6. Datganiad gan Arweinydd y Tŷ: Canmlwyddiant y Bleidlais i Fenywod

– Senedd Cymru am 5:16 pm ar 6 Chwefror 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 5:16, 6 Chwefror 2018

Yr eitem nesaf, felly, yw datganiad gan arweinydd y tŷ ar ganmlwyddiant y bleidlais i fenywod. Rydw i'n galw ar arweinydd y tŷ i wneud y datganiad—Julie James. 

Photo of Julie James Julie James Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch, Llywydd. Mae heddiw yn nodi canmlwyddiant arwyddocaol Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1918, a gafodd ei phasio ar 6 Chwefror 1918. Roedd y Ddeddf hon yn galluogi pob dyn a rhai menywod dros 30 mlwydd oed i bleidleisio am y tro cyntaf. Mae'n werth nodi, er hynny, ei bod 10 mlynedd yn ddiweddarach, pan gafodd Deddf Etholfraint Gyfartal 1928 ei phasio, yn rhoi'r hawl i fenywod bleidleisio yn 21 oed, cyn y gallai menywod bleidleisio ar yr un telerau â dynion. Felly, ar 2 Gorffennaf eleni, gallwn ni nodi 90 mlynedd ers y Ddeddf honno. Rwy'n ymwybodol hefyd fod y canmlwyddiant hwn yn gorgyffwrdd â rhaglen Llywodraeth Cymru sef Cymru'n Cofio: Wales Remembers 1914-1918, sy'n nodi coffâd canmlwyddiant y rhyfel byd cyntaf yng Nghymru. Roedd cyfraniad menywod ar y pryd i ymdrech y rhyfel yn hollbwysig ac yn rhan o'r symbyliad i sefydlu  Deddf Cynrychiolaeth y Bobl yn 1918.

Cynhelir nifer o ddathliadau arwyddocaol cysylltiedig eraill yn ystod 2018, gan osod sylfaen ar gyfer blwyddyn o ddathlu. Yn ogystal â dathliad heddiw, efallai y bydd yr Aelodau yn dymuno nodi rhai dyddiadau allweddol eraill eleni. Mae 30 Ebrill yn dynodi 60 mlynedd ers pasio Deddf Arglwyddiaethau Bywyd 1958, a oedd yn caniatáu i fenywod eistedd yn Nhŷ'r Arglwyddi; ar 21 Tachwedd bydd canmlwyddiant Deddf Senedd (Cymhwyster Menywod) 1918, a oedd yn galluogi menywod i sefyll etholiad i Dŷ'r Cyffredin; ac, yn olaf, 14 Rhagfyr 2018 yw canmlwyddiant y bleidlais gyntaf i fenywod, yn etholiad cyffredinol mis Rhagfyr 1918. Bydd y rhain a dyddiadau nodedig eraill yn gwneud hon yn flwyddyn wirioneddol o ddathlu. Hefyd, bydd Diwrnod Rhyngwladol y Menywod ar 8 Mawrth yn cael ei gysylltu'n agos â'r canmlwyddiant, yn ogystal â'r thema ryngwladol briodol iawn o 'bwyso am gynnydd'.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo bron £300,000 i nodi canmlwyddiant y bleidlais i fenywod, gydag amrywiaeth o weithgareddau sy'n canolbwyntio ar y themâu o 'ddathlu, addysgu a chymryd rhan'. Hoffwn nodi ein cynlluniau a byddaf yn rhoi dolen i'r Aelodau i wefan lle gellir cael manylion pellach am y rhain a gweithgareddau eraill ledled y DU.

Mae Llywodraeth Cymru wedi noddi Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod Cymru i gyflawni prosiect i ddathlu'r 100 uchaf o fenywod Cymru. Bydd y rhestr yn rhychwantu addysg, gwyddoniaeth, chwaraeon, y celfyddydau, busnes a gwleidyddiaeth a bydd yn cynnwys menywod hanesyddol a chyfoes. Mae menywod Cymru yn anweledig bron yn ein hanes ac mae'r ymgyrch gadarnhaol hon yn anelu at newid hynny. Yn yr hydref, bydd y cyhoedd yn gallu pleidleisio i ddewis y menywod o Gymru y maen nhw'n credu sydd wedi eu hysbrydoli fwyaf. Bydd dau gerflun yn cael eu comisiynu o ganlyniad i'r prosiect hwn. Rydym yn gobeithio y bydd hyn yn arwain at fwy o gerfluniau a chofebau parhaol eraill o fenywod gwirioneddol ledled Cymru. Byddwn yn annog cyfranogiad gan gymunedau i hwyluso hyn.

Byddwn hefyd yn ariannu'r gwaith o gomisiynu placiau porffor ar gyfer cynifer o'r 100 o enwebeion gwreiddiol ag y bo modd. Ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod y llynedd, roeddwn yn falch o fod yn rhan o grŵp menywod Llafur y Cynulliad, a lansiodd yr ymgyrch placiau porffor. Ein nod yw rhoi i fenywod rhyfeddol Cymru y gydnabyddiaeth y maen nhw'n ei haeddu gan osod plac porffor yn ymyl eu cartref neu weithle. Mae 216 o blaciau glas yng Nghymru ar hyn o bryd yn coffáu enwogion nodedig a digwyddiadau hanesyddol a sefydliadau, a dim ond 11 o'r rhain sydd i fenywod. Dewiswyd placiau porffor i adlewyrchu mudiad y swffragetiaid a chredaf ei bod yn hen bryd inni gydnabod yr effaith y mae menywod wedi'i chael ar ein bywyd diwylliannol, gwleidyddol a gwyddonol yma yng Nghymru.

Heddiw, rwy'n lansio cynllun grant untro hefyd ar gyfer sefydliadau'r trydydd sector a'r gymuned i gynnal gweithgareddau arloesol yn ymwneud â'r tair thema allweddol o 'ddathlu, addysgu a chymryd rhan' i ddathlu'r canmlwyddiant. Bydd y cynllun yn galluogi cymunedau lleol i gymryd rhan yn y dathliadau canmlwyddiant, gan dynnu sylw at gyfraniadau lleol ar hyd a lled Cymru i ddathlu hanes y bleidlais i fenywod. Hoffwn hefyd annog gweithgarwch sy'n dathlu ac yn annog menywod o grwpiau eraill a dangynrychiolir, gan gynnwys menywod BAME, menywod anabl a menywod LGBT+. Rwy'n awyddus i bwysleisio pwysigrwydd grymuso menywod y cymunedau hyn, a all wynebu mwy o wahaniaethu a llai o gyfleoedd. Gwahoddir ceisiadau am grantiau o rhwng £500 a £20,000. Ceir mwy o wybodaeth am y cynllun grant a'r broses o wneud cais ar wefan Llywodraeth Cymru, a byddaf yn rhoi'r ddolen i'r Aelodau.

Bydd rhagor yn digwydd gydol y flwyddyn, gan gynnwys ein cyfranogiad yn y gweithgareddau a drefnwyd ledled y DU. Er enghraifft, mae'r ras gyfnewid baner y bleidlais gyfartal yn cael ei threfnu gyda'r holl weinyddiaethau datganoledig. Bydd y faner yn dod i Gymru ym mis Mai a byddwn yn trefnu rhaglen o ddigwyddiadau yn sgil hynny. Rwy'n annog yr Aelodau i gefnogi'r rhaglen genedlaethol a'r digwyddiadau lleol yn eich etholaethau eich hunain wrth i'r flwyddyn fynd rhagddi.

Bydd y canmlwyddiant a'r gweithgareddau cysylltiedig yn edrych ymlaen yn ogystal ag edrych yn ôl. Ein nod wrth dynnu sylw at fenywod Cymru'r gorffennol a'r presennol yw codi ymwybyddiaeth o'u cyflawniadau a chodi cofebau parhaol i nifer sylweddol ohonyn nhw, gan adrodd eu hanesion yng nghyd-destun eu cymunedau lleol. Mae'n nhw'n batrymau grymus o ymddygiad i fenywod a merched heddiw, sydd â heriau gwahanol, yn ogystal â chyfleoedd newydd.

Mae'n iawn inni ddathlu'r cynnydd a wnaethom yn y 100 mlynedd diwethaf. Mae hefyd yn iawn inni gofio'r ymdrech a'r aberth a wnaed i sicrhau'r cynnydd hwn. Mae angen inni gynnal ein momentwm i gryfhau democratiaeth ymhellach, a chynyddu nifer y menywod mewn swyddogaethau sy'n gwneud penderfyniadau, a pharhau i herio anghydraddoldeb a gwahaniaethu annheg. Diolch.

