Trafnidiaeth yn Islwyn

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 2:13 pm ar 7 Chwefror 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Ken Skates Ken Skates Labour 2:13, 7 Chwefror 2018

(Cyfieithwyd)

Wel, roeddwn yn falch iawn o nodi canfyddiadau'r adroddiad. Roedd yn cyfiawnhau'r buddsoddiad sylweddol y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud yn yr ardal dros flynyddoedd lawer, ac mae hefyd yn dangos beth y gellir ei wneud pan fo buddsoddiad yn cael ei ddarparu mewn ffordd sy'n gallu diwallu dyheadau teithwyr. Rydym wedi cael ein tanariannu'n rhy hir. Yn sicr cawsom ein tanariannu drwy gydol y cyfnod rheoli diwethaf: 1 y cant o fuddsoddiad ar gyfer oddeutu 5 y cant o'r rhwydwaith. Ond rydym ni fel Llywodraeth Cymru yn buddsoddi'n helaeth iawn, ac wrth i ni ddatblygu ein gweledigaeth ar gyfer metro de Cymru, rydym yn benderfynol o sicrhau ein bod yn cysylltu'r datblygiadau ym maes trafnidiaeth gyda datblygiadau ein hystadau ysbytai ac iechyd, a chydag ystadau ysgol yn ogystal, i gael y gwerth mwyaf am arian pwrs y wlad.