ac ar ôl. A ydych chi'n bwriadu gweithredu rhai o’r argymhellion hyn?

Ac yn olaf, wrth roi tystiolaeth ddoe i'r Pwyllgor Gweinyddiaeth Cyhoeddus a Materion Cyfansoddiadol, fe ddywedoch chi nad oedd yn bosibl i fod yn gwbl glir ynglŷn â pha fath o Brexit yr oedd pobl yn pleidleisio drosto. Onid oes cyfle yn y fan hyn i ni ddefnyddio, yng Nghymru, y pŵer sydd gyda ni fel Senedd i gynnal refferendwm cynghorol, a holi pobl Cymru pa fath o Brexit y maen nhw am ei weld? A ydyn nhw’n cytuno â ni mai’r opsiwn gorau i economi Cymru yw aelodaeth o’r farchnad sengl a’r undeb tollau?

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 3:05, 6 Chwefror 2018

Mae gwaith wedi cael ei wneud gan Ysgol Busnes Caerdydd yn edrych ar yr effaith ar fusnesau, ac rydym ni, wrth gwrs, yn ystyried tystiolaeth sydd wedi dod o astudiaethau eraill ynglŷn â’r gwahanol senarios. Rydym ni’n gwybod beth sy’n mynd i ddigwydd gyda Brexit caled. Mae hynny’n amlwg ynglŷn â beth y mae Ysgol Busnes Caerdydd wedi ei ddweud. Nid yw’n stori sydd yn rhoi unrhyw fath o help i ni.

Un o’r pethau yr ydym ni wedi ei wneud fel Llywodraeth yw sicrhau bod yna sawl Papur Gwyn wedi cael eu cyhoeddi. Rydym ni wedi bod yn gwbl glir ynglŷn â pha fath o gyfeiriad y dylai Brexit ei gymryd, fel Llywodraeth. Fe ofynnodd e gwestiwn ynglŷn â phwerau para-ddiplomataidd ac a ydyw hynny’n bwysig. Ydy, mae fe. Rwyf wedi cwrdd â Michel Barnier yn barod, rwyf wedi bod yn cwrdd ag arweinwyr eraill, ac wrth gwrs mae gennym ni swyddfa ym Mrwsel a fydd yn aros ta beth sy’n digwydd—mae hynny’n mynd i fod yn hollbwysig—ac, wrth gwrs, rydym ni wedi agor swyddfeydd, neu yn paratoi i agor swyddfeydd, mewn sawl dinas, nid dim ond yn Ewrop ond ar draws y byd. Pam? Mae’n hollbwysig ein bod ni’n sicrhau bod yna bresenoldeb gennym ni mewn sawl dinas newydd er mwyn i ni allu cael buddsoddiad a hefyd yn gallu allforio i’r marchnadoedd hynny. Roedd yn hollol amlwg i fi ar ôl Brexit ei bod yn mynd i fod yn hollbwysig i sicrhau bod yna swyddfeydd gennym ni, er enghraifft, yn yr Almaen ac yn yr economïau sydd yn hollbwysig i economi Cymru. So, mae hynny yn bwysig ynglŷn â sicrhau bod pobl yn gwybod beth yw barn Cymru. Bob tro rwy wedi bod ym Mrwsel, roedd Papur Gwyn o’u blaenau nhw. Roedden nhw’n gwybod beth oedd barn Llywodraeth Cymru ac yn gwybod ac yn gweld yn synhwyrol beth oedd yn y papur ei hun.

Refferendwm—diddorol. Un o’r pethau, wrth gwrs, y byddai’n rhaid i ni ei ystyried yw—. Wel, yn gyntaf i gyd mae yna gost, ond heb hynny, gydag unrhyw fath o refferendwm ymgynghorol, a ydyn ni’n siarad am rywbeth sydd â sawl cwestiwn? Ym mha ffordd wedyn ydych chi’n gallu gwybod yn gymwys beth yw barn pobl, os oes yna ryw fath o sblit ynglŷn â’r atebion? So, mae yna bethau fel yna i'w hystyried. I fi, rwy’n credu beth sy’n hollbwysig—ac rwy wedi dweud hyn sawl gwaith—dylai’r Senedd hon gael y pŵer i ganiatáu, neu na, y setliad Brexit y byddwn ni’n ei gael ar ddiwedd y dydd. Mae’n hollbwysig i fi fod yna ganiatâd, neu sêl bendith o leiaf, o bob Senedd y Deyrnas Unedig cyn bod Brexit yn symud ymlaen.

Photo of Mr Neil Hamilton Mr Neil Hamilton UKIP 3:08, 6 Chwefror 2018

(Cyfieithwyd)

Wel, mae hon yn ddogfen eithaf diddorol a gynhyrchwyd gan Lywodraeth Cymru, ond dim ond ar gyfer yr ystadegau y mae'n eu cynnwys. Ymddengys fod ychydig iawn, os o gwbl, sy'n newydd o ran datblygu polisi. Mae'n siomedig iawn, fe gredaf, fod yr un math o fyrdwn pesimistaidd yr ydym wedi'i chlywed ar unrhyw adeg yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf bron ers y refferendwm, yn dod o geg y Prif Weinidog. Dywedodd Oscar Wilde unwaith,

Mae'r optimist yn gweld y doesen, ond mae'r pesimist yn gweld y twll.

Mae arnaf ofn mai'r Prif Weinidog yw'r dyn sydd bob amser yn edrych i mewn i dwll. Mae'n gweld anhawster gyda phob cyfle tra mai'r farn amgen yw edrych ar y cyfleoedd hynny sydd ym mhob anhawster, a dyna sy'n cael ei wneud gan bobl fusnes.