Photo of Suzy Davies Suzy Davies Conservative 5:21, 6 Chwefror 2018

(Cyfieithwyd)

A gaf i ddiolch i arweinydd y tŷ am ei datganiad, os gwelwch yn dda? Mae llawer yn y datganiad i'w groesawu a'i ddathlu. Ond mae'n werth dweud, wrth inni ddathlu hyn, mai nodi carreg filltir yr ydym mewn gwirionedd, nid diwedd y daith. Cymerodd 10 mlynedd arall i Lywodraeth Baldwin gyflwyno pleidlais gyfartal, wedi'r cyfan, ond mae gennym ffordd bell i fynd eto, yn fy marn i, o ran cyfranogiad cyfartal.

Roedd dyfodiad Nancy Astor—mae'n rhaid i mi sôn amdani hi—i'r Senedd yn un o'r cerrig milltir hynny wrth gwrs, a thestun llawenydd i Geidwadwyr yw mai rhai o'n cynrychiolwyr benywaidd ni sydd wedi bod ymhlith y cyntaf i gyrraedd swyddi uchel: ein dwy Brif Weinidog—rwy'n credu bod pawb yn gwybod amdanyn nhw, ond, wrth gwrs, nid oedden nhw'n anghyfarwydd â rhagfarn ar eu taith—hefyd mae gennym rai fel Betty Harvie Anderson, sef y fenyw gyntaf i fod yn Ddirprwy Lefarydd yn Nhŷ'r Cyffredin, Janet Young, y fenyw gyntaf i fod yn Arweinydd y Tŷ, Cheryl Gillan, y fenyw gyntaf i fod yn Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Liz Truss, y fenyw gyntaf i fod yn Arglwydd Ganghellor, ac, wrth gwrs, Nusrat Ghani—rwy'n siŵr y byddwn i gyd yn croesawu hyn—y fenyw Fwslimaidd gyntaf sy'n Weinidog i siarad yn y blwch dogfennau yn San Steffan. Mae pob un o'r rhain yn batrymau o ymddygiad i fenywod o bob barn wleidyddol, yn union fel y mae menywod o bleidiau eraill wedi bod yn batrymau o ymddygiad i mi.

Nawr, rydym ni'n gwneud yn well yma o ran cael merched i sefyll ar bob lefel yng Nghymru, ac er nad eich blaenoriaeth chi o bosib fyddai cael y fenyw gyntaf gennym ni Geidwadwyr Cymru yn AS, arweinydd y tŷ—a bydd hwnnw'n blac porffor da iawn pan ddaw—rwy'n siŵr y byddwn yn rhannu'r nod hwn, sef nad yw'r bleidlais gyffredinol yn golygu cymaint ag y dylai heb inni symud tuag at fwy o ddiddordeb cyffredinol mewn gwleidyddiaeth, a dyna fydd testun fy nghwestiynau i.

Mae angen i fwy o fenywod gymryd diddordeb ac yna i gredu ei bod yn werth chweil pleidleisio yn y lle cyntaf, ond yna wrth gwrs i sefyll ac adrodd yn ôl i'r cymunedau fod diben difrifol i wleidyddiaeth a bod angen dinasyddiaeth weithgar ac amrywiol—ac roeddech chi'n cyfeirio at y cynlluniau amrywiaeth yn eich datganiad—i gymryd rhan a helpu i flaenoriaethu'r hyn y dylsem ni fod yn pleidleisio arno yn y lle cyntaf. Felly, ochr yn ochr â'r gweithredu ar y rhwystrau yr ydym yn eu trafod yn aml—cyfrifoldebau gofalu, tlodi ac ati—rwy'n credu bod angen inni weithio ar agweddau'r gymdeithas a rhoi mwy o werth ar y cryfderau a'r buddiannau sy'n gysylltiedig yn bennaf â menywod, ond sydd o fudd inni oll. Wrth gydnabod yr arian a roddwyd gan bob Llywodraeth yn y DU heddiw, Llywodraeth Cymru yn benodol, a gaf i ofyn ichi, wrth weithio trwy'r tair thema a grybwyllwyd gennych, a fydd Llywodraeth Cymru yn cynnig cefnogaeth weithredol i'r ymgyrch drawsbleidiol Gofynnwch iddi Hi Sefyll? Oherwydd credaf fod digon o ymchwil yn  dangos bellach, yn y gweithle ac mewn ceisiadau i fod yn ymgeisydd ar draws y pleidiau, fod dynion yn fwy parod na menywod i gynnig eu hunain i gael eu hethol fel ymgeisydd pan nad ydyn nhw'n ateb holl elfennau'r fanyleb swydd neu hyd yn oed y gofynion i fod yn ymgeisydd. Yn achlysurol, efallai mai'r cyfan sydd ei angen yw i rywun  blannu'r hedyn a gofyn. Felly, a fyddwch chi'n cyfyngu'r cymorth yr ydych yn ei gynnig i brosiectau yng Nghymru yn unig, neu a ydych yn fodlon i'r arian hwnnw gael ei ddefnyddio ar gyfer prosiectau trawsffiniol, neu brosiectau traws gwlad hyd yn oed, oherwydd mae'r hyn yr ydym ni'n ei ddathlu yma heddiw yn cael ei wylio mewn mannau eraill?

A fyddwch hefyd yn ystyried cefnogi gwaith sy'n cefnogi newid yr agwedd gymdeithasol honno tuag at yr hyn y mae cryfder yn ein gwleidyddion yn ei olygu? Mae RECLAIM yn fy rhanbarth i, er enghraifft, wedi bod yn gwneud gwaith rhagorol gyda merched blwyddyn 7 ac 8—nid ydyn nhw yn eu harddegau eto—o ran hyder ac arweinyddiaeth; bydd David Rees yn gwybod amdanyn nhw hefyd. Byddwn i'n dweud y byddai dosbarth gwleidyddol mwy amrywiol ei natur gydag ystod o gryfderau yn rhoi bywyd i syniadau newydd, ac rwy'n gobeithio y byddwch yn gallu helpu i gefnogi'r gwaith o ddileu'r bygythiadau ac ymddygiad ymosodol sy'n llygru'r drafodaeth gyhoeddus ar hyn o bryd—y drafodaeth wleidyddol— ac mae llawer o waith allan yno ar ddechrau.

Ac yna, yn olaf, nid yw'r bleidlais i fenywod, wrth gwrs, yn gyffredin yn fyd-eang. Roedd yna un cantref yn y Swistir nad oedd yn caniatáu i fenywod bleidleisio mewn etholiadau lleol tan 1991—1991—ond nid yw hynny mewn gwirionedd —. [Torri ar draws.] Rwy'n sôn am wledydd lle nad yw bod â phleidlais yn cyfateb i fod â'r gallu i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau menywod. Rhof ychydig o enghreifftiau yma, os y caf i, Llywydd: dyna Irac, cyfansoddiad sy'n nodi bod yn rhaid i chwarter y seddi seneddol a swyddi Llywodraeth fynd i fenywod, ond hyd 2015 nid oedd yno unrhyw gyfreithiau yn ymwneud â thrais yn y cartref. Malaysia: mae gennych ymchwil gan YouGov yn canfod bod y rhan fwyaf o bobl y wlad honno yn cytuno ei bod yn debygol o achosi problemau os y bydd y wraig yn ennill mwy o arian na'i gŵr. Algeria: mae 32 y cant o'r seddi yn y seneddau cenedlaethol yn cael eu dal gan fenywod, ond nododd yr un astudiaeth, a wnaeth gadarnhau hynny, ei bod yn dal yn fwy tebygol i rywun ddweud yn Algeria ei bod yn annymunol i ferched fynegi barn gref yn gyhoeddus.

Wrth inni weithio tuag at annog mwy o bobl yng Nghymru, menywod yn arbennig, i gymryd rhan mewn democratiaeth, rwyf eisiau gwneud yn siŵr nad ydym yn caniatáu i'r honiadau o bleidlais i fenywod guddio'r problemau y dylai fod yn helpu i'w datrys. Diolch.

