4. Datganiad gan y Gweinidog Tai ac Adfywio: Mynd i'r Afael â Chysgu ar y Stryd a Digartrefedd

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:42 pm ar 6 Chwefror 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Melding David Melding Conservative 3:42, 6 Chwefror 2018

(Cyfieithwyd)

A gaf i groesawu'r ffaith bod Llywodraeth Cymru bellach yn mynd ati i fabwysiadu polisi Tai yn Gyntaf, neu o leiaf i arbrofi'n helaeth gyda'r polisi hwnnw? Mae'n rhywbeth y bu'r Ceidwadwyr Cymreig yn ei annog ers peth amser, ac rwy'n falch o weld hynny.

Mae gennyf rai cwestiynau penodol, fodd bynnag. Yn gyntaf oll, faint o'r cynlluniau arbrofol fydd ar sail sirol, neu a ydyn nhw ar raddfa lai? Rwy'n credu bod angen inni wybod pa mor gynhwysfawr y bydd y cynlluniau arbrofol yn yr ardaloedd lle y byddan nhw ar waith. Rwy'n ein hannog i edrych ar lefel sirol er mwyn gweld mewn gwirionedd a yw'r math hwn o bolisi yn mynd i weithio petaem ni yn ei gyflwyno ledled Cymru. Fe hoffwn i fwy o fanylion ynglŷn â phryd y caiff y cynlluniau arbrofol eu gwerthuso fel y gallwn ni wneud y penderfyniad hwnnw, oherwydd mae llawer ohonom ni'n credu, o'r dystiolaeth y gwelsom ni, mai hyn sy'n cynnig y gobaith gorau ar gyfer y dyfodol.

Siawns fod angen i'r Llywodraeth adolygu ei hagwedd tuag at y gronfa Cefnogi Pobl erbyn hyn. Mae wrth wraidd y dull Tai yn Gyntaf, y gwasanaethau cymorth y mae pobl yn eu derbyn, a byddwch yn gwybod y bu'r rheini yn y sector, fel y Wallich, yn pwyso am adolygiad brys ac am wrthdroi polisi'r Llywodraeth yn y maes hwn. Mae'n rhaid imi ganmol y Gweinidog. Fe wnaethoch chi sôn wrth grybwyll y pwnc hwn mai rhoi to uwchben rhywun yw'r cam cyntaf hanfodol ond nad dyna'r peth mwyaf heriol. Mae a wnelo cynnal y gwelliant hwnnw â'r cymorth y mae pobl yn ei gael. Felly, dim ond eisiau gwybod yr wyf i pa mor eglur yw ffordd y Llywodraeth o ymdrin â hyn. Yn amlwg, os ydych chi'n mynd i roi gwisg ac enw newydd iddo, does fawr o ots gennyf i, ond ar hyn o bryd bu Llywodraeth Cymru yn cefnu ar ffyrdd fel hyn o weithio. 

A gaf i ddweud, Dirprwy Lywydd, fy mod i'n credu bod angen dyddiad targed arnom ni ar gyfer rhoi terfyn ar gysgu ar y strydoedd? Rydym ni'n gwybod, ym Manceinion, eu bod nhw wedi gosod targed uchelgeisiol iawn o 2020. Targed Llywodraeth y DU yw canol y 2020au—2027, rwy'n credu. Fe hoffwn i weld targed mwy uchelgeisiol na hynny, ond efallai fod hynny rywle yn y canol—efallai targed dros dro y gallem ni ei sefydlu i ddechrau. Ac os gwelwn ni ddatblygiad polisi llwyddiannus yma—a byddwch yn cael cefnogaeth eang, rwy'n credu, o ran y syniadau arloesol sydd i'w gweld yn gweithio—yna fe allem ni, efallai, gynyddu'r targed hwnnw a bod yn arweinydd yn y sector hwn yng ngwir ystyr y gair, fel mae Manceinion ar hyn o bryd yn gobeithio bod.

Ynghylch y sectorau preifat annibynnol, byddaf yn eich canmol am grybwyll hyn o leiaf yn y datganiad, oherwydd mae'n rhan bwysig o'r ateb, ac fe hoffwn i wybod a ydych chi wedi cael unrhyw drafodaethau uniongyrchol, yn enwedig gyda'r sector preifat, oherwydd rydych chi yn cyfeirio at y Wallich ac elusennau eraill megis Shelter, ond rwyf yn credu y bydd darparwyr preifat yn rhan o'r ateb hefyd, ac fe hoffwn i wybod pa fath o drafodaethau yr ydych chi'n eu cael. Ac nid wyf i'n hollol siŵr o'r rhesymeg sydd wrth wraidd yr hyn yr ydych chi'n ei ddweud o ran nad ydych chi'n bwriadu sôn am y gyllideb yn fanwl iawn. Yr hyn rwy'n ei olygu yw, y fantais o fod yn fwy gonest am eich ymrwymiadau gwario yw y byddwch chi'n rhoi llawer mwy o wybodaeth i'r sector preifat annibynnol, fel y gallan nhw yna gynllunio eu gwasanaethau o safbwynt ehangu ar gyfer y dyfodol. 

Yn olaf, ynglŷn â chodi tai, nid wyf am ailadrodd y ddadl gyfan. Wrth gwrs, mae angen mwy o gyflenwad arnom ni, ac er mwyn cyflawni hynny, o ystyried ein bod ni'n siarad am y targedau tymor canolig a mwy hirdymor yma—ymhell i'r 2020au a hyd yn oed y tu hwnt—mae angen i chi ddychwelyd at yr asesiad o'r angen am dai, a chredaf mai amcanestyniad Holmans yw'r un y dylem ni fod yn ei fabwysiadu ac yn gweithio tuag at ei gyflawni, ac rwy'n eich annog i wneud hynny cyn gynted â phosib.