Mae unrhyw un sydd wedi rhedeg busnes erioed yn gwybod bod y byd yn newid yn barhaus ac rydych yn ymaddasu iddo. Os byddwch wastad yn esgus nad oes unrhyw ddewisiadau amgen i'r hyn a wyddom ar hyn o bryd, yna fyddwch chi byth yn dal i fyny gyda'r hyn sy'n digwydd yn y byd go iawn. Mae'r holl astudiaethau academaidd yn y byd yn amcanestyniadau yn unig o dybiaethau a gaiff eu plygio i mewn i gyfrifiadur. Os nad yw'r tybiaethau hynny yn troi allan i fod yn gyson â beth fydd yn digwydd maes o law, yna mae'r rhagolygon hynny yn anghywir bob tro, a dyna pam y mae'r rhan fwyaf o ragolygon economaidd yn anghywir, ac yn fwyaf penodol y rhai sydd wedi dod allan o Drysorlys ei Mawrhydi yn Whitehall. Felly, ni fyddwn yn cynghori'r Prif Weinidog i roi gormod o sylw i astudiaethau academaidd o unrhyw fath, p'un a ydynt yn gweddu i'w farn ef o'r byd, neu yn wir fy un i.

Y pwynt am ail refferendwm, a godwyd gan Adam Price. Yn y refferendwm—y refferendwm go iawn a gawsom bron i ddwy flynedd yn ôl—gofynnwyd un cwestiwn syml i'r bobl: a ydych chi eisiau gadael yr UE neu aros yn yr UE? Nid oedd unrhyw os nac oni bai. Nid yw'n golygu, wyddoch chi, 'pa fath o fargen fasnach yr ydych chi am ei gweld o ganlyniad i adael yr UE?' Gallem gael refferendwm ar y mathau gwahanol o fargen fasnach, heb amheuaeth, ond ni fyddai hynny'n effeithio ar y cwestiwn gwirioneddol, sef yr hawl i adennill rheolaeth dros ein ffiniau ein hunain, a'r hawl i wneud ein cyfreithiau ein hunain mewn sefydliadau seneddol fel hyn. Nid yw aros o fewn y farchnad sengl a'r undeb tollau yn gyson â gadael yr Undeb Ewropeaidd oherwydd byddem wedyn mewn gwirionedd mewn sefyllfa ddeddfwriaethol waeth nag yr oeddem gynt: y tu allan i'r UE, ond yn amodol ar y rheolau y maent yn eu gwneud ac ni fyddai gennym unrhyw swyddogaeth ffurfiol wrth ddatblygu polisïau a deddfau y byddai'n rhaid inni ufuddhau iddynt.

Rwy'n cynghori'r Prif Weinidog i gadw pethau mewn persbectif. Ie, o ganlyniad i adael yr UE, hyd yn oed os nad oes modd taro bargen gyda'r UE oherwydd eu bod yn rhy anhyblyg ac maent yn gweld—. Y nhw yw'r eithafwyr ideolegol yn hyn, fel y nododd y Prif Weinidog. O ran y llefarydd ar ran diwydiant ceir yr Almaen, dywedodd fod ganddynt lawer mwy o ddiddordeb mewn cadw'r farchnad sengl gyda'i gilydd fel uned wleidyddol nag yn y difrod economaidd y byddai'n ei wneud i'r Almaen pe byddem yn gadael yr UE heb fargen fasnach. Mae un o bob pump o'r holl geir i deithwyr a wneir yn yr Almaen— dyna 820,000 o gerbydau—yn cael eu hallforio i'r Deyrnas Unedig bob blwyddyn. Mae ganddynt ddiffyg o £20 biliwn y flwyddyn ar gyfrif masnachu mewn ceir yn unig. Mae gan y Deyrnas Unedig ddiffyg masnach o dros £60 biliwn gyda'r UE.  Mae cyfle enfawr yma ar gyfer amnewid mewnforio, er enghraifft.

Rhoddodd y Prif Weinidog sylw mawr i gig oen. Mae'r ddogfen ei hun yn dangos pa mor fach yw'r farchnad yr ydym  yn sôn amdani: £402 miliwn y flwyddyn yw ein hallforion cig oen— neu gynhyrchion amaethyddol, yn hytrach. Ond, rydym yn mewnforio gwerth £600 miliwn o gynnyrch amaethyddol. Mae 60 y cant o'r holl fwyd a fwyteir yng Nghymru bob blwyddyn yn cael ei fewnforio. Felly mae — [Torri ar draws.] Rwy'n mynd yn ôl y ffigur a welir yn y ddogfen. [Torri ar draws.] Yn y ddogfen. Mae'n ddrwg gennyf, Llywydd, credais mai chi oedd hynny.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 3:12, 6 Chwefror 2018

(Cyfieithwyd)

Na, nid y fi, ond y fi yw e nawr, ac mae angen i chi ofyn cwestiynau. Dyma eich cyfle i ofyn cwestiynau i'r Prif Weinidog.

Photo of Mr Neil Hamilton Mr Neil Hamilton UKIP

(Cyfieithwyd)

Ie, yn union. Rwy'n gofyn i'r Prif Weinidog a wnaiff gadw'r mater hwn mewn persbectif. Gan y rhagwelir gan y Comisiwn Ewropeaidd ei hun y bydd 90 y cant o'r twf mewn masnach yn y 15 mlynedd nesaf y tu allan i'r Undeb Ewropeaidd, mae'r  farchnad fyd-eang ar gyfer yr hyn a gynhyrchwn yng Nghymru yn mynd i dyfu, tra bod y farchnad yn Ewrop yn ddisymud. Dyna pam, fel y nododd Mark Isherwood yn gynharach, mae'r gyfran o'n masnach yr ydym yn ei gwneud gyda'r UE yn lleihau erbyn hyn, nid yn lleiaf oherwydd problemau ag ardal yr ewro.