Photo of Julie James Julie James Labour 5:26, 6 Chwefror 2018

(Cyfieithwyd)

Rwy'n cytuno'n llwyr â phopeth a ddywedodd yr Aelod, ni fyddaf yn gwneud hynny'n aml y tu hwnt i'm plaid fy hun, ond yn yr achos hwn rwy'n llwyr gytuno. Nid oes gennym unrhyw syniadau rhagdybiedig, mewn gwirionedd, o'r hyn yr ydym yn ei ddisgwyl a ddaw gerbron, a bydd unrhyw brosiect a ddaw gerbron ac sy'n gofyn am gymorth yn cael ei ystyried o ran ei rinweddau a'i gynaliadwyedd ac ati. Ac nid yn unig am—. A thair amcan hynny, felly, yw'r darnau 'dathlu, addysgu, cymryd rhan'. A'r cyfranogiad, rwy'n gobeithio fy mod wedi gwneud hynny'n glir, nid cyfranogiad gwleidyddol yn unig ydyw; mae'n gyfranogiad ym mhob agwedd ar fywyd drwy bopeth yn ein gwlad a thu hwnt.

Rwy'n cytuno'n llwyr â'r Aelod o ran yr holl bethau ynghylch annog pobl i ddod ymlaen a rhoi cymorth o ran rhai o'r pethau sy'n digwydd mewn bywyd cyhoeddus, yn enwedig i fenywod. Ac mae'r holl fater hwn ynghylch sut mae pobl yn edrych ac ati yn bwysicach na'r hyn yr ydych chi'n ei ddweud neu beth yw eich gallu deallusol, neu beth bynnag, yn fater sy'n agos at fy nghalon.

Rydym hefyd heddiw wedi bod yn dathlu Diwrnod Diogelwch ar y Rhyngrwyd, er enghraifft, ac mae yna broblem fawr gyda'r cyfryngau cymdeithasol o ran cael menywod ifanc i sefyll a pheth o'r sarhad y mae llawer o fenywod mewn bywyd cyhoeddus yn gorfod ei wynebu. Felly, mae'n bwysig iawn, yn rhan o'r dathliad hwn, mewn gwirionedd, ein bod yn sôn—a chredaf imi ei ddweud ar y diwedd un yn fy natganiad—am rai o'r anawsterau y mae menywod heddiw yn eu hwynebu efallai nad oedden nhw'n eu hwynebu'n y gorffennol y mae angen inni hefyd eu cefnogi i'w gwneud.

Felly, cytunaf yn llwyr â phopeth a ddywedasoch. Rydym yn awyddus i gefnogi cymaint â phosib o fenywod i ymgeisio am y swyddi hyn o ystod o gefndiroedd ac am y swyddi mwyaf amrywiol â phosib, oherwydd holl bwynt hyn yw cael cydraddoldeb cyffredinol, ac ni allwch wneud hynny oni bai fod gennych chi'r ystod i gyd. Ond rwy'n credu mai'r hyn yr hoffwn ei bwysleisio yn fawr iawn yw hyn: rydym yn awyddus i bobl gredu eu bod â'r gallu i wneud hynny, ac er mwyn gwneud hynny mae'n rhaid ichi gael enghreifftiau priodol o ymddygiad ar gyfer eich daliadau penodol chi, ar gyfer eich cymunedau chi ar eich cyfer chi—. Mae'n rhaid ichi allu'ch adnabod eich hun yn yr hyn yr ydych yn ymgeisio amdano, ac felly mae'n bwysig iawn ein bod yn cael cefnogaeth trawsbleidiol, os mynnwch chi, ar gyfer hyn i'r dyfodol.

Photo of Siân Gwenllian Siân Gwenllian Plaid Cymru 5:28, 6 Chwefror 2018

Diolch yn fawr am y datganiad, ac rydw i hefyd yn falch iawn o nodi heddiw fel diwrnod pwysig ar y daith, beth bynnag, tuag at gydraddoldeb i fenywod. Ac mi ydym ni yn parhau ar y daith honno, yn parhau i geisio cyrraedd tuag at gydraddoldeb llawn ym mhob agwedd ar fywyd. Mae hi'n daith sydd wedi gweld colli bywydau, ac mae hi yn parhau i fod yn daith hir a blinderus. Ond rydw i yn credu fod fy ngenhedlaeth i o fenwyod yn benderfynol o roi pob cefnogaeth i'r lleisiau benywaidd iau sy'n gynyddol ddig am y ffordd maen nhw yn cael eu trin yn y Gymru gyfoes, ac yn ein gwneud ni yr un mor benderfynol ag erioed o roi blaenoriaeth i'r angen i gyrraedd cydraddoldeb rhywedd llawn, yn benderfynol o roi brys i'r gwaith ac o'r angen i roi cydraddoldeb rhywedd yng nghanol yr agenda gwleidyddol yma yng Nghymru. 

I droi at rai materion penodol yn eich datganiad chi, mi ydych yn sôn am brosiect i ddathlu'r 100 menyw sy’n dod i ben y rhestr yng Nghymru, ym mhob maes o fywyd cyhoeddus. Beth yn union fydd y meini prawf wrth fynd ati i lunio’r rhestr? Ac wedyn, beth fydd y meini prawf wrth gomisiynu’r ddau gerflun? A fydd o’n ddibynnol yn llwyr ar ba fenyw sydd fwyaf poblogaidd gan y cyhoedd yng Nghymru neu a oes ystyriaethau eraill hefyd? Rwyf tipyn bach yn bryderus os mai poblogrwydd yn unig sy’n mynd i fod wrth wraidd hyn. Wedyn, rydym ni’n sôn am gael dau gerflun wedi’u lleoli mewn dwy ardal wahanol o Gymru. Rwy’n cymryd y bydd y rheini yn ardaloedd daearyddol ar wahân, ac y bydd y gogledd ac efallai’r gogledd-orllewin am unwaith yn cael eu cynnwys yn hynny.

Yn edrych ar eich cynllun grantiau chi, rwyf tipyn bach yn bryderus bod yna amserlen dynn iawn ar gyfer cyflwyno ceisiadau i’r pot grant yma. Nid yw’n glir a fydd modd defnyddio’r grantiau yma i geisio dileu rhai o’r rhwystrau sy’n wynebu menywod heddiw. Yn ogystal â chofio’r gorffennol, mae’n amlwg bod angen symud pethau ymlaen. Fel y gwyddoch chi, mae cael mwy o ferched i gyfranogi ym mywyd cyhoeddus Cymru, ar y lefelau ble mae penderfyniadau pwysig yn cael eu gwneud, yn rhywbeth y mae rhai ohonom ni fan hyn yn ymgyrchu amdano fo.

Os edrychwn ni ar lywodraeth leol, rydym ni’n gweld ein bod ni wedi bod yn sefyll yn ein hunfan bron iawn: bron dim cynnydd yn y nifer o ferched a gafodd eu hethol yn 2016 o’i gymharu â’r etholiad cynt, a 28 y cant o gynghorwyr sydd yn fenywod. Fe wnaiff hi gymryd 82 o flynyddoedd i gyrraedd cydraddoldeb rhywedd yn y cynghorau yng Nghymru ar y raddfa rydym ni’n mynd arno ar hyn o bryd. Ni fedrwn ni ddim disgwyl mor hir â hynny. Mae’n rhaid, rwy’n credu, ac rwy’n meddwl eich bod chi’n cytuno, cyflwyno mecanwaith penodol. Mae tystiolaeth o bob rhan o’r byd yn dangos fod cwotâu yn ffordd effeithiol o gael mwy o fenywod mewn i swyddi o ddylanwad. Rwy’n gwybod fy mod i’n crwydro mewn i ddadl sy’n mynd i ddigwydd yma fory, ond rwyf yn credu bod angen i ni edrych o ddifrif rŵan. Mae 80 y cant o wledydd efo mwy na 30 y cant o ferched mewn Llywodraeth yn defnyddio cwota o ryw fath. Felly, yn amlwg, mae o yn gweithio.

Ond, wrth gwrs, ni fydd cwotâu ar ben eu hunain ddim yn newid diwylliant sydd wedi ei ddominyddu gan ddynion ers cyhyd. Ni fydd cwotâu ddim yn dileu aflonyddu rhywiol, ddim yn cael gwared ar fychanu a bwlian dyddiol ar sail rhywedd, ddim yn stopio merched rhag jyglo dyletswyddau gofalu a gweithio, ddim yn dileu’r bwlch cyflogau, a ddim yn atal camdriniaeth ddomestig a thrais ar sail grym. Ond, fe all y cwotâu arwain at y newidiadau strwythurol sydd eu hangen yng Nghymru er mwyn ymgyraedd at gydraddoldeb.

