Part of the debate – Senedd Cymru am 5:35 pm ar 7 Chwefror 2018.
Mae'r GIG wedi torri nifer y gwelyau 45 y cant, sy'n ffigur syfrdanol. Yn 1990, roedd bron i 20,000 o welyau yn GIG Cymru. Heddiw, ceir ychydig dros 10,000. Mae ysbytai cymunedol ledled y wlad wedi cau, mae wardiau wedi'u cau neu'u huno, a datgelwyd cynlluniau ar gyfer cau pellach. Rydym hefyd wedi gweld diffyg buddsoddi a chynllunio yn y sector gofal cymdeithasol, sydd wedi cyflymu dan bolisïau cyni, ac yn y pum mlynedd diwethaf, mae gwariant y pen ar ofal cymdeithasol wedi gostwng dros 13 y cant. Mae hyn yn cael effaith ganlyniadol ar ein hysbytai, ac yn ystod y 10 mlynedd diwethaf, gwelliannau bach yn unig a fu yn lefelau'r achosion o oedi wrth drosglwyddo gofal, sy'n hofran o gwmpas 400 i 500 o un mis i'r llall.
Bob mis mae gennym gannoedd o gleifion nad ydynt yn gallu gadael yr ysbyty, yn syml oherwydd nad oes gofal cymdeithasol ar gael. Ym mis Rhagfyr, roedd gennym 238 o bobl a fu'n aros am fwy na thair wythnos i adael yr ysbyty, ac o'r rheini, roedd 51 wedi bod yn aros rhwng 13 a 26 wythnos, a 25 o bobl wedi bod yn aros am fwy na 26 wythnos—25 o bobl yn treulio hanner blwyddyn yn hwy yn yr ysbyty nag y maent ei angen, yn syml oherwydd nad oes gofal llai dwys ar gael. Mae cannoedd o bobl yn treulio wythnosau mewn gwely ysbyty nad oes angen iddynt fod ynddo. Nid yn unig y mae hyn yn amharu ar adferiad, mae hefyd yn lleihau niferoedd y gwelyau sydd eisoes wedi'u cyfyngu.
Amcangyfrifir bod arhosiad yn yr ysbyty yn costio £400 y dydd ar gyfartaledd, felly mae'r arhosiadau diangen hyn yn costio miliynau o bunnoedd mewn gofal i'n GIG. Bydd hyn yn gosod ein gwasanaethau iechyd a'n gwasanaethau gofal cymdeithasol o dan straen aruthrol. Mae gwasanaethau eisoes ar ben eu tennyn, ac er y misoedd o gynllunio, miliynau o bunnoedd o fuddsoddiad a sicrwydd mai perthyn i'r gorffennol roedd anhrefn gaeafau blaenorol, cafodd ein GIG drafferth i ymdopi y gaeaf hwn. Roedd mor ddrwg fel bod meddygon ymgynghorol yn yr adrannau damweiniau ac achosion brys wedi cymryd y cam digynsail o ysgrifennu at y Prif Weinidog i rybuddio na allent warantu diogelwch cleifion mwyach. Dywedodd ein prif feddygon ymgynghorol adrannau damweiniau ac achosion brys wrth y Prif Weinidog fod diffyg gwelyau'n rhwystro'u gallu i drin cleifion mewn ffordd ddiogel ac amserol. Ac er gwaethaf yr holl arloesi yng ngofal y GIG dros y 70 mlynedd diwethaf, un peth nad yw wedi gwella yw gallu'r rhai ar y brig i flaengynllunio. Dros y tri degawd diwethaf, mae ein poblogaeth wedi tyfu dros 10 y cant, ac eto mae rhai sy'n gyfrifol am yr NHS wedi torri nifer y gwelyau 45 y cant.
Yn y gorffennol, roedd gennym ateb perffaith i gleifion nad oedd angen gofal acíwt ond na allai fynd adref am ba reswm bynnag, sef yr ysbyty cymuned, neu'r ysbyty bwthyn, fel yr arferem gyfeirio atynt. Roedd yr ysbyty cymuned yn cynnig gofal llai dwys i'r cleifion nad oedd angen yr un lefel o ofal mwyach wedi'i ddarparu yn yr ysbyty dosbarth neu'r ysbyty cyffredinol. Yn anffodus, mae llawer o'r ysbytai hyn wedi cau, nid am nad oeddent yn darparu gofal rhagorol neu am nad oedd angen inni ddarparu gofal llai dwys mwyach—caeodd llawer o'n hysbytai cymuned oherwydd cynllunio gwael, yn enwedig cynllunio'r gweithlu. Mae Llywodraethau olynol wedi methu recriwtio digon o staff clinigol ar gyfer yr ysbytai hyn. O ganlyniad, mae llawer o'n hysbytai cymuned wedi gorfod cau oherwydd bod prinder staff wedi gwneud y gwasanaethau'n anniogel ac yn anghynaliadwy. Mae penderfyniadau byrdymor i arbed costau wedi arwain at gau nifer o rai eraill.
