Part of the debate – Senedd Cymru am 3:47 pm ar 6 Chwefror 2018.
Diolch ichi am y cwestiynau hynny ac am eich croeso i'r polisi Tai yn Gyntaf. Cofiaf yn sicr mai dyna oedd y cwestiwn cyntaf ichi fy holi yn ei gylch pan ddes i i'r swydd hon, felly rwy'n falch o allu gwneud rhywfaint o gynnydd ynglŷn â'r mater hwn, yr ydym ni i gyd yn gytun yn ei gylch, rwy'n credu, sef hyrwyddo Tai yn Gyntaf.
Rydym ni wedi cymeradwyo cyllid ar gyfer nifer o brosiectau ac mae'r rheini gydag awdurdodau lleol. Felly, mae Pen-y-bont ar Ogwr, Blaenau Gwent, Merthyr Tudful, Caerdydd, Conwy ac Abertawe eisoes wedi penodi timau staff ac eisoes yn symud tenantiaid i fyw mewn llety gan ddefnyddio'r model Tai yn Gyntaf. Ond, un o amodau'r cyllid hwnnw yw bod yn rhaid i awdurdodau lleol roi adborth ynglŷn â'r datblygiad ac effaith pob un o'r cynlluniau hynny, a byddwn ni'n defnyddio'r wybodaeth honno i ddiweddaru a datblygu'r egwyddorion wrth inni geisio cyflwyno hyn yn fwy eang ledled Cymru, oherwydd mae'r ddwy ddogfen a lansiwyd heddiw yn ddogfennau esblygol yn eu hanfod a byddant yn newid ac yn ymateb i'r dystiolaeth a gyflwynir i ni ac i'r pethau y byddwn yn clywed wrth gyflwyno egwyddorion Tai yn Gyntaf. Rydym ni'n gwybod bod hyn wedi gweithio'n dda mewn ardaloedd o America, a gwyddom ei fod wedi gweithio'n dda yn y Ffindir, ond efallai y bydd materion penodol y mae angen inni ystyried mynd i'r afael â nhw yng Nghymru, a dyna pam mae gennym ni'r egwyddorion, sydd wedi cael eu hymgorffori i raddau helaeth yn ein polisi ac yn y ddeddfwriaeth sydd gennym ni eisoes—Deddf Tai (Cymru) 2014, er enghraifft, ac yn ein dull gweithredu drwy Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 i roi'r unigolyn wrth wraidd pob polisi bob amser ac i roi cyfle bob tro i bobl gael llais a rheolaeth yn y penderfyniadau a wneir amdanynt ac i sicrhau y gwneir y penderfyniadau hynny gyda nhw hefyd.
O ran y cyllid Cefnogi Pobl, rwyf wedi bod yn glir iawn fy mod i yn barod i wrando ar hyn o bryd. Nid oes unrhyw benderfyniadau wedi'u gwneud o ran y cyllid ar gyfer yr ail flwyddyn. Rydym ni'n edrych yn agos ar y prosiectau braenaru sydd ar waith mewn saith o'r awdurdodau lleol hynny sydd â hyblygrwydd llawn yn y 10 grant hynny, a hefyd yr awdurdodau lleol eraill sydd â 15 y cant o hyblygrwydd yn ogystal, i weld a yw hyn yn rhoi gwell gwasanaethau inni ar gyfer pobl sy'n dioddef neu sydd angen cymorth er mwyn cynnal eu cartref.
Fel y dywedaf, nid oes unrhyw benderfyniadau wedi'u gwneud. Rydym ni wedi bod yn gwrando'n ofalus ar unigolion sy'n cael cymorth drwy'r cynllun Cefnogi Pobl. Mae Cymorth Cymru yn ddiweddar wedi cynnal cyfres o drafodaethau ledled Cymru. Roeddwn yn falch o fynd i'r un yng Nghaerfyrddin lle y clywais gan bobl a siaradodd am yr effaith y mae Cefnogi Pobl wedi'i chael ar eu bywydau, ac fe wnaethon nhw siarad yn bur angerddol, mewn gwirionedd, ynglŷn â sut lun yr oedden nhw'n credu a fyddai ar eu bywydau pe na fydden nhw wedi cael cymorth Cefnogi Pobl. Felly, does dim amheuaeth o gwbl bod Cefnogi Pobl yn fenter bwysig sy'n cael effaith enfawr ar fywydau rhai o'n pobl fwyaf agored i niwed. Rwyf i hefyd wedi cwrdd ag amrywiaeth o sefydliadau: yn eu plith y Wallich, Shelter, Caer Las ac eraill er mwyn ceisio deall y prosiectau gwahanol sydd ar waith yn lleol, oherwydd, yn amlwg, mae amrywiaeth y bobl ac ehangder y sefyllfaoedd sy'n cael eu cefnogi yn sylweddol.