I ddod at gwestiwn ynghylch hynny: a fydd y grantiau yr ydych chi wedi eu cyhoeddi heddiw yn gallu cael eu defnyddio i hyrwyddo’r newid diwylliannol, strwythurol sydd ei angen yng Nghymru, fel ein bod ni’n defnyddio’r fuddugoliaeth gychwynnol rydym ni’n ei dathlu heddiw, gan y syffrajéts 100 mlynedd yn ôl—ein bod ni’n defnyddio’r fuddugoliaeth yn fwriadol ar gyfer ymgyrraedd at gydraddoldeb llawn yn y Gymru gyfoes, fel ein bod ni wir yn cyflymu’r broses yma? Felly, a ydy’r grantiau yma yn gallu cael eu defnyddio i’r pwrpas yna?

Photo of Julie James Julie James Labour 5:33, 6 Chwefror 2018

(Cyfieithwyd)

Gallan. Yr ateb syml i hynny yw, 'Gallan, fe allan nhw.' Mae'r tair thema gennym ni; felly cyn belled â'ch bod chi'n ffitio i mewn i'r tair thema, bydd y grant yn berthnasol, ac mae'n glir iawn mai peth syml iawn i'w wneud yw hyrwyddo newid er mwyn annog y tair thema. Felly, yn hollol, a byddwn yn disgwyl gallu defnyddio arian y grant. Rydym wedi cynnwys amrywiaeth o gyllid oherwydd rydym yn dymuno annog cynlluniau lleol bach yn ogystal â chynlluniau mawr, ac felly yr amrywiaeth eang o gymorth grant sydd ar gael, am y rheswm hwnnw yn union—fel bod modd inni annog pethau lleol iawn a allai wneud gwahaniaeth yn lleol i'r gallu i newid rhywbeth penodol y gellid ei ystyried yn rhwystr neu i ddathlu  rhywbeth neu beth bynnag. Ac yn wir gallai fod gennych gynllun llawer mwy y gellid edrych arno, efallai ymdrech ledled y wlad i nodi rhwystrau penodol a newidiadau. Cyfeiriais rywfaint yn y datganiad am geisio annog amrywiaeth eang o ferched i ddod ymlaen yn ogystal â dathlu amrywiaeth y menywod ym mywyd Cymru. Ac mae'n bwysig iawn i ni annog hynny, oherwydd gwyddom fod menywod sydd â nodweddion eraill hefyd, nodweddion gwarchodedig, yn wynebu hyd yn oed yn fwy o rwystr na llawer ohonom sydd heb y nodweddion hynny.

Ar fater y cwota, rwy'n cael trafodaethau hir gyda'm cyd-aelod, Ysgrifennydd y Cabinet dros wasanaethau cyhoeddus, am rai o'r pethau y gallem ni fod yn eu hybu mewn cynghorau lleol. Nid oes gennyf broblem gyda chwotâu fy hunan; nid wyf mewn sefyllfa i ymrwymo'r Llywodraeth iddyn nhw ar hyn o bryd, ond yn sicr mae hon yn drafodaeth barhaus ac egnïol yr ydym yn ei chael yn y Llywodraeth ac, yn wir, y byddwn yn annog ein bod yn ei chael ar draws y Siambr am y gwahanol ddulliau sydd sydd ar gael hefyd. Rwy'n cytuno â llawer iawn o'r menywod sydd wedi bod yn dweud ledled y DU heddiw ein bod yn dathlu'r 100 mlynedd, ond fod y cynnydd wedi bod yn rhy araf, ac nid wyf i'n fodlon i'm merched i a'm hwyresau i fod yn cael y drafodaeth hon ymhen 50 neu 100 mlynedd arall. Felly, mae angen inni ddod o hyd i ffordd o gyflymu'r broses hon o newid, i ddathlu'r llwyddiannau a'r aberth a fu o'r blaen, ond hefyd i wneud yn siŵr na fydd angen inni gael trafodaeth o'r fath eto ymhen 100 mlynedd.

Photo of Jane Hutt Jane Hutt Labour 5:36, 6 Chwefror 2018

(Cyfieithwyd)

A gaf i ddweud hefyd fy mod innau'n croesawu'r datganiad yn fawr iawn gan arweinydd y tŷ ar ganmlwyddiant y bleidlais i fenywod? Rydym, fel y dywedwch, arweinydd y tŷ, yn dathlu heddiw Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl a basiwyd ar 6 Chwefror 1918. Rhoddodd i ferched yr hawl i bleidleisio gan nodi hefyd fod yn rhaid i fenywod fod dros 30, a bod yn rhaid iddyn nhw, neu eu gwŷr, fodloni'r cymhwyster eiddo er mwyn cael pleidleisio. Felly, i raddau helaeth iawn, hawl rannol i bleidleisio oedd hyn. Ond, hefyd, ym 1918, pasiwyd Deddf i alluogi menywod i sefyll etholiad ar gyfer swydd etholiadol.

Felly, a wnewch chi ymuno â mi i groesawu'r erthygl yn y Barry and District News yr wythnos hon ar wleidydd benywaidd gyntaf y Barri, y Cynghorydd Beatrice Alice Lewis? Ganed Beatrice Alice Lewis yn Nhrelái, Caerdydd, ac roedd yn briod â naddwr glo yn y Barri. Daeth hi i'r brig yn y bleidlais yn etholiadau lleol 1919 ar gyfer ward Castleland yn y Barri. Bu'n gwasanaethu am naw mlynedd ac roedd yn nodedig am ei hymgyrch i gael clinig mamolaeth i'r Barri. A wnewch chi groesawu hefyd yr arddangosfa hawl i bleidleisio sydd i'w gweld yn llyfrgelloedd Bro Morgannwg drwy waith Fforwm Menywod Llafur y Fro? Mae honno'n cynnwys y Fonesig Dorothy Rees, y fenyw gyntaf a ddaeth yn Aelod Seneddol i gynrychioli'r Barri.

Rwyf i o'r farn fod y datganiadau a wnaed gan gyd-aelodau ledled y Siambr yn bwysig heddiw: Suzy Davies yn sôn am bleidlais ystyrlon, diffyg pleidlais, ac eithrio menywod mewn llawer rhan o'r byd, a hefyd Siân Gwenllian a siaradodd am gydnabod y fuddugoliaeth gychwynnol, yr ydym yn ei dathlu heddiw, 100 mlynedd yn ddiweddarach, ond gan gydnabod bod yn rhaid inni sicrhau cydraddoldeb llawn yn y Gymru gyfoes, yn arbennig i ferched ifanc. Mae hwn yn amser pryd y mae'n rhaid inni gydnabod yr hyn sy'n gyffredin inni. Mae mwy o bethau'n ein huno na'r hyn sy'n ein rhannu ni ar y materion hyn.

Felly, a ydych yn cytuno bod gennym gyfrifoldeb i annog menywod i sefyll etholiad ar gyfer llywodraeth leol, y Cynulliad a San Steffan, ac a ydych yn croesawu ymgyrch menywod Chwarae Teg, LeadHerShip? Rwy'n siŵr y bydd llawer ohonoch yn gwybod am ymgyrch LeadHerShip yn Chwarae Teg oherwydd ei bod yn galluogi menywod i gysgodi Aelodau'r Cynulliad—ac rwy'n credu bod llawer ohonoch wedi cytuno i ymrwymo i hyn, yn ddynion a menywod—er mwyn annog mwy o gyfranogiad gwleidyddol o ystyried y lefel annerbyniol o isel o gynrychiolaeth, yn enwedig menywod, mewn llywodraeth leol. Yn wir, dim ond 20 y cant o gynghorwyr ac Aelodau Seneddol sydd yn fenywod, ond, wrth gwrs, mae gennym gyfle i geisio cydraddoldeb rhwng y rhywiau yn y Cynulliad hwn. Rydym wedi gweld pa mor fregus yw hynny pan oedd gennym y cydraddoldeb hwnnw yn 2003:50 y cant i lawr i 42 y cant. Mae'n rhaid gwneud cydraddoldeb rhwng y rhywiau yn rhywbeth sy'n aros. Felly, a wnewch chi groesawu ymgyrch Chwarae Teg, sef LeadHerShip, a hefyd eto, gadarnhau eich bod heddiw yn cyhoeddi'r grant hollbwysig hwn gan Lywodraeth Cymru ar gyfer canmlwyddiant y bleidlais i fenywod, a'n bod yn dymuno i'r holl sefydliadau hynny ymgysylltu â hynny'n lleol ac yn genedlaethol?