Felly, yr hyn yr wyf yn ei ddweud wrth y Prif Weinidog yw y dylai wneud llawer mwy—a mynd yn ôl at yr hyn a ddywedais yn y cwestiynau i'r Prif Weinidog y prynhawn yma—dylai fod yn gwneud llawer mwy i helpu busnesau Cymru i ymdopi â'r newidiadau anochel sy'n mynd i fod yn angenrheidiol yn y cyfnod trosiannol a fydd yn dilyn yn syth ar ôl gadael yr Undeb Ewropeaidd. Does dim pwynt mewn dal i daro  eich pen yn erbyn wal frics . Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn benderfynol o adael yr Undeb Ewropeaidd, gadael y farchnad sengl, gadael yr undeb tollau. Gadewch inni bellach weithio gyda'n gilydd i gynhyrchu set ymarferol o gynigion ar sut i sicrhau bod y broses yn llawer mwy derbyniol, hyd yn oed i'r rhai sydd yn erbyn gadael yr Undeb Ewropeaidd, a ffordd ymarferol ymlaen ar gyfer y busnesau a fydd yn gorfod ymdopi â newidiadau ychwanegol. Nid oes neb yn gwadu nad oes newidiadau ychwanegol sy'n mynd i ddod, ond maen nhw i gyd yn hawdd eu trin.

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 3:13, 6 Chwefror 2018

(Cyfieithwyd)

Gobaith ofer unwaith eto. A gaf i ei atgoffa fy mod mewn gwirionedd wedi rhedeg busnes? Yn llwyddiannus, diolch, felly rwy'n gwybod sut mae'n gweithredu. Yn ail, a gaf i ei atgoffa bod economi Ewrop yn tyfu'n gyflymach nag economi'r DU? Felly, nid yw'n cael ei chaethiwo mewn rhyw ffordd gan yr ewro nac unrhyw beth arall. A gaf i fynegi syndod ei fod yn ymwrthod yn fwriadol â thystiolaeth— rhywbeth sydd, wrth gwrs, yn anghyfleus iawn i'r rhai sydd wrth eu bodd yn gweld gobaith ofer? Mae'n dweud, 'Wel, wyddoch chi, pleidleisiodd pobl i adael yr UE. Mae hynny'n wir.' Mewn gwirionedd, nid ydym yn gwybod dros beth y gwnaethant bleidleisio y tu hwnt i hynny. Ceir rhai pobl sydd â dehongliad mwy eithafol nag eraill. Nid yw Norwy yn yr UE. Cafodd model Norwy ei gynnig gan Aelodau o'i blaid ei hun, a dywedir wrthym yn awr nad yw'n gadael yr UE mewn gwirionedd. Nid yw Norwy yn yr UE, ac eto mae ganddi'r math o drefniadau masnach buddiol y mae'n dymuno eu cael gyda'r farchnad sengl Ewropeaidd. Os gall Norwy wneud hynny, yna pam na all y DU? Unwaith eto, mae'n ailadrodd y mantra hwn, a gwahoddaf y Brexiteers yn y Siambr hon i ateb y cwestiwn hwn ar ryw bwynt: ni fydd y DU yn rheoli ei ffiniau. Ni fydd yn rheoli ei ffiniau; bydd ganddi ffin agored gyda'r Undeb Ewropeaidd yn Iwerddon. Felly, myth yw'r syniad hwn y bydd y DU yn rheoli ei ffiniau ac nid oedd erioed yn wir, ac roedd yn rhywbeth y cafodd y bobl eu camarwain arno, yn blwmp ac yn blaen, yn y refferendwm Ewropeaidd. Felly, anghofiwch am hynny; ni all y DU reoli ei ffiniau ei hun yn y ffordd honno.

Mae'n crybwyll y tramorwyr afresymol—y tramorwyr afresymol sy'n bodoli yn Ewrop sydd mor afresymol na wnânt blygu i ewyllys y DU. Pa mor ofnadwy yw hynny na fyddant yn cytuno â'r hyn y mae'r DU yn ei ddweud mewn gwirionedd. Wel, wrth gwrs dydyn nhw ddim yn mynd i wneud hynny; mae ganddynt eu buddiannau eu hunain i ymladd drostynt.

Ac mae'n sôn am ddiwydiant ceir yr Almaen. Mae diwydiant ceir yr Almaen yn gweld y farchnad sengl yn bwysicach nag unrhyw beth arall, yn bwysicach na marchnad y DU. A pham? Wel, maent wedi cyfrifo y bydd pobl yn dal i brynu BMWs, byddan nhw'n dal i brynu Mercedes-Benz, byddan nhw'n dal i brynu Audis, a thalu'r pris ychwanegol, ond nid yw yr un fath i weithgynhyrchwyr ceir eraill pan fyddan nhw'n ceisio allforio ceir nad oes ganddynt yr un math o enw premiwm yn y dyfodol.

Mae'n sôn am gig oen. Mae cig oen yn farchnad fach iawn. Does dim ots am gig oen—rhywbeth y gallwn ei aberthu. Nid yw ond ychydig o gannoedd o filiynau. Y gwir amdani yw bod angen allforion ar ddiwydiant cig oen Cymru i oroesi. Nid yw defnyddwyr y DU yn tueddu i brynu yn y niferoedd sydd eu hangen.

Wedyn mae'n dweud ein bod yn mewnforio £600 miliwn; mae angen inni gael rhywbeth yn lle mewnforio. Rhoddwyd cynnig ar hynny yn y rhyfel, a chawsom ddogni. Ai dyna beth mae'n ei awgrymu? Oherwydd yr hyn y mae'n ei awgrymu yw hyn: mae'n beth drwg bod y DU yn mewnforio bwyd. Felly, mewn geiriau eraill, os ydych am brynu afalau ym mis Ionawr, hen dro. Os ydych am brynu cennin ym mis Rhagfyr, hen dro. Os ydych am brynu mefus y tu allan i'r tymor, ym mis Mai, hen dro. Felly, yr hyn a ddywed wrth y defnyddiwr yw hyn: mewn gwirionedd, yr hyn a ddymunwn yw atal y mewnforion hynny rhag dod i mewn, fel na allwch brynu yr hyn yr ydych am ei brynu. Wel, rhowch gynnig ar hynny er mwyn darbwyllo defnyddwyr yn y dyfodol.

