Teithio Llesol yng Nghwm Cynon

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 1:37 pm ar 7 Chwefror 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Melding David Melding Conservative 1:37, 7 Chwefror 2018

(Cyfieithwyd)

Ysgrifennydd y Cabinet, a gaf fi ddweud nad wyf wedi gweld twll botwm mor gain er pan oedd William Graham yn Aelod o'r Siambr?

Fe fyddwch yn ymwybodol fod digwyddiad Tour of Britain 2016 wedi bod yn llwyddiant enfawr i gwm Cynon, nid yn unig o ran ei fanteision economaidd, ond hefyd o ran hyrwyddo beicio. Gwn ei fod ar y lefel elitaidd, ond gall hynny ysbrydoli'r gweddill ohonom. Credaf fod y llwybr ar gyfer 2018 ar fin cael ei gyhoeddi, ac roedd Rhondda Cynon Taf yn gobeithio cynnal cam cychwyn y ras. Credaf ei bod yn bwysig iawn ein bod yn cyfleu'r manteision iechyd i bobl, yn ogystal â'r manteision o ran cyflymder teithiau y gallwch eu cael drwy feicio, ac mae'n gyfle gwych i wneud hynny pan ddaw'r digwyddiadau chwaraeon pwysig hyn yma.