Part of the debate – Senedd Cymru am 5:48 pm ar 6 Chwefror 2018.
Rwy'n hynod hapus i gytuno â'r ddwy farn honno—yn gyfan gwbl. Un o'r canmoliaethau gorau a gefais i erioed yn fy ngyrfa hir yn y gyfraith oedd mai menyw gegog ar y diawl oeddwn i—[Chwerthin.]—sef yr hyn yr oeddwn, rwy'n credu, yn mynd i'w gael yn feddargraff i mi, a dweud y gwir. Felly, cytunaf yn llwyr â hynny. Fel y gŵyr pawb yn y Siambr hon—rwyf innau wedi ei ddweud droeon—rwy'n hynod o falch fy mod i fy hun wedi cael fy ethol oddi ar restr fer o fenywod. Fi oedd y fenyw gyntaf yn fy nheulu i fynd i'r brifysgol ac rwy'n hynod falch o fod y fenyw gyntaf yn fy nheulu i fod mewn swydd etholedig, ond rwy'n gwbl benderfynol y bydd yr ysgol a ddringais i ar gael i bob merch ifanc yng Nghymru i'w dringo yn fy lle.
Byddaf yn cymryd rhan yng nghynllun Chwarae Teg. Mae cynllun mentora hefyd gan fenywod Rhwydwaith Cydraddoldeb Cymru yr wyf yn dymuno ei grybwyll, a byddwn yn annog pawb i gymryd rhan yn y cynllun hwnnw hefyd. Mae'n bwysig iawn fod gennym amrywiaeth o Aelodau Cynulliad i gymryd rhan yn y cynlluniau hynny fel bod cyfle i bawb, ac yn y modd hwn, gallwn wneud yn siŵr bod ein lleisiau yn parhau i gael eu clywed. Ac yng ngeiriau Cymorth i Ferched Cymru, yn sicr, fe godwn ni o hyd.