Yn fy rhanbarth i, Gorllewin De Cymru, flynyddoedd cyn cau Ysbyty Fairwood, rhybuddiodd nyrsys fod rheolwyr y GIG yn fwriadol yn difenwi'r gwasanaeth er mwyn cyfiawnhau ei gau, oherwydd bod angen i'r bwrdd iechyd arbed arian. Cafodd y rheolwyr eu dymuniad a chaeodd Fairwood. Mae hyn wedi gadael twll du mewn gofal llai dwys. Mae gwasanaethau cymdeithasol wedi methu gwneud iawn am y llacrwydd yn y system. Rwyf wedi ymdrin â nifer o achosion lle mae etholwyr wedi gadael ysbyty heb fod unrhyw gynllun gofal ar waith. Roedd yr achos mwyaf diweddar yn ymwneud â gŵr oedrannus yn ei 80au a anfonwyd adref ddyddiau ar ôl cael llawdriniaeth ddargyfeiriol. Nid oedd unrhyw ofal llai dwys ar gael iddo, a heb help ffrindiau a chymdogion, byddai'r truan wedi methu bwydo na gwisgo'i hun. Mae hyn yn gwbl annerbyniol, ac ni ddylem ddisgwyl i ofal fod yn ddibynnol ar haelioni cymdogion a ffrindiau.
Mae'n amlwg na allwn ddibynnu ar wasanaethau cymdeithasol awdurdodau lleol, sy'n wynebu toriadau anghynaliadwy i'w cyllidebau, ac nid yw'n syndod ein bod yn gweld adroddiadau am gleifion yn treulio blynyddoedd yn yr ysbyty. Mae gwasanaethau cymdeithasol hefyd ar ben eu tennyn ac yn methu ymdopi â'r galw.
Roedd gennym ateb yn y gorffennol—yr ysbyty cymuned. Byddai fy etholwr wedi cael ei drosglwyddo i Fairwood am ofal dan arweiniad nyrs i roi amser iddo wella a gallu gofalu amdano'i hun. Yn anffodus, arweiniodd cynllunio gwael a phenderfyniadau gwael at gau Fairwood. Felly, heddiw, yr unig ddewis yw ei gadw ar ward acíwt neu ei daflu allan i ofalu amdano'i hun.
Nid dyma'r GIG a ragwelodd Aneurin Bevan bron 70 mlynedd yn ôl. Rydym wedi gweld cymaint o ddatblygiadau, ond nid yw cynllunio gofal yn briodol wedi bod yn un ohonynt. Rhaid inni roi'r gorau i wneud penderfyniadau byrdymor yn seiliedig ar bwysau ariannol, a darparu GIG gyda llwybr gofal cyflawn—llwybr sy'n cynnwys gofal llai dwys mewn ysbyty cymuned.
Mae Ysgrifennydd y Cabinet yn gweithio ar gynllun hirdymor ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol, a gobeithio nad yw'n gwneud yr un camgymeriadau â'i ragflaenwyr. Rhaid inni roi'r gorau i gau ysbytai cymuned a gobeithio y bydd awdurdodau lleol yn darparu gofal llai dwys. Gwyddom nad yw hyn yn digwydd. Nid anacroniaeth o ofal y bedwaredd ganrif ar bymtheg a'r ugeinfed ganrif yw ysbytai cymuned. Mae ganddynt rôl allweddol i'w chwarae yn ein GIG yn yr unfed ganrif ar hugain.
Rwy'n annog Ysgrifennydd y Cabinet i atal byrddau iechyd lleol rhag cau rhagor o ysbytai cymuned a chynllunio ar gyfer ailagor ysbytai fel Fairwood a gaewyd ar gam. Mae digwyddiadau'r ychydig fisoedd diwethaf wedi dangos inni pa mor anghywir oedd y penderfyniadau i dorri nifer y gwelyau, ac mae'n bryd inni wyrdroi'r penderfyniadau hynny os ydym am gael unrhyw obaith o ddathlu canfed pen-blwydd y GIG. Diolch yn fawr. Diolch.