Part of the debate – Senedd Cymru am 5:28 pm ar 6 Chwefror 2018.
Diolch yn fawr am y datganiad, ac rydw i hefyd yn falch iawn o nodi heddiw fel diwrnod pwysig ar y daith, beth bynnag, tuag at gydraddoldeb i fenywod. Ac mi ydym ni yn parhau ar y daith honno, yn parhau i geisio cyrraedd tuag at gydraddoldeb llawn ym mhob agwedd ar fywyd. Mae hi'n daith sydd wedi gweld colli bywydau, ac mae hi yn parhau i fod yn daith hir a blinderus. Ond rydw i yn credu fod fy ngenhedlaeth i o fenwyod yn benderfynol o roi pob cefnogaeth i'r lleisiau benywaidd iau sy'n gynyddol ddig am y ffordd maen nhw yn cael eu trin yn y Gymru gyfoes, ac yn ein gwneud ni yr un mor benderfynol ag erioed o roi blaenoriaeth i'r angen i gyrraedd cydraddoldeb rhywedd llawn, yn benderfynol o roi brys i'r gwaith ac o'r angen i roi cydraddoldeb rhywedd yng nghanol yr agenda gwleidyddol yma yng Nghymru.
I droi at rai materion penodol yn eich datganiad chi, mi ydych yn sôn am brosiect i ddathlu'r 100 menyw sy’n dod i ben y rhestr yng Nghymru, ym mhob maes o fywyd cyhoeddus. Beth yn union fydd y meini prawf wrth fynd ati i lunio’r rhestr? Ac wedyn, beth fydd y meini prawf wrth gomisiynu’r ddau gerflun? A fydd o’n ddibynnol yn llwyr ar ba fenyw sydd fwyaf poblogaidd gan y cyhoedd yng Nghymru neu a oes ystyriaethau eraill hefyd? Rwyf tipyn bach yn bryderus os mai poblogrwydd yn unig sy’n mynd i fod wrth wraidd hyn. Wedyn, rydym ni’n sôn am gael dau gerflun wedi’u lleoli mewn dwy ardal wahanol o Gymru. Rwy’n cymryd y bydd y rheini yn ardaloedd daearyddol ar wahân, ac y bydd y gogledd ac efallai’r gogledd-orllewin am unwaith yn cael eu cynnwys yn hynny.
Yn edrych ar eich cynllun grantiau chi, rwyf tipyn bach yn bryderus bod yna amserlen dynn iawn ar gyfer cyflwyno ceisiadau i’r pot grant yma. Nid yw’n glir a fydd modd defnyddio’r grantiau yma i geisio dileu rhai o’r rhwystrau sy’n wynebu menywod heddiw. Yn ogystal â chofio’r gorffennol, mae’n amlwg bod angen symud pethau ymlaen. Fel y gwyddoch chi, mae cael mwy o ferched i gyfranogi ym mywyd cyhoeddus Cymru, ar y lefelau ble mae penderfyniadau pwysig yn cael eu gwneud, yn rhywbeth y mae rhai ohonom ni fan hyn yn ymgyrchu amdano fo.
Os edrychwn ni ar lywodraeth leol, rydym ni’n gweld ein bod ni wedi bod yn sefyll yn ein hunfan bron iawn: bron dim cynnydd yn y nifer o ferched a gafodd eu hethol yn 2016 o’i gymharu â’r etholiad cynt, a 28 y cant o gynghorwyr sydd yn fenywod. Fe wnaiff hi gymryd 82 o flynyddoedd i gyrraedd cydraddoldeb rhywedd yn y cynghorau yng Nghymru ar y raddfa rydym ni’n mynd arno ar hyn o bryd. Ni fedrwn ni ddim disgwyl mor hir â hynny. Mae’n rhaid, rwy’n credu, ac rwy’n meddwl eich bod chi’n cytuno, cyflwyno mecanwaith penodol. Mae tystiolaeth o bob rhan o’r byd yn dangos fod cwotâu yn ffordd effeithiol o gael mwy o fenywod mewn i swyddi o ddylanwad. Rwy’n gwybod fy mod i’n crwydro mewn i ddadl sy’n mynd i ddigwydd yma fory, ond rwyf yn credu bod angen i ni edrych o ddifrif rŵan. Mae 80 y cant o wledydd efo mwy na 30 y cant o ferched mewn Llywodraeth yn defnyddio cwota o ryw fath. Felly, yn amlwg, mae o yn gweithio.
Ond, wrth gwrs, ni fydd cwotâu ar ben eu hunain ddim yn newid diwylliant sydd wedi ei ddominyddu gan ddynion ers cyhyd. Ni fydd cwotâu ddim yn dileu aflonyddu rhywiol, ddim yn cael gwared ar fychanu a bwlian dyddiol ar sail rhywedd, ddim yn stopio merched rhag jyglo dyletswyddau gofalu a gweithio, ddim yn dileu’r bwlch cyflogau, a ddim yn atal camdriniaeth ddomestig a thrais ar sail grym. Ond, fe all y cwotâu arwain at y newidiadau strwythurol sydd eu hangen yng Nghymru er mwyn ymgyraedd at gydraddoldeb.
I ddod at gwestiwn ynghylch hynny: a fydd y grantiau yr ydych chi wedi eu cyhoeddi heddiw yn gallu cael eu defnyddio i hyrwyddo’r newid diwylliannol, strwythurol sydd ei angen yng Nghymru, fel ein bod ni’n defnyddio’r fuddugoliaeth gychwynnol rydym ni’n ei dathlu heddiw, gan y syffrajéts 100 mlynedd yn ôl—ein bod ni’n defnyddio’r fuddugoliaeth yn fwriadol ar gyfer ymgyrraedd at gydraddoldeb llawn yn y Gymru gyfoes, fel ein bod ni wir yn cyflymu’r broses yma? Felly, a ydy’r grantiau yma yn gallu cael eu defnyddio i’r pwrpas yna?