Part of the debate – Senedd Cymru am 5:46 pm ar 7 Chwefror 2018.
Diolch i chi, Ddirprwy Lywydd. Fel y gwyddoch, nod Llywodraeth Cymru yw sicrhau bod gan bobl fynediad at y gofal cywir, ar yr adeg gywir, ac yn y lle cywir, ac i’r gofal hwnnw fod mor agos i'w cartrefi â phosibl. Mae ein canllawiau cynllunio i fyrddau iechyd bob blwyddyn yn cadarnhau hyn. I gyflawni'r nod hwnnw, mae angen i ni herio a chwalu’r model iechyd meddygol traddodiadol, gyda'i ffocws ar salwch ac ysbytai. Mae angen i ni wneud rhagor eto i adeiladu a darparu model cymdeithasol o iechyd a llesiant, gyda’i ffocws ar ymateb integredig gan y gwasanaethau cyhoeddus, ynghyd â sicrhau bod y trydydd sector a'r sector cymunedol yn gweithio ar y cyd yn ein cymunedau.
Mae anghenion y boblogaeth yn yr unfed ganrif ar hugain yn newid, fel y cafodd ei amlygu, yn ddefnyddiol, yn y ffordd y cawsom ein hatgoffa gan Dai Lloyd o'r nifer cynyddol o bobl ganmlwydd—credaf mai dyna’r ymadrodd—o'r adeg y daeth y Frenhines i'r orsedd hyd heddiw. Ac rydym yn disgwyl i hynny barhau yn y dyfodol. Rydym yn disgwyl y bydd mwy a mwy ohonom yn byw’n hwy. Ac rwy’n credu y byddai’r rhan fwyaf ohonom, nid pob un ohonom efallai, yn hoffi byw i oedran teg, ac efallai byw i oedran teg lle mae gennym urddas a’r gallu i wneud penderfyniadau—a gwyddom na ddaw henaint ei hunan.
Ond rwy’n cydnabod bod ysbytai cymuned yn fater sensitif. Yn aml, gall cymunedau lleol fod yn hoff iawn o'u hysbytai cymuned. Rydych yn gweld pwyllgorau amddiffyn neu bwyllgorau cymdeithasau cyfeillion sy'n codi arian, ac sy'n hoff iawn o’u hysbytai cymuned ac yn ymfalchïo yn y gofal a ddarperir. A gellir ystyried ymdrechion i geisio newid unrhyw wasanaeth mewn ysbyty leol fel ymosodiad ar y gymuned honno, yn hytrach nag ymgais wirioneddol i ddiwygio, newid a gwella gwasanaethau iechyd a gofal. Mae angen i’r holl gynlluniau ar gyfer newid gwasanaethau ddiwallu anghenion yn awr ac yn y dyfodol, ac mae’n rhaid iddynt fod yn seiliedig ar dystiolaeth, yn ogystal â chael eu llywio a’u siapio gan ymwneud effeithiol y bobl sy'n darparu'r gwasanaethau hynny ac wrth gwrs, y cyhoedd yn ehangach. Ac rwy'n disgwyl y bydd gan fyrddau iechyd a’u partneriaid drefniadau gwirioneddol gadarn i gynnwys pawb yn y drafodaeth lle y ceir achos dros newid ac opsiynau ar gyfer darparu’r ateb gorau a fydd yn diwallu anghenion y boblogaeth, heddiw, ond yn y dyfodol hefyd.
Ac wrth gwrs, mae pob bwrdd iechyd wedi sefydlu clystyrau gofal sylfaenol. Cawsom ddadl yn y lle hwn am rôl clystyrau gofal sylfaenol, a gafodd eu crybwyll yn gadarnhaol hefyd yn adroddiad terfynol yr adolygiad seneddol. A cheir trefniadau cydweithredol sy'n dechrau aeddfedu, ac roedd rhan o'r her yn yr adroddiad clystyrau yn ymwneud â sut y gwnawn fwy â hwy, nid llai, a sut rydym yn ceisio gwella a chyflymu'r broses honno o aeddfedu a'r ffordd y gallant gynllunio a darparu amrywiaeth o wasanaethau iechyd a gofal lleol.
Yn gynyddol, rwy'n disgwyl iddynt wella’r broses o gynllunio a darparu gofal cywir ar yr adeg gywir, yn y lle cywir, ac mor agos i'r cartref â phosibl. Ac mae'r rhain yn grwpiau o bobl sy'n deall y cymunedau y maent ynddynt. Rydym yn ceisio sicrhau ein bod yn cysoni rhai o'r prosesau cynllunio i wneud yn siŵr nad ydym yn cynllunio un peth ym maes gofal sylfaenol ar y naill law, yn y clystyrau lleol, a bod rhywbeth gwahanol yn ymddangos wedyn yng nghynlluniau tymor canolig integredig y byrddau iechyd. Ac rwyf eisiau gweld pob un o'r partneriaid hynny yn bod yn greadigol o ran y modd y maent yn gwneud defnydd effeithiol o wasanaethau cymunedol, ac i hyn ddatblygu'r cysyniad o ganolfannau i integreiddio ymateb clinigol a chymdeithasol i anghenion y gymuned y maent yn ei gwasanaethu.
Yr achos dros newid roedd yr adolygiad seneddol yn ei gydnabod, yn wir, yw bod rhywfaint o hynny yn ymwneud â sut y mae pobl yn ysgwyddo cyfrifoldeb am eu hiechyd a'u llesiant eu hunain, a'r ffordd y maent yn defnyddio ac yn cael mynediad at ofal a chymorth. Ni allwn osgoi'r her hon. Rwy’n cofio’r tro cyntaf i mi gael fy ethol yn Aelod Cynulliad, cawsom adroddiad gan Sefydliad Bevan, ac roedd un o'i egwyddorion allweddol yn ymwneud â phobl yn ysgwyddo mwy o gyfrifoldeb am eu hiechyd a’u gofal eu hunain, eu synnwyr o'u llesiant eu hunain, pethau y gallent ac y dylent eu gwneud drostynt eu hunain. Yna, o fewn y flwyddyn neu ddwy ddiwethaf rwy’n credu, cynhyrchodd y GIG yn Lloegr adroddiad yn dweud rhywbeth tebyg iawn i hynny. Roedd yn bennawd newyddion ar sianelau rhwydwaith, yn hytrach na sgwrs roeddem eisoes wedi’i chael yn y lle hwn sawl blwyddyn ynghynt. Mae'r her bob amser yn ymwneud â mwy na dweud y peth cywir yn unig, ond yn hytrach â sut rydym yn helpu pobl i wneud y penderfyniadau hynny.