Felly, fy nghyngor i iddo ef yw hyn: agorwch eich llygaid ac edrych ar y dystiolaeth, peidiwch â chael eich dallu gan ideoleg neu genedlaetholdeb a dechrau dweud y gallwn gael Brexit sydd mewn gwirionedd yn synhwyrol i'r DU, nid un sy'n gostus o ran biwrocratiaeth, nid yn un sy'n dinistrio ein diwydiant ffermio, nid un sy'n dinistrio ein diwydiant dur, nid un sy'n ei gwneud yn anos inni ddenu buddsoddiad o wledydd eraill oherwydd nad ydym yn rhan o'r farchnad sengl, a gadewch inni gael synnwyr cyffredin, Brexit synnwyr cyffredin, ac nid un sy'n cael ei ysgogi gan eithafiaeth pur.

Photo of David Rees David Rees Labour 3:17, 6 Chwefror 2018

(Cyfieithwyd)

Brif Weinidog, croesawaf eich datganiad. Ceisiaf gadw fy nghyfraniad at y cwestiynau ac at y pwnc, sef y polisi masnach, ac nid ailadrodd y trafodaethau refferendwm, fel yr ymddengys yr ydym yn eu clywed mewn mannau eraill.

Brif Weinidog, mae'r polisi masnach, yr wyf yn ei groesawu'n fawr iawn, hefyd yn ystyried rhywbeth a godwyd yn gynharach, oherwydd roeddwn yn falch iawn o weld, ar dudalen 15, y cyfeiriad at sefyllfa 'dim bargen', oherwydd o leiaf rydym yn dechrau cydnabod bellach bod angen rhoi sylw i 'dim bargen', ac mae'n cyfeirio at hynny. Felly, rwy'n falch iawn ar hynny.

Ond mae'r papur y mae'n adeiladu arno, sef  gwaith yr ysgol fusnes ym Mhrifysgol Caerdydd, hefyd yn trafod y sectorau a oedd mewn perygl, yn bennaf y sectorau hynny a ystyrid yn ganghennau o sefydliadau byd-eang, ac, o ganlyniad, eu cadwyni cyflenwi hefyd. Ond yr hyn yr wyf am ei wybod mewn perthynas â hynny yw hyn: pa baratoadau a wneir i ddatblygu cynlluniau cymorth ar gyfer y mathau hynny o fusnesau a'u cadwyni cyflenwi? Ac mae'n tynnu sylw at y ffaith na ddylech ganolbwyntio ar sectorau; dylech ganolbwyntio ar y busnesau eu hunain, oherwydd mae ganddynt anghenion gwahanol, ac mae'n bwysig iawn ein bod yn edrych ar hynny ac yn nodi'r rhai sy'n flaenoriaethau ar gyfer economi Cymru, oherwydd—mae hynny'n golygu efallai y rhai sy'n ychwanegu gwerth i Gymru, nid dim ond yn dod i mewn a mynd allan eto, lle nad yw'n ychwanegu llawer o werth at y cynnyrch ac, felly, nid yw'r economi yn tyfu llawer. Felly, a allwch chi ddweud wrthyf beth fyddwch yn ei wneud i edrych ar y sectorau hynny, y busnesau hynny, ac yn eu paratoi i'w helpu mewn sefyllfa lle gallwn bellach ddiweddu gyda 'dim bargen'?

Hefyd, rydym yn sôn am y cyfnod pontio yn eich papur. Nawr, mae Dr Tobias Lock o Brifysgol Caeredin wedi rhoi sgyrsiau ac wedi ysgrifennu papur ar yr heriau cyfreithiol sy'n codi yn ystod y cyfnod pontio. A allwch chi ddweud wrthyf pa ddadansoddiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o ran yr agweddau cyfreithiol a allent fod yn newid yn ystod cyfnod pontio a beth yr ydych yn mynd i'w wneud i sicrhau nad yw busnesau Cymru ac economi Cymru yn wynebu heriau ychwanegol gan nad oes unrhyw un wedi meddwl amdanynt yn y sefyllfa gyfreithiol hon?

Hefyd, soniasoch, yn y papur, am wahanu rheoliadau. Nawr, ddoe, roeddem yn bresennol mewn sesiwn bord gron fel pwyllgor, ac un o'r materion a gododd oedd ardystio y tu hwnt i'r UE. Yr hyn nad oeddent yn ei ddymuno oedd dyblygu ardystio yn y DU, lle mae'n rhaid iddynt gael ardystiad y DU ac ardystiad yr UE oherwydd nad oes trafodaethau wedi'u cynnal rhwng y DU a'r UE ar sut y gallant mewn gwirionedd gynrychioli ei gilydd a derbyn ardystiad ei gilydd. Felly, a allwch ddweud wrthyf pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cael gyda Llywodraeth y DU i sicrhau nad yw ein busnesau yn wynebu mwy o fiwrocratiaeth a dyblygu ardystio oherwydd nad oes unrhyw un wedi cydweithio a dweud, 'Gadewch inni sicrhau bod hyn yn gyfartal ar draws yr UE'? Maent ei angen mewn gwirionedd ar draws y byd, ardystio cyfartal, ond o leiaf mae gennym ardystio'r UE ar hyn o bryd. Rydym am sicrhau nad ydym yn cynyddu ac yn gorfod ei ddyblygu o ganlyniad.

