Part of the debate – Senedd Cymru am 3:12 pm ar 6 Chwefror 2018.
Ie, yn union. Rwy'n gofyn i'r Prif Weinidog a wnaiff gadw'r mater hwn mewn persbectif. Gan y rhagwelir gan y Comisiwn Ewropeaidd ei hun y bydd 90 y cant o'r twf mewn masnach yn y 15 mlynedd nesaf y tu allan i'r Undeb Ewropeaidd, mae'r farchnad fyd-eang ar gyfer yr hyn a gynhyrchwn yng Nghymru yn mynd i dyfu, tra bod y farchnad yn Ewrop yn ddisymud. Dyna pam, fel y nododd Mark Isherwood yn gynharach, mae'r gyfran o'n masnach yr ydym yn ei gwneud gyda'r UE yn lleihau erbyn hyn, nid yn lleiaf oherwydd problemau ag ardal yr ewro.
Felly, yr hyn yr wyf yn ei ddweud wrth y Prif Weinidog yw y dylai wneud llawer mwy—a mynd yn ôl at yr hyn a ddywedais yn y cwestiynau i'r Prif Weinidog y prynhawn yma—dylai fod yn gwneud llawer mwy i helpu busnesau Cymru i ymdopi â'r newidiadau anochel sy'n mynd i fod yn angenrheidiol yn y cyfnod trosiannol a fydd yn dilyn yn syth ar ôl gadael yr Undeb Ewropeaidd. Does dim pwynt mewn dal i daro eich pen yn erbyn wal frics . Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn benderfynol o adael yr Undeb Ewropeaidd, gadael y farchnad sengl, gadael yr undeb tollau. Gadewch inni bellach weithio gyda'n gilydd i gynhyrchu set ymarferol o gynigion ar sut i sicrhau bod y broses yn llawer mwy derbyniol, hyd yn oed i'r rhai sydd yn erbyn gadael yr Undeb Ewropeaidd, a ffordd ymarferol ymlaen ar gyfer y busnesau a fydd yn gorfod ymdopi â newidiadau ychwanegol. Nid oes neb yn gwadu nad oes newidiadau ychwanegol sy'n mynd i ddod, ond maen nhw i gyd yn hawdd eu trin.