Part of the debate – Senedd Cymru am 5:05 pm ar 6 Chwefror 2018.
Rwy’n croesawu hefyd yr adroddiad yma a’r rhan sy’n delio â gamblo yn arbennig. Heb ailadrodd yr hyn sydd wedi cael ei ddweud eisoes, rydw i yn sylwi bod yr adroddiad yn dweud bod cost gamblo eithafol i wasanaethau cyhoeddus Cymru o gwmpas £40 miliwn i £70 miliwn y flwyddyn, oherwydd yr effaith ar y gwasanaeth iechyd a’r gwasanaethau gofal yn benodol. Rwy’n rhannu’r pryder sydd wedi cael ei ddatgan yn glir gan nifer o Aelodau ynglŷn â’r ffordd y mae gamblo a hysbysebu gamblo wedi treiddio i mewn i normalrwydd cymdeithas, fel ei fod yn ymddangos, yn ddiweddar, ar grysau plant ar gyfer chwaraeon, er enghraifft, yn efelychu timau pêl-droed.
Un peth rydw i eisiau gofyn yn benodol i’r Llywodraeth yn ei gylch yw’r sylw sydd wedi cael ei wneud am y ffaith bod ymchwil i mewn i’r maes yma yn cael ei wneud, i bob pwrpas, gan y diwydiant ei hun, drwy GambleAware. Ond mae GambleAware wedi bod o dan ddylanwad y diwydiant. Maen nhw wedi ceisio— rydw i'n credu—ailsefydlu i fod yn fwy annibynnol, ond mae’n fy nharo i mai beth rydym ni ei angen, a dweud y gwir, yw rhywbeth megis lefi ar y diwydiant, cwbl annibynnol, fydd yn deillio wedyn ar gyfer arian a fydd yn dod nid yn unig ar gyfer ymchwil i mewn i gamblo ond i leddfu rhai o'r sgil-ganlyniadau anffodus ac andwyol sy’n dod yn sgil gamblo. Nid yw hynny yn nwylo’r Ysgrifennydd Cabinet, ond rydw i eisiau gofyn ai dyna safbwynt Llywodraeth Cymru: y bydden nhw’n dymuno gweld lefi o’r fath ac y byddan nhw’n cydweithio a rhoi pwysau ar Lywodraeth San Steffan i wneud hynny.
Yr ail elfen yn yr adroddiad sydd o bwys, rydw i'n credu, yw'r ffaith bod, unwaith eto, y prif feddyg wedi olrhain effaith llygredd awyr ar ein cymdeithas a sgil-effeithiau hynny—2,700 o farwolaethau cynnar oherwydd llygredd awyr. Byddwn i’n hoffi gwybod yn union lle y mae llygredd awyr erbyn hyn yn y rhychwant o achosion marwolaethau cynnar yng Nghymru. Mae o gwmpas y trydydd neu’r ail reswm erbyn hyn. Rydw i'n gwybod bod y Llywodraeth yn gwneud rhai pethau i fynd i’r afael, ond y broblem yw bod hyn yn cael ei wasgaru rhwng y Llywodraeth ac awdurdodau lleol, a’r awdurdodau lleol yn benodol yn gyfrifol am fonitro a chadw trac ac wedyn rhoi parthau gweithredu yn eu lle, a’r Llywodraeth yma, wrth gwrs, yn wynebu achos llys oherwydd bod rhai o’r camau yna wedi methu yn ddiweddar. Felly, yn benodol, o edrych ar gost a'r sgil-effeithiau iechyd sy’n cael eu holrhain ar gyfer llygredd awyr, a fydd y Llywodraeth yn cymryd cam ymhellach yn genedlaethol nawr i sefydlu bod pob ysgol i gael uned monitro llygredd awyr y tu fas i bob ysgol, fel bod gennym ni well dealltwriaeth o wir effaith llygredd awyr, a bod gyda ni strategaeth genedlaethol i fynd i’r afael â’r problemau iechyd sy’n deillio o lygredd awyr?