Part of the debate – Senedd Cymru am 5:44 pm ar 7 Chwefror 2018.
Rwy'n gwneud hyn mewn gwirionedd i ddathlu llwyddiant ysgubol y GIG. Gadewch inni osod hyn i gyd yn ei gyd-destun: yn ôl yn 1950, llofnododd y Brenin Siôr VI, rwy'n credu, bryd hynny, 250 o gardiau pen-blwydd ar gyfer pobl a oedd yn 100 mlwydd oed—roedd yna 250 o bobl gant oed ledled y Deyrnas Unedig gyfan ar y pryd. Neidiwch ymlaen 40 mlynedd i 1990, a bu'n rhaid i'r Frenhines Elizabeth II lofnodi 2,500 o gardiau pen-blwydd ar gyfer pobl gant oed yn 1990. Neidiwch ymlaen i ddwy flynedd yn ôl, bu'n rhaid iddi lofnodi 13,700, a'r llynedd, 14,500 arall o gardiau pen-blwydd ar gyfer pobl gant oed. Felly, os nad yw'n ddim arall, mae gan y llwyddiant ysgubol hwn oblygiadau o ran cydbwysedd bywyd a gwaith y frenhiniaeth.
Yn amlwg, mae hynny'n golygu bod llawer iawn o bobl yn cerdded o gwmpas ein trefi a'n pentrefi sy'n hŷn ac yn fwy bregus nag yr arferent fod, a dyna pam rydym angen mwy o welyau yn ein cymunedau. Gall fod mewn cartref gofal, a gall fod mewn ysbyty cymuned hefyd. Do, rydym wedi bod yno gydag Ysbyty Fairwood, Ysbyty Hill House, ac ysbyty Cwmdoncyn yn Abertawe—ydw, rwyf mor hen â hynny. [Chwerthin.] Ond mae yna gategori o bobl yn awr, am ein bod oll yn byw'n hŷn, sy'n rhy sâl i gael eu gadael yn eu cartrefi, hyd yn oed gyda'r pecynnau gofal cartref mwyaf hynod, ond hefyd nid ydynt yn ddigon sâl i gyfiawnhau eu rhoi ar wardiau meddygol a llawfeddygol acíwt. Mae angen y meddwl creadigol hwnnw sy'n cynnwys gwelyau yn y gymuned. Diolch yn fawr.