Photo of Julie James Julie James Labour 5:39, 6 Chwefror 2018

(Cyfieithwyd)

Ie, wir. Rwy'n hapus iawn i groesawu'r holl gyfraniadau y mae Jane Hutt wedi tynnu sylw atyn nhw, yn arbennig yn y Barri a'r Fro; maen nhw'n ardderchog. Ceir nifer o arddangosfeydd ardderchog fel hyn ledled Cymru wrth gwrs. Mae'r cynllun grant a gyhoeddaf heddiw, yn wir, yn mynd i helpu pobl i gadw'r arddangosfeydd hynny yn y dyfodol neu i'w datblygu mewn unrhyw ffordd y gwelan nhw'n dda i wneud hynny. Dylwn i fod wedi ymateb i Siân Gwenllian, ond rwyf am ei ddweud yn awr: nid ydym yn edrych ar amserlen fer i gyflawni hyn. Rydym yn tybio y gweithredir llawer o'r cynlluniau hyn tua ddiwedd y flwyddyn pan fydd rhai o'r dathliadau canmlwyddiant eraill ar fin digwydd. Canmlwyddiant y bleidlais wirioneddol gyntaf, er enghraifft, yw mis Rhagfyr, ac ati. Felly, mae eleni yn flwyddyn gyfan o ddathlu. Ceir rhai cynlluniau yn y DU sydd ar waith ar hyn o bryd ac rydym yn eu hannog i fynd yn eu blaenau. Felly, nid wyf yn edrych ar gyfnod byr o amser; byddwn yn rhoi cyfnod rhesymol o amser i bobl er mwyn iddyn nhw gael y grantiau ynghyd a rhywfaint o gymorth i wneud hynny.

Mae hyn yn ymwneud ag ymdrin â nifer fawr o'r materion sydd newydd eu codi ynghylch gwneud yn siŵr bod cyfraniad menywod yn cael ei gydnabod a'r patrymau ymddygiad yn cael eu cydnabod, gyda'r holl gynlluniau sydd ar y gweill i annog menywod ifanc yn benodol i ddod ymlaen a chael eu gweld mewn bywyd cyhoeddus. Nid yw hyn yn golygu fel gwleidydd etholedig yn unig, ond eu bod yn cael eu gweld mewn bywyd cyhoeddus hefyd. Felly, mae'r cynghorwyr benywaidd yn bwysig iawn, ond yn wir, mae'n bwysig iawn eu bod yn cael eu gweld ar fyrddau cyhoeddus ac yn amlwg ar fyrddau elusennau ac ati, fel bod menywod yn cymryd eu priod le ym mywyd cyhoeddus. Gwyddom unwaith y cawn y gynrychiolaeth honno i ddechrau, yna bydd pethau megis ysbyty mamolaeth ac ati yn cyflymu'n sydyn i fyny'r agenda, ac yn gwbl briodol felly. Dyna'n rhannol beth yw ystyr hyn; creu prosesau gwell o wneud penderfyniadau a chael arferion cyflogaeth sy'n llai cyfyng a bod mwy o drefniadau sy'n gefnogol ar gael nid yn unig i fenywod, ond i lawer o bobl â nodweddion gwarchodedig eraill. Mae hyn yn bwysig iawn er mwyn dod ag amrywioldeb mewn bywyd cyhoeddus i'r amlygrwydd a ddylai fod ganddo yng Nghymru.

Photo of Michelle Brown Michelle Brown UKIP 5:41, 6 Chwefror 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch ichi am eich datganiad, arweinydd y tŷ. Gan mlynedd yn ôl i heddiw, daeth yr hawl y gwnaeth llawer o fenywod ymladd ac aberthu llawer er ei mwyn yn ddeddf; o'r diwedd, cafodd menywod yr hawl i bleidleisio ar ôl blynyddoedd lawer o ymdrech. Mae'r ffaith fod menywod wedi ennill yr hawl i bleidleisio yn tystio i waith caled ac aberth y swffragetiaid a'u cynghreiriaid, y tu mewn a'r tu allan i'r Senedd. Pan bleidleisiodd y 8.5 miliwn o fenywod hynny yn etholiad cyffredinol Rhagfyr 1918, roedden nhw'n defnyddio'r hawl i benderfynu pwy fyddai'n rheoli eu gwlad a nhw eu hunain. Gallai pleidlais fy hen fam-gu a phleidlais y rheini o'i chenhedlaeth hi benderfynu pwy fyddai'n rheoli polisi masnach y dyfodol, polisi amaethyddol a physgodfeydd, polisi economaidd, y cyfreithiau cystadlu, cyfreithiau cwmni a phob maes arall o lywodraethu. Dyna'r hyn yr ymladdodd y swffragetiaid drosto. Ond ychydig mwy na 50 mlynedd wedi i fenywod bleidleisio am y tro cyntaf yn y wlad hon, dechreuodd ein Llywodraeth wanhau ein pleidlais a'i rhoi i ffwrdd, o dipyn i beth, ynghyd â llywodraethiad ein gwlad, i fiwrocratiaid anetholedig.

Mae'r bleidlais a ddefnyddiwyd gan fy nghenhedlaeth i o fenywod yn awr yn amodol ar gymwysterau. Nid yw'n effeithio ond ar y cyfreithiau a'r polisïau hynny nad ydyn nhw wedi cael eu penderfynu gan yr Undeb Ewropeaidd. Gallwn newid y sawl sy'n penderfynu ar sut y mae ein GIG yn darparu gwasanaethau, ond nid a yw TAW yn cael ei godi ar damponau. Ni ofynnodd neb i fenywod o 'm cenhedlaeth i ai dyna'r hyn a fynnem. Rwy'n siŵr y bydd llawer o'r Aelodau yn siarad yn wresog am y cam ymlaen gogoneddus a gafwyd 100 mlynedd yn ôl i heddiw, fel yr oedd hynny, wrth gwrs. Caiff plant ysgol eu synnu'n aml pan maent yn dysgu nad oedd gan fenywod y bleidlais erioed. Nid ydyn nhw'n dirnad pam y buasai unrhyw un yn credu ei bod yn dderbyniol i adael i'r ychydig wneud yr holl benderfyniadau. Ond yn y lle hwn, ac yn San Steffan, mae gennym wleidyddion sy'n hapus i'r hawliau i bleidleisio, y bu'r fath ymdrech i'w hennill, gael eu hanwybyddu fel y gellir gwneud y penderfyniadau gan fiwrocratiaid anetholedig, nad oes modd eu cyrraedd na'u cyffwrdd â nhw. [Torri ar draws.]

Felly, er, wrth gwrs, fy mod innau'n dathlu 100 mlynedd o fenywod yn cael y bleidlais, rwyf hefyd yn dathlu'r bleidlais Brexit ragorol pan bleidleisiodd menywod a dynion Cymru i adennill grym eu pleidlais. Os nad ydym am ganiatáu i'r frwydr, yr anafiadau, y marwolaethau a'r aberthau aruthrol a wnaeth y mudiad pleidlais i bawb fynd yn wastraff, ac os nad ydym yn awyddus i fenywod a dynion hefyd golli grym eu pleidlais, mae'n rhaid ichi sicrhau Brexit priodol ac ailwladoliad llawn ein llywodraeth. Mae adennill grym ein pleidlais yn barhad o frwydr y swffragetiaid 100 mlynedd yn ôl. Felly, fy nghwestiwn mawr i yw hwn—[Torri ar draws.] Roeddech yn gwybod y byddwn i'n dod ato. Mae gosod placiau, dathlu menywod nodedig a rhoi grantiau yn burion, ond sut rydych yn mynd i ail-rymuso menywod yng Nghymru? A sut fyddwch yn sicrhau yn y dyfodol y bydd eu pleidlais yn golygu cymaint ar ôl Brexit ag yr oedd 100 mlynedd yn ôl? Diolch.

