Part of the debate – Senedd Cymru am 5:50 pm ar 7 Chwefror 2018.
Ond yn aml, ni fydd pregethu am y peth cywir i'w wneud yn cyrraedd y bobl rydym eisiau iddo ei gyrraedd. Felly, mae’n rhaid i ni sefyll ochr yn ochr â chymunedau ac unigolion a’u helpu i wneud eu penderfyniadau eu hunain. Mae rôl arweinyddiaeth i bobl fel fi, wrth gwrs, ac i bawb arall yn y Siambr, gan gynnwys y rhai sydd wedi gadael, a gweithwyr proffesiynol iechyd a gofal, ond hefyd, mewn gwirionedd, y bobl o fewn eu cymunedau, cyfoedion, a'r ffordd y caiff plant eu haddysgu yn awr, dylai hynny wneud gwahaniaeth go iawn wrth ddatblygu agweddau. Unwaith eto, fel y dywedais, cafodd yr achos dros newid ei fynegi yng nghanlyniad yr adolygiad seneddol.
Yna down yn ôl at ysbytai cymuned, a phan fydd pobl yn cwyno am gau ysbytai cymuned maent bron bob amser yn dweud bod cyfleusterau hoff sydd wedi darparu gwasanaeth da wedi cael eu diddymu. Y cyhuddiad bob amser yw bod rheolwyr drygionus y GIG wedi difenwi’r gwasanaeth yn fwriadol, a bod y cyfan yn ymwneud â chost. Mae arian bob amser yn ffactor mewn unrhyw wasanaeth a ddarparwn. Yn y pen draw, rydym yn rhoi swm cyfyngedig o arian i wasanaethau ddarparu gwasanaeth, ac yn arbennig felly—cofiwch, hon yw’r wythfed flwyddyn o gyni, ac mae hynny'n cael effaith go iawn ar y gwasanaethau y gallwn eu darparu. Ond mewn gwirionedd, nid yw’r achos dros newid yn fater syml o ddweud, 'Mae’n rhaid i ni ddod â gwasanaethau i ben oherwydd arian.' Mae’r achos dros newid yn ymwneud â’r cwestiwn: a ydym yn gallu darparu gwasanaeth gwell gyda phrofiad gwell a chanlyniadau gwell i bobl? Mae nifer o ysbytai cymuned wedi cau yn ystod y blynyddoedd diwethaf oherwydd nad oeddent yn gallu darparu’r lefel o ofal y dylai pob un ohonom ei ddisgwyl a'i fynnu ar gyfer ein cymunedau. Credaf mai honno yw’r her bob amser, os ydych mewn sefyllfa fel fy un i, fel arall rydych yn dweud wrth un gymuned leol, 'Os ydych yn wirioneddol hoff o’r gofal hwnnw, mae hynny'n iawn, mae’n ddigon da i chi, ond ni fyddai’n dderbyniol yn fy etholaeth i.' Mae yna her sy’n ymwneud â mynd i graidd y ddadl honno a'i deall, ac ynddi ei hun, nid yw'n un hawdd i’w chael.
Felly, cafodd rhai eu cau oherwydd pryderon diogelwch am lefelau staffio a’r anallu i recriwtio i fodelau gofal hŷn, ac mae honno'n her yn sector yr ysbytai prif ffrwd hefyd mewn gwirionedd—ynglŷn â chael modelau gofal a fydd yn denu’r staff cywir gyda'r profiad cywir i weithredu a darparu gofal effeithiol. A chafodd rhai eraill eu cau oherwydd cyflwr yr adeiladau. Os nad ydynt yn gallu cydymffurfio â rheoliadau tân mwyach, ni ddylech ddweud wrth bobl, 'Os brwydrwch yn ddigon caled, ni fydd ots am eich iechyd a'ch diogelwch mwyach.' Felly, mae rhesymau ymarferol iawn dros fod eisiau gwneud hynny yn ogystal.
Ond wrth ailgynllunio'r gwasanaethau ar gyfer y ganrif hon, mae angen cyfuniad o fwy o gyfleusterau cymunedol modern gerllaw a gwell gofal yn y cartref neu yn y gymuned. Felly, mae’n bosibl na fydd y term 'ysbyty cymuned' yn briodol mwyach. Mae'n gwneud i rywun feddwl, fel arfer, am ddelwedd o ysbyty lleol gyda gwelyau, meddygon a nyrsys, ac nid ydym yn credu, mewn gwirionedd, mewn llawer o achosion, mai felly y bydd pethau’n edrych yn y dyfodol ym mhob achos unigol. Byddwn yn edrych yn fwy gwasgarog ar ofal yn y gymuned. Byddwn yn parhau i weld ysbytai llai gyda meddygon a nyrsys ynddynt, ac rwyf am sôn am rai o'r rheini cyn bo hir, ond credaf fod angen i ni ganolbwyntio ar greu’r math o wasanaeth iechyd a gofal integredig, y system ofal ddi-dor, yr oedd yr adolygiad seneddol yn awgrymu y dylem ei mabwysiadu fel gweledigaeth ar gyfer y dyfodol.