Yn olaf, Brif Weinidog, y Bil Masnach. Ni chafodd ei grybwyll, mewn gwirionedd, yn eich papur. Gwyddom fod y Bil Masnach yn cyfeirio at newidiadau i reolau masnach presennol yr UE a sut y cânt eu rhoi ar waith, gan gynnwys yr Awdurdod Rhwymedïau Masnach. A oes modd ichi roi ychydig o fanylion ynghylch sut y gwelwch yr Awdurdod Rhwymedïau Masnach yn dod i mewn? Soniasoch yn eich datganiad am fater dur; rydym yn gwybod bod yr UE bellach wedi rhoi rhwymedïau masnach yn erbyn dur o Tsieina yn benodol. Yn amlwg, mae'n effeithio ar fy etholaeth i yn fawr iawn. Ond sut ydym mewn gwirionedd am fynd i'r afael â rhwymedïau masnach ar ôl Brexit i sicrhau nad yw ein diwydiannau yn dioddef o ganlyniad i fargen fasnach a wnaed gan Lywodraeth y DU, yn enwedig â Tsieina, sy'n caniatáu i ddur a fewnforiwyd ddod i mewn yn rhad? Dyna un enghraifft yn unig, heb sôn am yr hyn sy'n digwydd yn America ac ym mhobman arall. Felly, mae'n bwysig inni edrych ar hynny a sicrhau bod gennym lais o ran rhwymedïau masnach.

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 3:21, 6 Chwefror 2018

(Cyfieithwyd)

A gaf i ddiolch i fy nghyd-Aelod, David Rees, am y cwestiynau hynny? Os edrychwch chi ar y gwaith sydd wedi'i wneud gan Ysgol Busnes Caerdydd, mae'n edrych ar sut beth fyddai senario 'dim bargen'. Mae'n iawn i ddweud ei fod yn nodi bod rhai sectorau mewn mwy o berygl, er enghraifft, o rwystrau tariff, ac eraill o rwystrau nad ydynt yn rhai tariff, ac rydym yn gweithio gyda'r sectorau hynny i wneud yn siŵr y gallwn ddeall eu hanawsterau.

Un peth y clywaf dro ar ôl tro—fe'i clywais eto ddoe—a hynny yw'r effaith ar recriwtio, gan fusnesau sy'n dweud wrthyf, 'Rydym yn recriwtio o wledydd eraill. Beth sy'n digwydd yn awr os na allwn recriwtio? Rydym yn sefydliad rhyngwladol, mae angen inni gael y bobl orau o ble bynnag y maent. Beth sy'n digwydd nawr?' Nid ydym yn sicr sut y mae hynny'n mynd i weithio yn y dyfodol ar ôl Brexit .

O ran yr heriau cyfreithiol y mae—. Y peth arall y dylwn fod wedi'i grybwyll, wrth gwrs, yw ein bod yn agor swyddfeydd ledled y byd, yn gweithio gyda Llywodraeth y DU i wneud yn siŵr ein bod yn canfod marchnadoedd newydd i geisio lliniaru effaith Brexit caled. Ond gadewch inni beidio ag esgus mewn gwirionedd y gallwn oresgyn yr heriau hynny y byddai'n eu creu.

O ran heriau cyfreithiol, mae llawer o hynny yn dibynnu ar yr hyn sy'n digwydd yn y cyfnod pontio. Os yw'r DU yn fodlon derbyn y byddai Llys Cyfiawnder Ewrop yn dal i gael awdurdodaeth ac y byddai cyfreithiau'r UE yn dal yn berthnasol yn y cyfnod pontio hwnnw, yna nid oes unrhyw anhawster. Ond wrth gwrs mae'r anhawster yn codi o ran y DU yn dweud, 'Nid ydym yn mynd i wneud hynny'. Pwy sydd wedyn yn gweithredu fel llys masnach? Pa gyfle fydd i ymwahanu? Mae angen rhoi sylw i'r holl bethau hyn.

Nid oes unrhyw reswm, wrth gwrs, mewn meysydd datganoledig pam na allai Senedd a Llywodraeth ddatganoledig dderbyn rheoliad newydd yr UE a'i ymgorffori i gyfraith ddomestig. Nid oes dim i'n hatal rhag gwneud hynny, ond wrth gwrs byddai hynny'n fater i'r Senedd hon. Os edrychwn, er enghraifft, ar y cyrff rheoleiddio: rwyf wedi crybwyll yr Asiantaeth Feddyginiaethau Ewropeaidd eisoes y prynhawn yma, sef Euratom. Os edrychwn ar reoleiddio'r diwydiant awyr—nid oes yr un o'r pethau hyn wedi cael sylw. Ni ŵyr unrhyw un eto, a dim ond blwyddyn sydd i fynd. Ni ŵyr unrhyw un eto sut fydd y materion hyn yn cael eu datrys yn y dyfodol, ac mae'r Aelod yn hollol iawn i ddweud nad oes neb am weld dyblygu o ran ardystio. Rwyf wedi clywed rhai yn Llywodraeth y DU yn dweud, 'Wel, welwch chi, yn y bôn yr hyn a olygir gan Brexit yw cadw'r un rheolau â'r Undeb Ewropeaidd, ond ein dewis ni yw eu cadw neu beidio'. Rwyf wedi clywed rhai yn dweud hynny. Rwyf wedi clywed pobl eraill yn sôn am goelcerth o reoliadau. Maent eisiau economi â rheoliadau isel, un lle caiff cyflogau eu ffrwyno, lle mae safonau amgylcheddol yn cael eu dirwasgu, a dyna'r ideoleg asgell dde glasurol pan ddaw'n fater o sut fydd Prydain y tu hwnt i Brexit.

