Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 2:12 pm ar 7 Chwefror 2018.
Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet. Diolch i chi am yr ateb hwnnw. Roedd adroddiad annibynnol a ryddhawyd yr wythnos diwethaf i werthuso prosiect atgyfnerthu rheilffyrdd y Cymoedd yn nodi—ac roedd yn brosiect arloesol—ei fod wedi gwella ansawdd aer, ei fod wedi sicrhau cynnydd o 19 y cant yn y capasiti ar rwydwaith rheilffyrdd y Cymoedd, a hefyd ei fod wedi cynhyrchu tystiolaeth o fynediad at y farchnad swyddi. Yn wir, y rheilffordd o Lynebwy i Gaerdydd oedd un o'r prif elfennau yn y prosiect hwn, a chafodd ei chreu i leihau'r defnydd o geir. Ysgrifennydd y Cabinet, gyda gwerthusiad annibynnol yn dilysu llwyddiant y rheilffordd hon, sy'n rhedeg drwy galon fy etholaeth yn Islwyn, pa fesurau pellach y gall Llywodraeth Cymru eu rhoi ar waith i wella ein rhwydwaith rheilffyrdd yng Nghymru, gan gynnwys sicrhau'r gwasanaeth hanfodol o Lynebwy i Gasnewydd?