O ran dyddiad targed ar gyfer rhoi terfyn ar gysgu ar y stryd, rwy'n credu bod problem gynhenid, mewn gwirionedd, yn y data sydd gennym ni o ran cysgu ar y stryd. Yn fy nghyflwyniad fe wnes i sôn ynglŷn â sut yr oedd y ffigurau pythefnosol yn dangos cynnydd o 10 y cant, tra roedd y cipolwg un noson yn dangos cynnydd o 33 y cant. Mae'n eithriadol o anodd mesur cysgu ar y stryd, a dyna pam yr wyf i'n falch iawn bod y Wallich yn gwneud rhywfaint o waith i gael golwg llawer iawn mwy cynhwysfawr ar y bobl sydd yn cysgu ar y stryd er mwyn datblygu ffordd o weithio sy'n rhoi mwy o bwyslais ar waith achos yn ymwneud ag unigolion, fel ein bod yn deall bywydau yr unigolion hynny, oherwydd dim ond nifer cymharol fach o bobl sy'n cysgu ar y stryd yng Nghymru. Mae'n ormod, ond nid oes unrhyw reswm pam na ddylem ni gael gwell dealltwriaeth o bob un o'r unigolion hynny a deall yn well sut i'w cefnogi i ddod oddi ar y strydoedd ac i mewn i dai, ac i ymdrin â phob un o'r materion eraill hynny yr ydym ni wedi sôn amdanynt: iechyd meddwl, camddefnyddio sylweddau, trais yn y cartref ac ati hefyd.
Rwy'n awyddus iawn i weld beth y gallwn ni ei wneud i annog y sector rhentu preifat i dderbyn mwy o unigolion sy'n dod yn syth oddi ar y strydoedd. Mae gwaith sylweddol yn cael ei wneud eto gan y Wallich ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn hyn o beth. Rwyf wedi siarad â Chymdeithas Genedlaethol y Landlordiaid a sefydliadau eraill sy'n cynrychioli'r sector rhentu preifat ac rwyf wedi bod yn glir iawn fy mod yn awyddus i glywed eu syniadau. Rwy'n awyddus i glywed gan y sector rhentu preifat a landlordiaid eu hunain ynglŷn â'r hyn y maen nhw yn eu hystyried yn rhwystrau i roi cartref i bobl sy'n fwy agored i niwed. Weithiau yr ateb i hynny yw cynnig bondiau, a bu gennym ni gynlluniau bond llwyddiannus iawn ers blynyddoedd bellach, ble mae Llywodraeth Cymru yn darparu bond ar gyfer yr unigolyn, gan leihau felly peth o'r perygl hwnnw ar gyfer y landlordiaid eu hunain.
O ran ble yr ydym ni'n cyfeirio cyllid yn y dyfodol? Byddwn yn disgwyl i rai o flaenoriaethau ariannu'r dyfodol ymwneud â chael mynediad at y sector rhentu preifat, ond hefyd â gweithredu'r arferion hynny sy'n seiliedig ar ymdrin â thrawma ac ar weithio mewn ffyrdd sy'n canolbwyntio ar anghenion seicolegol, a chryfhau'r gwasanaethau sy'n cael eu darparu i bobl ag afiechyd meddwl a phroblemau camddefnyddio sylweddau, ochr yn ochr â gwella'r modd o weithredu'r ymgyrch genedlaethol ar gyfer gwasanaethau digartrefedd i blant, pobl ifanc ac oedolion mewn sefydliadau diogel, oherwydd rydym ni'n gwybod y gall digartrefedd ymhlith y grwpiau hynny o bobl fod yn arbennig o ddifrifol hefyd.
Rwy'n gobeithio fy mod i wedi mynd i'r afael â chynifer o'r cwestiynau hynny ag y bo modd.