2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol – Senedd Cymru ar 7 Chwefror 2018.
5. Pa sylwadau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u gwneud i Lywodraeth y DU ynghylch gallu pobl sy'n dioddef troseddau i gael mynediad at wasanaethau cyfreithiol? OAQ51717
Mae Llywodraeth Cymru wedi bachu ar bob cyfle i godi ein pryderon gyda Llywodraeth y DU fod mynediad at wasanaethau cyfreithiol ar hyn o bryd y tu hwnt i fodd y dioddefwyr troseddau hynny sydd ag incwm isel neu gymedrol, ac mae hyn yn creu problemau difrifol, o ran mynediad at gyfiawnder a chyfiawnder cymdeithasol yn fwy cyffredinol.
Diolch i chi, Gwnsler Cyffredinol. Y llynedd, cyhoeddodd Llywodraeth y DU ystadegau yn dangos cynnydd syfrdanol yn nifer y rhai sydd wedi goroesi trais domestig heb unrhyw gynrychiolaeth gyfreithiol yn y llysoedd teulu. Mae'r ystadegau yn dangos bod nifer y rhai sy'n gorfod cynrychioli eu hunain yn y llysoedd yng Nghymru a Lloegr wedi dyblu yn ystod y pum mlynedd diwethaf. Yn ystod naw mis cyntaf y llynedd, nid oedd gan 3,234 o oroeswyr trais domestig unrhyw gynrychiolaeth gyfreithiol mewn o leiaf un gwrandawiad. A yw'r Cwnsler Cyffredinol yn credu bod angen i Lywodraeth y DU fynd i'r afael â'r cynnydd hwn sy'n peri pryder, a pha sylwadau y gall eu gwneud mewn perthynas â thoriadau i gymorth cyfreithiol a'u heffaith ddinistriol?
Diolch i'r Aelod am y cwestiwn. Mae'n amlygu'r annhegwch difrifol iawn sy'n wynebu dioddefwyr trais domestig yn arbennig. Fel y mae ei chwestiwn yn cydnabod, mae miloedd o fenywod yn gorfod cynrychioli eu hunain mewn llysoedd teulu yn erbyn eu camdrinwyr eu hunain. Nid yw hynny'n rhywbeth sy'n cael ei ganiatáu yn y llysoedd troseddol mwyach, ond mae'n parhau i fod yn brofiad go iawn i fenywod yn y llysoedd teulu. Y rheswm am hynny yw'r ffaith bod cymorth cyfreithiol wedi cael ei dynnu'n ôl, ac er y cafwyd rhai consesiynau gan Lywodraeth y DU ar ddiwedd y flwyddyn ddiwethaf, nid ydynt yn hanner digon i fynd i'r afael â maint y broblem.
Fel y bydd yn gwybod, er mwyn cymhwyso ar gyfer cymorth cyfreithiol o gwbl, gall yr asedau, a allai fod o dan reolaeth y camdriniwr, neu eu hincwm hyd yn oed, gael eu hystyried wrth gyfrifo trothwy ariannol, ac yn amlwg nid yw hynny'n dderbyniol. Ysgrifennodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant at yr Ysgrifennydd Gwladol dros Gyfiawnder ym mis Ionawr y llynedd, yn tynnu sylw at yr angen i wella arferion yn y llys teulu mewn achosion sy'n ymwneud â dioddefwyr camdriniaeth a thrais domestig, ac mae'r Llywodraeth wedi ysgrifennu at Lywodraeth y DU ar nifer o achlysuron, yn herio'i hymagwedd at gymorth cyfreithiol, a'r toriadau ac effaith y toriadau hynny yng Nghymru, ac mae Llywodraeth Cymru yn bachu ar bob cyfle i fynegi ei phryder am fater hollbwysig cyfiawnder a chyfiawnder cymdeithasol i'r Weinyddiaeth Gyfiawnder yn Llywodraeth y DU.