Part of the debate – Senedd Cymru am 3:13 pm ar 7 Chwefror 2018.
Ac rwy'n meddwl, yn olaf, Ddirprwy Lywydd, ei bod hi'n hen bryd sicrhau bod y Cynulliad hwn yn cael ei drawsnewid yn Senedd Cymru mewn enw, ac nid mewn enw'n unig, ond o ran ei chyfansoddiad a'i statws yn ogystal. Mae hyn oherwydd yr hanes sydd gennym. Peidiwch â chamgymryd: roedd rhoi cynulliad yn lle senedd i Gymru yn gwbl fwriadol; cawsom ein hualu'n fwriadol o'r dechrau. Dim pwerau deddfwriaethol tan refferendwm 2011, wrth gwrs. Dim pwerau trethu o gwbl. Nid oedd gennym Lywodraeth hyd yn oed yn nyddiau cyntaf y Cynulliad. Dyna pa mor gaeth yr oeddem, ac roedd y disgrifiad 'cyngor sir ar stilts' yn llawer rhy agos i'r gwir o'm rhan i. Ond rydym wedi symud ymlaen; rydym wedi dod yn Senedd go iawn yn ein trafodaethau, yn y ffordd rydym wedi cydweithio ar y ddeddfwriaeth drethu dros yr ychydig fisoedd diwethaf. Mae'n bryd cydnabod hynny ar y cyd ac mewn ymgynghoriad â phobl Cymru. Ond rwy'n sicr yn obeithiol y daw hynny i gyfnod lle y mae gennym graffu go iawn ar y Llywodraeth gyfan, o ba liw bynnag yn wleidyddol.