Photo of Julie James Julie James Labour 5:44, 6 Chwefror 2018

(Cyfieithwyd)

Wel, mae arna' i ofn na allaf anghytuno'n fwy gyda'r Aelod am bopeth a ddywedodd hi bron, sydd yn drueni, fel rhan o hyn. Defnyddiais i fy mhleidlais yn bersonol yn yr etholiadau Ewropeaidd, ac roedd llawer o fenywod yn fy nheulu yn gwneud hynny hefyd. Roedd hi bob amser yn agored i bobl fwrw eu pleidlais mewn etholiadau democrataidd ar gyfer aelodau Senedd Ewrop, ac, yn wir, mae gennym gyn-aelod o Senedd Ewrop yn rhan o feinciau Llafur yn y Cynulliad hwn. Felly, anghytunaf yn llwyr â'r hyn a ddywedodd Michelle Brown, ond gwnaf ychydig o sylwadau eraill. Ni wnaeth unrhyw berthynas i mi bleidleisio yn yr etholiad cyffredinol ym mis Rhagfyr 1918 gan eu bod yn perthyn i'r dosbarth gweithiol ac nid oeddent yn berchen ar eiddo. Felly, mewn gwirionedd, y dathliad o'r bleidlais gyffredinol yw'r un y byddaf i'n edrych ymlaen ato. Rwyf hefyd yn edrych ymlaen at ddatblygu'r ddadl am bleidleisio'n 16 oed, fel ein bod yn gostwng yr oedran pleidleisio fel y gall pawb yn y wlad hon sy'n gymwys i dalu trethi gel cynrychiolaeth briodol yn y mannau sy'n eu cynrychioli.

Fe gawsom ni'r bleidlais Brexit, ac wrth gwrs bydd y Llywodraeth yn ei hanrhydeddu. Ond yr hyn na wnaethom oedd cael pleidlais am gylch gorchwyl y Brexit hwnnw. Rydym wedi cael y ddadl honno mewn man arall, nid oes angen ei chael eto. Ond mae tair thema dathlu'r canmlwyddiant yn bwysig iawn yma. Mae'r thema addysgu yn un bwysig iawn. Mae'n bwysig iawn wir fod pobl yn deall holl amgylchiadau eu democratiaeth yn iawn fel eu bod yn parhau i wneud y penderfyniad cywir pan fyddan nhw'n arfer eu pleidlais mewn modd cyfrifol.

Photo of Dawn Bowden Dawn Bowden Labour 5:45, 6 Chwefror 2018

(Cyfieithwyd)

A gaf i ddiolch i arweinydd y tŷ am ei datganiad a oedd, yr oeddwn yn falch o nodi, yn cydnabod aberth y rhai a aeth o'n blaenau a'r rheini a siaradodd o blaid hawl menywod i bleidleisio, ac, yn wir, hawl menywod i sefyll mewn etholiad? Yn achos etholaeth Merthyr Tudful a Rhymni, mae'n destun balchder i mi fod cymorth o'r fath wedi dod oddi wrth Keir Hardie a oedd yn AS iddyn nhw ar y pryd. Ym 1905, ysgrifennodd Keir Hardie yn pledio dros bleidlais i fenywod, am yr agweddau tuag at yr etholfraint, a dywedodd,

'Nid ydym bellach yn siarad am fenywod fel eu bod yn yr un categori â'r "ynfyd" a'r "gwallgof", ond at ddibenion gwleidyddol rydym yn eu trin felly.'

Felly, mae'n fater i'w ystyried efallai, ers i Keir Hardie fynegi ei gefnogaeth i bleidleisiau i fenywod, mai pan gefais i fy ethol ym mis Mai 2016—dros 100 mlynedd yn ddiweddarach—y cafodd ei etholaeth ef gynrychiolydd benywaidd, naill ai yn y Senedd neu yn Nghynulliad Cenedlaethol Cymru. Felly, rwy'n falch iawn hefyd o fod yn rhan o ymgyrch LeadHerShip Chwarae Teg, sy'n mynd i helpu i annog menywod i gymryd rhan ym myd gwleidyddiaeth, ac os gallaf i chwarae rhan fechan wrth annog hynny, rwy'n hapus i wneud hynny.

Ond rwy'n siŵr, arweinydd y tŷ, y byddwch yn cytuno â mi fod effaith polisi'r Blaid Lafur ar restrau byrion menywod i gyd wedi gweld Llafur fel y blaid sydd wedi cyflawni mwy o ran menywod yn gynrychiolwyr, yn San Steffan ac yma ym Mae Caerdydd, nag unrhyw blaid arall wedi eu rhoi at ei gilydd. Ac mae hynny'n gamp i fod yn falch iawn ohoni, ond yn un sy'n dangos bod angen inni fod yn rhagweithiol yn ein cefnogaeth i gydraddoldeb cynrychiolaeth.

Nawr, rwyf wedi siarad yn fyr am y gefnogaeth a gafwyd gan Keir Hardie, ond rwy'n awyddus i sôn yn fyr hefyd am y cymorth ar gyfer y bleidlais i fenywod a ddaeth o gylchoedd eraill ym Merthyr Tudful. Efallai eich bod yn ymwybodol o'r teulu Crawshay a oedd yn enwog fel y meistri haearn, ond mae hefyd yn wir fod Mary Rose Crawshay, a oedd yn wraig i'r meistr haearn olaf, Robert Thompson Crawshay, yn ffeminist gref yn ei hamser, a'i bod wedi llofnodi deiseb bleidlais y fenyw gyntaf yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Yn wir, cymaint oedd ei chefnogaeth fel iddi gael ei chyhuddo yn y cyfryngau o darfu ar yr heddwch ac o arwain menywod Cymru ar ddisberod. Felly, a gaf i ofyn i arweinydd y tŷ a yw hi'n cytuno â mi wrth i'r ddadl am newidiadau pellach i'n Cynulliad Cenedlaethol fynd yn ei blaen, y dylem ni sicrhau bod ein sefydliadau democrataidd yn rhoi llais gwirioneddol i fenywod yng Nghymru? A fyddai'n cytuno ymhellach, fel Mary Rose Crawshay, y dylem barhau i aflonyddu ar yr heddwch tra phery'r frwydr dros gydraddoldeb?

Photo of Julie James Julie James Labour 5:48, 6 Chwefror 2018

(Cyfieithwyd)

Rwy'n hynod hapus i gytuno â'r ddwy farn honno—yn gyfan gwbl. Un o'r canmoliaethau gorau a gefais i erioed yn fy ngyrfa hir yn y gyfraith oedd mai menyw gegog ar y diawl oeddwn i—[Chwerthin.]—sef yr hyn yr oeddwn, rwy'n credu, yn mynd i'w gael yn feddargraff i mi, a dweud y gwir. Felly, cytunaf yn llwyr â hynny. Fel y gŵyr pawb yn y Siambr hon—rwyf innau wedi ei ddweud droeon—rwy'n hynod o falch fy mod i fy hun wedi cael fy ethol oddi ar restr fer o fenywod. Fi oedd y fenyw gyntaf yn fy nheulu i fynd i'r brifysgol ac rwy'n hynod falch o fod y fenyw gyntaf yn fy nheulu i fod mewn swydd etholedig, ond rwy'n gwbl benderfynol y bydd yr ysgol a ddringais i ar gael i bob merch ifanc yng Nghymru i'w dringo yn fy lle.

Byddaf yn cymryd rhan yng nghynllun Chwarae Teg. Mae cynllun mentora hefyd gan fenywod Rhwydwaith Cydraddoldeb Cymru yr wyf yn dymuno ei grybwyll, a byddwn yn annog pawb i gymryd rhan yn y cynllun hwnnw hefyd. Mae'n bwysig iawn fod gennym amrywiaeth o Aelodau Cynulliad i gymryd rhan yn y cynlluniau hynny fel bod cyfle i bawb, ac yn y modd hwn, gallwn wneud yn siŵr bod ein lleisiau yn parhau i gael eu clywed. Ac yng ngeiriau Cymorth i Ferched Cymru, yn sicr, fe godwn ni o hyd.