Os ystyriwch y gwasanaethau hynny, bydd rhai ohonynt yn ffisegol, bydd rhai ohonynt yn rhithwir. Ddoe, cawsom ddadl am dechnoleg ddigidol. Clywsom gryn dipyn am ddigideiddio a’r hyn y bydd hynny’n ei wneud mewn perthynas â rhannu cofnodion, ond hefyd y gallu i gyfathrebu o bell, ac i ddarparu gwasanaeth o bell, lle na fydd angen i rywun adael eu cartref, neu o bosibl, lle y gallant fynd i ganolfan leol a pheidio â gorfod teithio ymhellach, gyda'r anghyfleustra y bydd hynny'n aml yn ei greu i bobl, a mynd i gyfleuster lleol iawn er mwyn gallu cael gwahanol fathau o ofal. Bydd hynny'n cael effaith ar bobl—nid yn unig ar ein gallu i aros yn iach, ond ar eu hiechyd corfforol a meddyliol hefyd.
Enghraifft wych o'r math o beth rwy’n sôn amdano yw Ysbyty Cymuned Ystradgynlais, sydd wedi'i ailgynllunio, gan ddisgrifio'i hun fel 'canolfan gymunedol'. Mae’n cynnwys gwasanaeth gofal i gleifion mewnol ar gyfer iechyd meddwl pobl hŷn, gofal dydd, therapi, gan gynnwys ar gyfer anghenion deietegol, therapyddion galwedigaethol a gofal ffisiotherapi. Mae hefyd yn cynnwys gwasanaethau pelydr-x ac uwchsain, ynghyd â gwasanaeth mân anafiadau a mân anhwylderau. Hefyd, mae staff gofal cymdeithasol a darparwyr trydydd sector ar y safle. Ni fyddech yn meddwl amdano fel ysbyty cymuned traddodiadol, ac rwy’n credu mai dyna’r model y dylem fod yn buddsoddi ynddo yn y dyfodol.
Enghraifft arall yw canolfan iechyd a gofal cymdeithasol integredig y Fflint, a fydd yn agor yn ystod yr wythnosau nesaf—roedd y cynlluniau ar ei chyfer yn destun dadlau yn y Fflint. Ac eto mae'r ganolfan yn agos i gartref gofal a bydd yn darparu lle ar gyfer gwasanaethau a drosglwyddwyd allan o ofal eilaidd, gydag ystafelloedd ymgynghori a thriniaeth yn cael eu cefnogi gan delefeddygaeth. Yn ogystal, bydd gwasanaethau cymunedol, gwasanaethau’r trydydd sector, gwasanaethau gofal cymdeithasol a gofal a chymorth iechyd meddwl ar y safle hefyd. Felly, rydym yn gallu gwneud mwy wrth ailgynllunio ein gwasanaeth, a dyna pam y byddwn yn cyfeirio ein hadnoddau cyfalaf yn y ffordd honno ym maes gofal iechyd lleol.
Yn ddiweddar, ym mis Hydref, cyhoeddais fy mod wedi clustnodi £68 miliwn ar gyfer cyfres gychwynnol o gyfleusterau ar gyfer gwasanaethau iechyd a gofal integredig ar draws y wlad—19 o brosiectau gwahanol yn y gogledd, y de, y dwyrain a’r gorllewin er mwyn ceisio gwneud yn union yr hyn y bûm yn ei ddisgrifio ac yn sôn amdano. Credaf mai dyna'r dyfodol, oherwydd dylai’r datblygiadau mewn ymarfer clinigol a gofal cymdeithasol, ynghyd â datblygiadau ym maes technoleg, ganiatáu i ni newid er gwell y ffordd rydym yn cynllunio ac yn darparu mwy o ofal integredig gwell i gynnal pobl yn eu cartrefi a'u cymunedau eu hunain. Byddwn yn parhau i weithio ochr yn ochr â'n partneriaid ym maes iechyd a gofal cymdeithasol a thu hwnt i wneud yn union hynny.