O ran  rhwymedïau masnach, mae'n hynod bwysig, wrth gwrs, fod gennym ran wrth lunio sut y gallai edrych yn y dyfodol. Gwyddom ei fod yn arf pwerus. Rydym wedi ei weld yn yr Unol Daleithiau yn yr ychydig wythnosau diwethaf, a pha mor bwysig y gall hynny fod, a'r effaith bosib ar economïau y tu allan i UDA. Bydd hwnnw'n ffactor pwysig o ran y trafodaethau a gawn gyda Llywodraeth y DU ynghylch beth ddylai'r cysylltiadau masnach a'r strwythur masnach fod o fewn y DU yn y blynyddoedd i ddod.

Photo of Mick Antoniw Mick Antoniw Labour 3:24, 6 Chwefror 2018

(Cyfieithwyd)

Brif Weinidog, dim ond ychydig o fân bwyntiau sydd gennyf i. Rydych yn adnabod fy etholaeth yn dda, ac yn ystod yr ychydig ddegawdau diwethaf byddwch wedi bod yn ymwybodol o effaith cau'r pyllau glo, cau diwydiant trwm. Eto dros y pum mlynedd diwethaf, bu twf sylweddol a ffurfio cwmnïau newydd. Mae llawer o hynny oherwydd nifer o brosiectau Llywodraeth Cymru, y bartneriaeth â llywodraeth leol. Yn y pum mlynedd diwethaf sefydlwyd 1,015 o fusnesau newydd yn etholaeth Pontypridd, cynnydd o 53 y cant.

Rwy'n falch eich bod wedi sôn ychydig am rai o'r materion yn ymwneud â fframweithiau rheoleiddio ar y cyd gyda'r UE, oherwydd un o'r pryderon a godir gan nifer o'r cwmnïau hyn sy'n allforio i'r Undeb Ewropeaidd yw, 'Gallwn ymdopi â'r tariffau, gallwn reoli'r tariffau; y broblem yw na ellir cael unrhyw oedi wrth gludo nwyddau.' Y pwynt sylfaenol yw cludo nwyddau. Os na allant ddosbarthu'n brydlon, byddant yn colli'r farchnad benodol honno a dyna eu pryder a'u rhwystr mwyaf. Ac os nad ydym yn yr undeb tollau, neu rywbeth tebyg iawn i undeb tollau, os oes gwahaniaeth o ran fframweithiau rheoleiddio, ni fyddwn yn gallu masnachu o gwbl. Beth all Llywodraeth Cymru ei wneud er mwyn sicrhau bod rhywfaint o sicrwydd i'r cwmnïau bach hynny sydd wedi'u sefydlu, sydd wedi tyfu mewn cyfnod anodd, sydd yn awr yn wynebu rhwystr eto gan Lywodraeth y DU oherwydd ei dull gweithredu, ei hymagwedd ideolegol a'i hobsesiwn gyda'r undeb tollau?

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 3:25, 6 Chwefror 2018

(Cyfieithwyd)

Does dim amheuaeth yn fy meddwl i mai aros yn yr undeb tollau yw'r ffordd orau ymlaen. Nid wyf wedi gweld unrhyw dystiolaeth o unrhyw drefniant amgen sy'n cyflawni unrhyw beth cystal â'r trefniadau sydd gennym nawr neu unrhyw beth a fyddai'n well yn y dyfodol. Os ydych yn fusnes ar hyn o bryd ac yn allforio i'r Undeb Ewropeaidd neu, yn wir, yn cyflenwi busnes sy'n allforio i'r Undeb Ewropeaidd, rydych yn dibynnu ar lif masnach rydd. Yr hyn y gall Brexit ei wneud, er nad oes yn rhaid iddo ei wneud y ffordd hon, yw gosod biwrocratiaeth enfawr ar fusnesau—mwy o lenwi ffurflenni, mwy o fiwrocratiaeth, mwy o oedi. Mae hyn yn arbennig o wir ac yn arbennig o ddifrifol yn achos y diwydiant pysgota, er enghraifft, lle, wrth gwrs, mae nwyddau yn hynod ddarfodus, ac mae angen iddynt gael eu symud yn gyflym iawn. Mae'r diwydiant hwnnw'n llwyr ddibynnol ar allforio—anfon nwyddau i farchnadoedd lle bydd pobl yn talu fwyaf ac yn rhoi mwy o arian ym mhocedi'r rhai sy'n gweithio yn y diwydiant pysgota. Y peth olaf y maent yn ei ddymuno yw gorfod llenwi ffurflenni cyn iddynt fynd, canfod ciwiau mewn porthladdoedd megis Dover oherwydd nad yw'r seilwaith ffisegol yno—ac nid oes camau wedi'u cymryd, yn fy marn i, i fynd i'r afael â mater seilwaith. Gwiriadau yn y porthladdoedd—lle byddan nhw'n cael eu cynnal? Nid yw hynny wedi cael ei wneud; nid yw'r gwaith ar gyfer hynny wedi digwydd eto. Mae'r holl bethau hyn yn rhwystrau, heb sôn am dariffau posib, ond bydd pob un o'r rhwystrau hynny ar waith ar gyfer busnes. Gofynnodd yr Aelod y cwestiwn: pa gysur y gallaf i ei roi iddo? Y cysur y gallaf ei roi iddo yw hwn, y byddwn yn parhau i frwydro i sicrhau bod gan fusnesau fynediad at ein marchnad sengl fwyaf, y byddant yn rhydd o fiwrocratiaeth ac yn rhan o undeb tollau.

