Part of the debate – Senedd Cymru am 6:19 pm ar 6 Chwefror 2018.
Rwy'n meddwl eich bod chi'n hollol iawn, Ysgrifennydd Cabinet—ychydig iawn o wahaniaeth ddylai fod rhwng unrhyw un yn y Siambr yma o ran ein dyhead ni i gyd i symud tuag at sefyllfa lle mae ein gwasanaeth iechyd ni yn gwbl ddigidol, lle mae systemau yn cydweithio efo'i gilydd er lles y cleifion. Ac eto, yng nghyd-destun Brexit, mae parodrwydd pobl i fod eisiau troi'r cloc yn ôl yn gwneud i rywun feddwl buasai'n bosib yn well gan rai pobl i fynd yn ôl at feddygon yn cadw cofnodion ar lechi, ond rydw i'n gobeithio mai lleiafrif fyddai o'r farn honno.
Mi ydych chi wedi rhedeg drwy sawl elfen o'r dechnoleg sydd yn ac wedi cael ei chyflwyno o fewn y gwasanaeth iechyd—the Welsh patient referral service system. Mae'n bwysig iawn cael hwn yn iawn, a'r platfform telegyfathrebu ar gyfer Choose Pharmacy, wrth gwrs, yn bwysig iawn. Rydych chi'n dweud bod technoleg ddigidol yn trawsnewid y ffordd mae pobl yn cael mynediad at ofal iechyd; yn sicr mae o i fod i. Fy mhryder i ydy ein bod ni'n dal yn methu ennill tir yn rhai o'r ardaloedd mwyaf allweddol.
Rydym ni wedi cael trafodaeth yn ddiweddar, yn anffurfiol, ynglŷn â system ddigidol sydd i fod i helpu nyrsys i wneud eu gwaith yn haws ar wardiau, ac arafwch yn y system i allu sicrhau bod honno'n cael ei rholio allan drwy Gymru. Rydw i, yng nghyd-destun fferylliaeth, yn siarad yn aml iawn am rwystredigaeth fferyllwyr nad oes yna system darllen ac ysgrifennu—read-write system, felly—sy'n caniatáu cyfathrebu go iawn yn effeithiol rhwng fferyllwyr a meddygon, fel bod y system gofal sylfaenol yn wirioneddol yn gallu gweithredu fel un. Mae yna'n dal ormod o gleifion yn gadael yr ysbyty efo darn o bapur wedi ei sgrwnsio yn eu pocedi y maen nhw i fod i'w roi i feddyg ar ôl cyrraedd adre, ac mae'r papur yn mynd ar goll, ac mae'r systemau'n torri i lawr. Mi fyddai rhywun yn gobeithio y byddem ni'n gallu symud at system llawer mwy sefydlog o fewn ein gwasanaeth iechyd ni.
Mi hoffwn i ganolbwyntio fy nghwestiynau, serch hynny, ar un newid sydd wedi cael ei gyhoeddi gan y Llywodraeth o fewn y dyddiau diwethaf. Mae hyn yn rhoi rhybudd clir i ni ynglŷn â'r pwysigrwydd o gael pethau yn iawn, o ddod â systemau i mewn sydd ag elfen gref o futureproofing ynddyn nhw, er mwyn osgoi problemau lawr y lôn. Sôn ydw i am y penderfyniad ynglŷn â newid, yn dilyn proses gaffael, newid y system glinigol sy'n cael ei defnyddio gan feddygfeydd teulu ar draws Cymru. Mae nifer o feddygfeydd wedi cysylltu efo fi, nid gymaint yn siomedig ond mewn panig, bron, ynglŷn â'r penderfyniad i gymryd cytundeb EMIS Web, neu i beidio â chaniatáu EMIS Web i fod yn system i gael ei defnyddio mewn gofal sylfaenol yn y dyfodol. Nid yw'r system yma ond yn cael ei gweithredu ers rhyw dair neu bedair blynedd. Mae yna fuddsoddiad sylweddol wedi mynd i mewn i gyflwyno'r system yma mewn meddygfeydd ar draws Cymru, a rŵan mae'r meddygfeydd hynny'n clywed bod y system yna yn mynd i gael ei dileu, ac y bydd yn rhaid cyflwyno system newydd. Mae 89 o'r 118 o feddygfeydd yr effeithir arnyn nhw yn fan hyn yn y gogledd, felly mae yna fater arbennig o acíwt yn y rhan o Gymru rydw i'n byw ynddi hi. Mae meddygfeydd wedi gorfod buddsoddi mewn caledwedd a meddalwedd i gyd-fynd ag EMIS Web, wedi gorfod cael peiriannau ECG newydd, peiriannau monitro'r gwaed newydd i gleifion ar warfarin, ac offer arall er mwyn cael offer sydd yn rhyngweithio efo'r system EMIS. Mi wnaf i ddarllen i chi beth mae meddygfa arall wedi'i ddweud: