Part of the debate – Senedd Cymru am 3:14 pm ar 7 Chwefror 2018.
Rwy'n codi i siarad yn y ddadl hon fel Cadeirydd grŵp Llafur y Cynulliad Cenedlaethol. Mae'r materion a godwyd yn adroddiad y panel arbenigol ar ddiwygio etholiadol y Cynulliad yn faterion, nid i'r Llywodraeth yn y lle cyntaf, ond i ni fel cynrychiolwyr ein pleidiau gwleidyddol, ac i'n cymunedau a'n pleidiau'n fwy eang eu hystyried.
Hoffwn gofnodi diolch fy mhlaid i'r Athro Laura McAllister am ymgymryd â'r darn sylweddol hwn o waith. Mae ehangder arbenigedd aelodau'r panel wedi sicrhau archwiliad manwl o faterion cymhleth iawn. Maent yn faterion sy'n haeddu ystyriaeth ac ymgynghori llawn.
Ceir dau faes yn yr adroddiad lle mae gennym bolisi presennol. Yn gyntaf, mae Llafur Cymru yn cefnogi pleidlais yn 16 oed, fel y gwelwyd yn y cyhoeddiad diweddar gan Lywodraeth Cymru i ymestyn yr etholfraint yn yr etholiadau llywodraeth leol. Dyma ymrwymiad a wnaed yn ein maniffesto yn 2016 ac rydym yn cefnogi cynigion i ymestyn hyn i etholiadau'r Cynulliad hefyd. Yn ail, mae gan Lafur Cymru draddodiad balch o ethol menywod yng Nghymru. Mae gennym fwy o fenywod yn y Senedd hon nag unrhyw blaid arall, a menywod yw dros 50 y cant o'n grŵp. Er ei bod wedi cymryd 80 mlynedd i Blaid Cymru ethol menyw i'r Senedd, ac nid yw'r Torïaid, er mawr gywilydd, byth wedi ethol menyw i Dŷ'r Cyffredin o Gymru, o'r 11 o ASau o Gymru sy'n fenywod, Llafur yw 10 ohonynt. Ac nid yn unig yn San Steffan a Bae Caerdydd y mae Llafur Cymru yn arwain ar hyn. Mewn siambrau cynghorau ledled Cymru, mae gan Lafur Cymru fwy o fenywod yn cynrychioli eu cymunedau nag unrhyw blaid arall. Yn fy etholaeth i, Cwm Cynon, mae dros hanner y cynghorwyr lleol, a dros hanner cynghorwyr Llafur Cwm Cynon, yn fenywod.
Ond nid wyf am fynd dros ben llestri. Mae dulliau cadarnhaol i gynyddu nifer y menywod yn chwarae rhan arwyddocaol a thrwy hynny, yn trawsnewid fy mhlaid. Rhoddodd hyn lais i fenywod a helpu i wneud y lle hwn yn arena well a mwy adeiladol i drafod dyfodol ein gwlad. Mae gan bob plaid ddyletswydd i sicrhau eu bod yn adlewyrchu'r cymunedau y maent yn ceisio'u cynrychioli. Ni ddylai gymryd panel o arbenigwyr i wneud hynny'n glir i unrhyw un. Bydd rhai ohonoch yn cytuno â'r cwotâu fel y'u nodwyd yn adroddiad y panel arbenigol. Bydd eraill yn anghytuno. Beth bynnag yw eich barn, gobeithio y gallwn i gyd gytuno fod arnom angen mwy o fenywod i gymryd rhan mewn gwleidyddiaeth, i sefyll etholiadau, a llwyddo mewn gwleidyddiaeth. Nid wyf eisiau inni fod angen cwotâu, ond yn arbennig nid wyf am i unrhyw blaid feddwl y gallant aros hyd nes y cânt eu gorfodi gan y gyfraith i fod o ddifrif ynghylch cynrychiolaeth gyfartal.
Ddirprwy Lywydd, 100 mlynedd yn ôl cafodd rhai menywod yr hawl i bleidleisio. Mae o fewn ein gafael i roi llais go iawn i bob menyw hefyd. Mae'r grŵp Llafur wedi cael trafodaeth gychwynnol ar feysydd eraill yr adroddiad, a byddwn yn parhau â'r rhain. Byddwn hefyd yn cyfrannu at yr ymgynghoriad y mae ein plaid wedi ymrwymo iddo yn ystod 2018 cyn adrodd i'n cynhadledd yn 2019. Ddirprwy Lywydd, i gloi, hoffwn ddiolch eto i'r panel arbenigol am eu gwaith ac edrychaf ymlaen at ymwneud â chasgliadau ymgynghoriad Comisiwn y Cynulliad.