Photo of Joyce Watson Joyce Watson Labour 5:49, 6 Chwefror 2018

(Cyfieithwyd)

Rwy'n credu, heddiw, wrth inni edrych yn ôl, bod yn rhaid i hwn fod yn gyfle inni roi teyrnged, nid yn unig i'r menywod hynny a enillodd y bleidlais, er ei bod yn gyfyngedig, 100 mlynedd yn ôl, ond am y brwydrau a fu a'r menywod hynny a ddaeth â ni i'r fan hon yn Cynulliad. Meddwl yr wyf yn arbennig yn y fan hon mai 1918 oedd hi pan gawsom y bleidlais, er ei bod yn gyfyngedig, ond 1999 oedd hi, 81 mlynedd yn ddiweddarach, pan gafodd menywod eu cyfiawn le i gynrychioli eu hetholaethau yn y Cynulliad hwn, ac ni ddigwyddodd hynny ar hap a damwain, y niferoedd hynny. Daeth y niferoedd hynny drwy weledigaeth a phenderfyniad y Farwnes Anita Gale—'Anita' fel y'i gelwir yn gyffredin gan bob un ohonom, fel y byddai hi'n ei ddweud—Ysgrifennydd Cyffredinol y Blaid Lafur yng Nghymru y pryd hwnnw. Ac achubodd hi ar y cyfle, lle'r oedd tudalen wag ar gyfer pobl i gynrychioli 40 o etholaethau a rhanbarthau, i ddarbwyllo a pherswadio pobl i gefnogi ei gweledigaeth hi, a'r weledigaeth honno oedd dewis 20 o ddynion a 20 o fenywod ar ran y Blaid Lafur i sefyll a gwneud eu gorau. Ac rwy'n dweud darbwyllo a pherswadio; mewn gwirionedd, cafwyd—fel y gŵyr llawer ohonom sydd yma—drafodaethau tanbaid iawn a hynod wrthwynebus ledled Cymru. Ac yn y pen draw, drwy'r rheini, cawsom yr undebau llafur a'r aelodaeth i gefnogi'r cynnig hwnnw. Mae llawer ohonom yn dal i ddioddef y creithiau o hynny, ond cam da oedd hwn, a ddaeth â'r hyn sydd gennym yn awr i fodolaeth. Nawr, a yw hynny'n gwneud gwahaniaeth? Nid ynddo'i hunan. Ni fydd byth yn gwneud gwahaniaeth ynddo'i hunan.

Felly, eto, mae angen rhoi teyrnged i'r menywod hynny a ddaeth yma yn gynnar iawn a sicrhau bod amddiffyniad i fenywod yn cael ei gynnwys o fewn fformat deddfwriaethol Cymru. Yn y trefniant cyfansoddiadol cyntaf un, sefydlwyd dyletswydd absoliwt i gydraddoldeb. Cawsom hefyd ddeddfwriaeth—wel, nid deddfwriaeth, oherwydd ni allem wneud hynny, ond datganiadau y byddem yn gwarchod menywod a merched sy'n ffoi rhag  cam-drin domestig a gwneud yn siŵr eu bod yn ddiogel. Felly, nid mater syml o gael menywod i mewn i sefydliad yw hyn. Mae'n golygu cael y menywod iawn, gyda'r  weledigaeth, i'r lle hwn. Ac rwy'n diolch i Anita, ac rwyf yn siŵr y byddwch chithau hefyd, am hynny. Ond ddydd Gwener, cymerais ran yn nigwyddiad Seneddwyr Benywaidd y Gymanwlad yn Jersey, ac euthum i siarad â menywod a merched fel rhan o raglen—rhaglen eang—sy'n annog menywod i sefyll neu gymryd rhan mewn gwleidyddiaeth, ar ba lefel bynnag y gallai hynny fod. Felly, mae'n rhan o fudiad ehangach, ac rwy'n falch ein bod wedi cael rhywfaint o arian ar gyfer ardaloedd fel fy ardal i, ardaloedd gwledig a'r holl ardaloedd yng Nghymru, i ystyried yr hyn y mae'n rhaid iddyn nhw ei wneud yn eu cymunedau eu hunain. Ac mae'n siŵr mai fy nghwestiwn ar hynny yw hyn: sut y caiff y cymunedau hynny wybod bod yr arian hwnnw ar gael iddyn nhw, gan ein bod yn awyddus i gymaint o sefydliadau â phosib wneud cais amdano? Diolch.

Photo of Julie James Julie James Labour 5:53, 6 Chwefror 2018

(Cyfieithwyd)

Wel, rwy'n fwy na pharod i roi teyrnged i'r Anita Gale wych. Ni wn a yw'n ddirgelwch i bobl ar y meinciau eraill pam y dechreuon ni i gyd wenu pan gyfeiriodd Joyce at 'darbwyllol' a 'dylanwadol', ond rydym i gyd yn cofio perswâd Anita a'i dylanwad—yn fy achos i, gydag anwyldeb. Mewn achosion eraill, efallai y gallai rhai fod yn dal i deimlo ychydig yn anesmwyth. Ond mae'n dangos grym rhywun â gweledigaeth benderfynol a chryfder cymeriad i ddwyn y gwaith i ben. Felly, roedd yn hollol benderfynol ei bod yn mynd i gael cydraddoldeb rhyw yn ein cynrychiolaeth etholaethol i'r lle hwn, ac roedd ei phenderfyniad yn disgleirio ac enillodd y dydd. Dyna wir neges Anita. Dau beth: dylai fod gennych weledigaeth, ac ewch ar ei hôl yn ddygn—credaf mai dyna'r gair cywir—ac mewn gwirionedd, hyd y funud hon, parhewch yn eich brwydr i wneud yn siŵr bod y weledigaeth sydd gennych ar gyfer cydraddoldeb rhwng y rhywiau yn aros yn gadarn ar yr agenda.

Mae Joyce yn iawn hefyd i roi teyrnged i'r nifer mawr o fenywod sydd wedi dod i'r lle hwn ar y dechrau'n deg a gosod rhai o'r safonau hynny. Rwy'n dymuno sôn am un arall hefyd, sef Val Feld, a gŵyr pawb ei bod hi'n hynod benderfynol o gael cydraddoldeb ar yr agenda yn y lle hwn, a byddwn i gyd yn cytuno ei bod hi wedi gwneud gwaith da iawn yn hynny o beth. Ond hoffwn hefyd roi teyrnged i'm cyd-aelod, Jane Hutt, sef, wrth gwrs, y Gweinidog sydd wedi bod yn ei swydd am y cyfnod hwyaf mewn unrhyw weinyddiaeth yn y DU, ac a oedd yn un o'r menywod gwreiddiol yma. Credaf hefyd fod hi ei hun wedi bod â rhan fawr iawn i wneud yn siŵr bod y lle hwn yn trin y cwota etholiadol gyda'r difrifoldeb y mae'n ei haeddu, a chyda'r amlygrwydd y mae'n ei haeddu yn ein gwaith wrth lunio polisïau cenedlaethol.

O ran y grantiau sydd ar gael, fodd bynnag, byddwn yn sicrhau y byddant ar gael. Byddwn yn gwneud yn siŵr bod pob Aelod Cynulliad yn cael llythyr yn egluro sut mae'n gweithio. Byddwn yn ysgrifennu at yr holl sefydliadau cymunedol a gefnogir gennym eisoes. Ond os oes unrhyw Aelodau Cynulliad yn dymuno inni wneud unrhyw beth penodol yn eu hardal nhw neu ei amlygu mewn unrhyw le penodol, rwy'n fwy na pharod i wneud hynny hefyd.

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 5:55, 6 Chwefror 2018

(Cyfieithwyd)

Rwy'n sylweddoli nawr mai y fi, mae'n debyg, yw siaradwr Rhif 3 o'r meinciau cefn, felly byddaf yn ymarfer yr hyn yr wy'n ei bregethu wrthych chi i gyd a byddaf yn gryno iawn wrth ofyn gofyn cwestiwn ichi a dyna i gyd.

A gaf i groesawu'r datganiad, arweinydd y tŷ, a chydnabod heddiw hefyd mai'r menywod dewr yn 1908 a sefydlodd ail gangen y swffragetiaid yn y Rhyl, a aeth yn eu blaenau a helpu'r menywod hynny ar eu ffordd? Fel y mae llawer wedi ei nodi, mae etholfraint rannol sydd i fenywod heddiw, a symudwn ymlaen a byddwn i gyd yn dathlu.

Mae yna nifer o bethau yr ydych wedi sôn amdanyn nhw, ac mae nifer o bethau y mae'r Cynulliad yn eu gwneud. Yn enwedig yr un yr oeddwn i'n awyddus i sôn amdani sef arddangosfa'r bleidlais i fenywod yng Nghymru, sydd yn dechrau ar 5 o fis Mawrth, ac yn rhedeg hyd 18 o fis Mawrth. Bydd yn cynnwys Diwrnod Rhyngwladol y Menywod, y mae'r Cynulliad eleni wedi ei chyflwyno i fudiad y bleidlais i fenywod. Rwy'n dymuno dweud wrthych chi, neu ofyn i chi, a gofyn i'r Llywodraeth—mae menywod mewn bywyd cyhoeddus yn rhan o'r ffrwd waith yr wy'n canolbwyntio arni, ac mae llawer o'r hyn yr ydych wedi ei grybwyll yn bethau y byddaf yn cymryd rhan ynddyn nhw, ond a all Llywodraeth Cymru a Chomisiwn y Cynulliad weithio'n agos iawn â'i gilydd fel nad ydym yn dyblygu digwyddiadau, ein bod yn addurno cymaint o ffenestri siop ag y bo modd, fel yr wyf wedi ei glywed yn cael ei ddweud heddiw—nid oes ots gennyf i faint o ffenestri y byddwn yn eu gwisgo â phorffor, gwyn a gwyrdd oherwydd credaf fod angen inni ddathlu—a'n bod yn symud ymlaen gyda'n gilydd, yn Gomisiwn y Cynulliad, yn Llywodraeth Cymru, yn bobl Cymru, yn gynrychiolaeth i Gymru, i ddathlu gwaith menywod? Tybed a fyddech yn cytuno mai dyna'r ffordd orau ymlaen.

