Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 1:38 pm ar 7 Chwefror 2018.
A gaf fi ddiolch i'r Aelod am ei gwestiwn, ac ychwanegu bod ei ddillad trwsiadus yn y Siambr wedi fy ysbrydoli innau ers blynyddoedd lawer?
Mae'r Aelod yn llygad ei le y gall athletwyr elitaidd ysbrydoli pobl, yn enwedig yn y chwaraeon hynny a all ddylanwadu ar newid ymddygiad mewn bywyd bob dydd, megis beicio, nofio, cerdded a rhedeg. Rydym yn awyddus, drwy raglenni a ddarperir gan gyrff proffesiynol, a hefyd, drwy raglenni a ddarperir ar lefel awdurdodau lleol, i sicrhau bod gan fwy o bobl fynediad at gyfleoedd i feicio a cherdded, eu bod yn cael y cymorth cywir, a'u bod yn cael yr hyfforddiant cywir hefyd. A dyna pam rwy'n arbennig o awyddus i sicrhau ein bod yn parhau i gefnogi'r rhaglenni iawn ar lefel ysgolion, ac rydym yn gwneud hynny drwy ymestyn y rhaglen yn ystadau ein hysgolion am flwyddyn arall er mwyn sicrhau bod y sgiliau cywir a'r hyder gan ein pobl ifanc i allu beicio ar sail ddyddiol.