Photo of Mr Simon Thomas Mr Simon Thomas Plaid Cymru 3:27, 6 Chwefror 2018

Diolch i'r Prif Weinidog am y datganiad heddiw ac am y papur sydd wedi cael ei gyhoeddi. Y ffaith amdani, wrth gwrs, yw bod y papur hwn, yn ogystal â'r dadansoddiad a ryddhawyd yn y dirgelwch, fel petai, o San Steffan, wedi datgelu bod cost i Brexit i economi Cymru—beth bynnag fo'r seniaro rŷch chi'n ei dilyn, mae yna gost. Mae yna gost arbennig, fel sydd wedi cael ei amlinellu yn y papur yma, i'r sector defaid, o ran amaeth, difrifol iawn yn yr hyn sy'n cael ei ddisgrifio. Mae'n rhaid i ni gofio bod, tu ôl i'r sector yna—ie, mae yna economi, rhan o'r economi, ond mae yna bobl, cymunedau, tirwedd, rheoli dŵr, rheoli'r amgylchfyd, yr iaith Gymraeg, a ffordd o fyw sydd wedi bod yn trin tirwedd Cymru ers dros ddwy filenia, ac mae'n bwysig ein bod ni'n cadw ffocws ar yr hyn sydd yn hynod bwysig i ni fel cenedl, yn ogystal â phwysig i ni fel economi. Mae hynny yn rhywbeth i'w gofio yn hyn. 

A gaf i jest ofyn iddo fe sut mae'n bwriadu mynd ymlaen â'r gwaith yma nawr? Roedd Adam Price wedi gofyn i chi ynglŷn â rhanbarthau a delio â Llywodraethau eraill. Rŷch chi wedi gweld, mae'n siŵr, bod Prif Weinidog Llafur Gibraltar yn dweud bod cyfansoddiad Gibraltar yn rhoi hawl, yn ei dyb ef, i fusnes ardollau a thariffau gael ei benderfynu gan Gibraltar, tu fewn i'r cyfansoddiad a gafodd ei gymeradwyo yn y refferendwm yn 2006. Gwnaethoch chi fynd draw i Gibraltar ym mis Mehefin, rydw i'n meddwl, y llynedd. A ydych chi wedi trafod hyn gyda Phrif Weinidog Gibraltar? Ac, yn ail, a ydych chi o'r farn y dylai fod yna bleidlais yn y Cynulliad hwn, yn y Senedd hon, parthed unrhyw fargen neu gytundeb masnach sydd wedi ei wneud? Rŷm ni'n gwybod ein bod ni'n cael pleidlais ar y cynnig deddfwriaethol cyn belled ag mae'r Bil tynnu allan o'r Undeb Ewropeaidd yn y cwestiwn, ond mae hwn yn gwestiwn penodol ynglŷn ag unrhyw gytundeb masnach. Serch ein bod ni'n cael refferendwm ymgynghorol, fel yr oedd Adam Price yn awgrymu, ai peidio, mi ddylem ni gael pleidlais o ddifrif yn y Senedd hon ynglŷn a'r materion yma.     

Ac, yn olaf, mae'n rhaid i mi ofyn i chi, achos rydych chi wedi gosod allan rhywbeth heddiw, fel yr ŷch chi'n gwybod, mae yna lot yn gytûn rhwng y ddwy blaid, Plaid Cymru a'r Blaid Lafur, ar y materion hyn—rŷch chi'n cael eich arwain gan arweinydd yn San Steffan, Jeremy Corbyn, sydd ddim yn credu mewn aros yn y farchnad sengl, sydd ddim yn credu mewn aros yn yr undeb ardollau ac sydd yn gwneud popeth o fewn ei allu i stopio hynny ddigwydd ar lefel San Steffan. Ac mae'n rhaid i mi ddweud: beth ydych chi'n mynd i'w wneud fel Prif Weinidog Cymru i roi buddiannau Cymru o flaen buddiannau eich plaid eich hun yn y materion hyn? Achos os cariwn ni ymlaen â'r llwybr presennol, mae'n bosib iawn y cawn ni Brexit caled iawn, wedi'i arwain gan asgell dde y Blaid Geidwadol, a chyda rhyw gydsyniad tawel gan eich plaid eich hunan yn San Steffan.

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 3:30, 6 Chwefror 2018

Mae'n barn ni fel plaid a Llywodraeth yn hollol glir, ac rwyf wedi gwneud hynny'n glir hefyd, wrth gwrs, i gymdogion yn Llundain. Ynglŷn â beth ddywedodd e ynglŷn â'r diwydiant—os taw 'diwydiant' yw'r gair—defaid, mae'n hollol wir, wrth gwrs, bod ffermio yn rhan ganolog o fywyd cefn gwlad, ac, wrth gwrs, mae ffermio yn gallu effeithio ar gymaint o bethau fel yr amgylchedd a sicrhau bod cefn gwlad yn cael ei gadw yn y ffordd y byddem ni eisiau. Yr ofn sydd gen i yw: mae hi'n bosib, wrth gwrs, rhoi mwy o arian i ffermwyr, ond achos y ffaith y bydden nhw'n colli siẁd gymaint o'u marchnadoedd, nid ffermwyr fyddan nhw ragor, ac nid ffermio byddan nhw'n ei wneud. Byddem ni'n colli'r traddodiad yna. Byddai llai ohonyn nhw, yn colli'r traddodiad yna, byddai natur bywoliaeth y bobl sy'n byw yng nghefn gwlad yn newid, ac ni fyddai ffermio yn rhan o'u bywydau nhw. 

Ynglŷn â'r fframweithiau, mae'r gwaith yn symud ymlaen yn dda. Mae lot fawr o drafod wedi bod rhwng y llywodraethau. Nid ydym mewn sefyllfa eto lle mae yna gytundeb, ac wrth gwrs, fel y dywedais i, mae hwn yn rhywbeth sy'n gorfod cael ei ystyried wrth edrych ar y sefyllfa gyda'r Bil ei hun. 