Photo of Julie James Julie James Labour 5:57, 6 Chwefror 2018

(Cyfieithwyd)

Wrth gwrs fy mod yn cytuno mai honno yw'r ffordd orau ymlaen, ac rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda'r Comisiwn, mewn gwirionedd, i wneud yn siŵr y cawn drefn ar y dathliadau ar gyfer y flwyddyn i ddod, a'n bod yn cael y gwerth mwyaf o grantiau'r Llywodraeth a'r hyn y gall y Cynulliad ei wneud i dynnu sylw at y gwaith sydd wedi'i roi ymlaen ar y cyd. Rwy'n deall—a gobeithio bod hyn yn iawn—bod Comisiwn y Cynulliad wedi cytuno i fod yn Gyflogwr FairPlay Chwarae Teg, felly edrychaf ymlaen at glywed am hynny, ac at annog Llywodraeth Cymru i ymuno yn y cynllun hwnnw hefyd.

Photo of Jenny Rathbone Jenny Rathbone Labour 5:58, 6 Chwefror 2018

(Cyfieithwyd)

Mynnodd menywod gael y bleidlais er budd dynion lawn cymaint â budd menywod. Roedden nhw am ei chael hi er lles y gymuned gyfan, felly dywedodd fy hen fodryb, Eleanor Rathbone, a oedd y nawfed fenyw i'w hethol i Senedd y DU. Roedd hi'n credu'n gryf ei bod yn gwbl angenrheidiol i ddwyn y gymdeithas gyfan gyda hi, a dyna pam y siaradodd mewn cannoedd o gyfarfodydd cyhoeddus ledled Gogledd Cymru, Lerpwl, Swyddi Caer a Chaerhirfryn. Oherwydd ei bod yn rhaid inni gofio na allai pobl yn y dyddiau hynny, pobl gyffredin, fforddio i brynu papur newydd, ac yn sicr ni allen nhw fforddio i brynu radio, felly sut arall y gallen nhw gael gwybodaeth am bwysigrwydd y frwydr am bleidlais i bob menyw a phob dyn, oherwydd eithriwyd y rhan fwyaf o ddynion bryd hynny hefyd? Rhaid inni gofio mai ym 1918, ddim ond 17 o fenywod a lwyddodd i ddod yn ymgeiswyr yn yr etholiad cyffredinol, a dim ond un ohonyn nhw a gafodd ei hethol, Iarlles Markievicz—a chan mai o blaid Sinn Fein yr oedd hi, nid eisteddodd fyth yn ei sedd. Felly, cymerodd lawer iawn fwy o ymdrech i sicrhau bod menywod mewn gwirionedd yn dod yn rhan o'r adeiladwaith gwleidyddol.

Yn wir, barn Eleanor, wedi treulio 40 mlynedd o ymgyrchu am lwfansau i deuluoedd, yn seiliedig ar ei sylwi ar sut roedd menywod a phlant yn cael eu trin yn ystod y rhyfel byd cyntaf—pan aeth eu dynion nhw i gyd i ffwrdd i'r rhyfel, cawsant eu gadael heb yr un geiniog. Treuliodd hi weddill y rhyfel yn rhannu taliadau lles i'r holl deuluoedd hyn fel yr unig fenyw ar Gyngor Dinas Lerpwl. Canolbwyntiodd hynny ei meddwl yn wirioneddal ar bwysigrwydd y teulu fel cynhyrchydd ac epiliad gweithlu'r dyfodol. Roedd hi'n credu'n gryf y dylai lwfansau teulu fod yn gyfraniad gan gymdeithas i bob plentyn, oherwydd pa un ai oes gennym plant neu beidio, dyletswydd i bawb yw cefnogi lles plant. Aeth lwfans teulu yn fudd-dal plant o dan Barbara Castle, ond bellach y mae'n cael ei weld fel ei fod yn gwywo ar y gangen. Mae budd-dal plant wedi lleihau yn ei werth ers 2010—gan 20 y cant ers dyfodiad y Llywodraeth Geidwadol. Yn ogystal â hynny, mae gennym fudd-daliadau mewn gwaith hefyd yn cael ei lleihau yn llai na'r gyfradd chwyddiant, a phlant yn dioddef gwaethaf yr ymgyrch hon o galedi. Mae angen inni ein hatgoffa ein hunain fod yn rhaid i blant a lles plant fod yn flaenllaw yn ein meddyliau wrth sicrhau lles ein cymdeithas gyfan. Felly, ennill brwydr a wnaethom ni, ond yn sicr nid ydym wedi ennill y rhyfel.

Photo of Julie James Julie James Labour 6:01, 6 Chwefror 2018

(Cyfieithwyd)

Wel, yn hollol. Fe enillom ni'r frwydr, ac nid yw'r rhyfel drosodd yn sicr, ac mae angen mynd ati i ryfela—os dyna'r gair yr ydych chi eisiau ei ddefnyddio—ar sawl ffrynt. Mae rhai pethau diddorol am yr hawl i bleidleisio, fel y cafodd ei sefydlu i ddechrau. Pe byddai pob menyw wedi cael pleidleisio yn 18 oed ychydig ar ôl y rhyfel byd cyntaf, byddai llawer mwy ohonyn nhw nag o ddynion, wrth gwrs, oherwydd trychineb y rhyfel mawr. Ni allwn ond teimlo y gallai'r llunwyr polisi, a fyddai o bosibl yn ddynion i gyd, wedi bod yn ymwybodol o hynny pan oedden nhw'n ystyried y bleidlais. Mae'n enghraifft dda iawn o pam y mae angen amrywiaeth o bobl i wneud penderfyniad i ystyried yr holl bethau hyn wrth i chi fwrw ymlaen. Felly, rydych chi'n hollol iawn, ac rydych chi'n hollol iawn i dynnu sylw at y ffaith bod yna ymgyrchoedd sy'n effeithio ar y gymdeithas gyfan y mae menywod yn tueddu eu cyflwyno gan mai nhw sy'n cario'r baich, yn aml. Wrth i gymdeithas newid, rydym ni'n gobeithio na fyddwn ni'n gallu dweud hynny yn y dyfodol. Ond, wrth inni siarad, mae'n dal yn wir bod y rhan fwyaf o fenywod yn ysgwyddo baich y teulu ochr yn ochr â nhw mewn bywyd cyhoeddus.

Felly, bydd rhan o'r ymgyrch hon yn ymwneud â chydraddoldeb rhwng y rhywiau. Dechreuais ymgyrch o'r enw 'DYMA FI' ddydd Llun diwethaf yng Ngholeg Gŵyr, i wneud yn siŵr bod modd i bawb fod yr hyn y maen nhw eisiau ei fod, beth bynnag yw eu rhyw neu eu rhywioldeb neu eu hil neu eu credo neu anabledd neu unrhyw nodwedd arall. Hyd nes y byddwn yn derbyn bod bodau dynol yn fodau dynol, ac y dylen nhw allu bod y person gorau y gallan nhw fod a gwneud y cyfraniad gorau y gallan nhw ei wneud, bydd yr anhawster hwn yn parhau. Felly, mae'n lle da yn wir, Llywydd—i ddod â'r ddadl hon i ben—mae'n sicr yn wir mai'r hyn yr ydym ni'n sôn amdano mewn gwirionedd o ran cydraddoldeb rhwng y rhywiau yw hawl pob bod dynol unigol i fod y person gorau y gall fod, ac i wneud y gorau o'i hun a chymryd ei le haeddiannol yn y byd, beth bynnag yw'r lle haeddiannol hwnnw—mewn bywyd cyhoeddus, mewn bywyd preifat, mewn bywyd economaidd, mewn bywyd diwylliannol, ym mhob agwedd arall ar ein cymdeithas. Dim ond pan fyddwn ni wedi cyflawni hynny y byddwn ni wedi cyflawni cydraddoldeb.