Gyda Gibraltar, mae e'n wahanol, achos mae'n rhaid inni gofio bod Gibraltar tu fas i'r undeb tollau. Mae yna ffin galed iawn yn Gibraltar, a byddwn i ddim yn moyn gweld hwnna'n digwydd yng Nghymru. Mae hynny'n dangos beth sy'n digwydd os ydych chi tu fas i'r undeb tollau. Ac os yw unrhyw un eisiau gweld beth yn gwmws sy'n digwydd os mae yna un tirwedd tu fewn i'r undeb tollau ac un tirwedd tu fas, ewch i Gibraltar ac fe gewch chi weld. A dyna beth mae pobl yn trio ei osgoi ynglŷn ag Iwerddon. Os bydd hynny'n digwydd yn Gibraltar, yma mha ffordd ydych chi'n osgoi hynny yn Iwerddon? Wrth gwrs, cwestiwn sydd heb gael ateb eto. 

Ynglŷn â chael rhyw fath o bleidlais ar y Bil masnach, nid wyf yn gweld problem gyda hynny o gwbl. Rwyf wedi dweud sawl gwaith ei bod yn hollbwysig bod sêl bendith y Cynulliad ynglŷn â beth yw'r fframweithiau ar ddiwedd y dydd, beth mae Brexit yn edrych fel, ac, wrth gwrs, mae'n hollbwysig bod y Cynulliad yn mynegi barn ynglŷn â beth bynnag sydd yn digwydd gydag unrhyw fath o gytundeb ynglŷn â masnach.

Photo of Jane Hutt Jane Hutt Labour 3:32, 6 Chwefror 2018

(Cyfieithwyd)

Brif Weinidog, a gaf i groesawu eich datganiad a phapur polisi masnach Llywodraeth Cymru? Wrth gwrs, mae'r papur hwnnw'n dangos y byddai effaith anghymesur i economi Cymru gan Brexit caled, ac mae'n nodi'r sectorau sydd fwyaf mewn perygl o dariffau— moduron, cemegau, dur a pheirianneg drydanol— tra bod y diwydiant awyrofod yn wynebu mwy o risg o rwystrau nad ydynt yn rhai tariff. Dyma'r sectorau sydd ymysg y rhai mwyaf cynhyrchiol yng Nghymru ac yn darparu nifer fawr o swyddi sgiliau uchel. Gwn y byddai'r Prif Weinidog yn cytuno ei bod yn hollbwysig fod llais y busnesau allweddol hyn yng Nghymru, ac yn y sectorau hyn, yn cael ei glywed.

Ddoe, mewn gwirionedd, fel y dywedodd David Rees, ymwelodd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol, ar gyfer trafodaeth ford gron, ag Aston Martin yn fy etholaeth i ac, yr wythnos diwethaf, siaradais â graddedigion peirianneg yn ffair yrfaoedd Aston Martin yng Ngholeg Caerdydd a'r Fro. Denodd honno fyfyrwyr a graddedigion peirianneg ifanc a oedd yn awyddus i glywed am y cyfleoedd yn ffatri Aston Martin Sain Tathan, ymhlith y 750 o swyddi newydd sy'n dod i Gymru.

Mae buddsoddiad Aston Martin, gyda chymorth Llywodraeth Cymru, yn rhoi gobaith a rhagolygon newydd, ond a all y Prif Weinidog egluro beth y gall y Llywodraeth ei wneud, pa ddylanwad y gall ei chael ar y trafodaethau yng ngham 2, i ddarparu sicrwydd a dilyniant ar gyfer busnesau fel Aston Martin, nid dim ond fel y dywedodd David Rees mewn perthynas â materion megis ardystio, sydd yn allweddol ar gyfer y sector modurol, ond hefyd ar gyfer safonau amgylcheddol a sgiliau?

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 3:34, 6 Chwefror 2018

(Cyfieithwyd)

A gaf i ddiolch i'r Aelod, fy nghyfaill a'm cyd-Aelod, am y sylw hwnnw? Ie, wrth gwrs, mae'r rhain yn amseroedd ansicr i Aston Martin ac, yn wir, i fusnesau eraill, wrth iddynt geisio dyfalu pa fath o fframwaith y mae Llywodraeth y DU yn dymuno ei roi ar waith yn dilyn Brexit. Yn wir, bydd y trafodaethau hynny yn parhau, ac rydym wedi dweud wrth Lywodraeth y DU ein bod yn dymuno bod yn rhan o'r trafodaethau hynny, nid yn yr ystafell, fel petai, ond wrth law er mwyn cynnig cyngor ac i nodi pa beryglon posib allai fod. Nawr, nid yw hyn mor rhyfedd ag yr ymddengys, oherwydd dyma'r union fodel oedd yn bodoli pan oeddwn yn Weinidog materion gwledig ymhell yn ôl rhwng 2000 a 2002. Byddem yn cyfarfod bob mis, y Gweinidogion ar draws y DU, a byddem yn cytuno ar linell gyffredin yng Nghyngor Gweinidogion Ewrop. Byddwn yn mynd i Gyngor Gweinidogion Ewrop pan oedd busnes perthnasol i Gymru yn codi. Roeddwn yn Lwcsembwrg pan wnaed y fargen yn Lwcsembwrg ar gyfer dyfodol y polisi amaethyddol cyffredin. Ac roedd yn arfer i Ysgrifennydd Gwladol y DU ddod allan o'r ystafell gyda'r cynigion, gofyn ein barn ni amdanynt, a gofyn inni a oeddem yn hapus gyda nhw, ac roedd hynny'n gweithio'n eithriadol o dda. O ganlyniad i'r system honno, nid oeddem byth mewn sefyllfa lle'r oeddem yn teimlo ein bod wedi cael ein torri allan mewn unrhyw rhyw ffordd, neu yn wir na allem gefnogi'r fargen y daeth y DU iddi yn y diwedd. Mae hwnnw'n fodel yr ydym wedi annog Llywodraeth y DU i'w mabwysiadu unwaith eto.