Part of the debate – Senedd Cymru am 3:37 pm ar 7 Chwefror 2018.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mae chwarae yn rhywbeth sy'n hanfodol ar gyfer plant a phobl ifanc. Mae'n annog iechyd corfforol a lles, yn mynd i'r afael â gordewdra, yn gwella sgiliau echddygol a deheurwydd, yn adeiladu gwydnwch a ffitrwydd. Mae hefyd yn hyrwyddo lles meddyliol. Mae chwarae'n cyfrannu at ddatblygiad ymennydd iach. Mae'n cynnig cyfleoedd i ddefnyddio'r dychymyg. Mae'n rhoi cyfleoedd newydd i blant ymgysylltu a rhyngweithio â'r byd o'u cwmpas. Ond mae hefyd yn cyflawni'r rôl fwy sylfaenol o greu hunaniaeth yr unigolyn. Dywedodd y pediatregydd enwog, Donald Winnicott:
Mewn chwarae, a dim ond mewn chwarae, y gall y plentyn unigol... fod yn greadigol a defnyddio'r bersonoliaeth gyfan, a dim ond drwy fod yn greadigol y mae'r unigolyn yn darganfod yr hunan.
Roedd Datganiad y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn yn datgan hawl plant i chwarae. Gosododd ddyletswydd ar Lywodraethau i sicrhau bod yr hawl hon yn cael ei pharchu, a'i chodeiddio yng Nghonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn. Aeth y Cynulliad hwn ati'n rhagweithiol i gyflawni hyn, a dyma oedd y Senedd gyntaf i fabwysiadu polisi chwarae cenedlaethol a'r gyntaf i ddeddfu ar gyfer chwarae plant.
Gosododd Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 ddyletswydd ar awdurdodau lleol i asesu a sicrhau digon o gyfleoedd chwarae i blant, megis drwy feysydd chwarae sefydlog. Er nad dyma'r unig gyfleoedd ar gyfer chwarae, maent yn parhau i fod yn un o'r opsiynau mwyaf poblogaidd a chyfleus. Ond nid yw hynny'n wir yn achos pob plentyn. Yn arbennig, nid yw'n wir i rai ag anabledd. Yn 2015, cynhaliodd Sense ymchwiliad cyhoeddus i'r ddarpariaeth o gyfleoedd chwarae i blant hyd at bump oed gydag anghenion niferus yng Nghymru a Lloegr. Fe'i cyhoeddwyd yn 2016, ac roedd yn cynnwys rhai canfyddiadau llwm. Gwelodd gonsensws cryf fod plant sydd ag anghenion lluosog yn wynebu rhwystrau sylweddol i chwarae hygyrch. Roedd teuluoedd yn awyddus i allu defnyddio lleoliadau chwarae prif ffrwd yn y gymuned. Fodd bynnag, teimlai 92 y cant o rieni nad oedd eu plentyn yn cael yr un cyfleoedd chwarae â'u cyfoedion nad ydynt yn anabl. Roedd llawer o leoliadau'n anhygyrch i blant ag anghenion lluosog. Ac mae hyn yn effeithio ar iechyd, lles a gallu'r plant hyn i ryngweithio gyda'u ffrindiau, eu teulu a'r gymdeithas.
Mae llawer o fy etholwyr wedi cysylltu â mi hefyd i ddweud wrthyf am y problemau y maent yn eu hwynebu. Ers cael fy ethol, mae dau faes chwarae yn fy etholaeth wedi cael eu gwneud yn gynhwysol. Mewn un achos, Glyncoch, roedd hyn yn ymwneud â hygyrchedd y safle chwarae, ac yn yr achos arall, Cilfynydd, lle y cefais y fraint o gyfarfod â merch ifanc ryfeddol iawn o'r enw Mia Thorne, golygodd osod cyfarpar chwarae newydd cynhwysol fel y gallai Mia chwarae gyda'i ffrindiau.
Gall safle anhygyrch neu gyfarpar anhygyrch fod yn rhwystrau sy'n atal plant rhag chwarae. Roedd y ddau welliant yn rhan o fuddsoddiad eithriadol o uchelgeisiol o £1.7 miliwn gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf mewn safleoedd chwarae lleol. Gellid cymryd eu bod yn dweud, 'Rydym yn ymateb i'r her.' Yn hytrach, credaf mewn gwirionedd eu bod yn gweithio i dynnu sylw at y broblem. Er enghraifft, cefais wahoddiad gan un o fy nghyd-Aelodau yma i weld maes chwarae newydd yn eu hetholaeth mewn man arall yng Nghymru. Roedd y buddsoddiad wedi costio cannoedd o filoedd o bunnoedd, ac roedd yn safle trawiadol iawn gyda darnau o gyfarpar gwirioneddol dda. Gwnaed y parc ei hun yn hygyrch fel rhan o'r gwaith, ond nid oedd unrhyw gyfarpar chwarae cynhwysol. Gallai plant ag anableddau deithio at y cyfarpar chwarae, ond ni allent ei ddefnyddio mewn unrhyw ffordd. Teimlwn fod hwn yn gyfle mawr a gollwyd, o ystyried y swm enfawr a fuddsoddwyd. Am oddeutu £1,000 yn fwy, gellid bod wedi darparu cyfleoedd chwarae cynhwysol.
Felly, dyna gyfle a gollwyd, a dyna'n union lle byddai fy nghynnig yn dod yn weithredol. Rwy'n gofyn i Aelodau'r Cynulliad heddiw nodi fy nghynnig ar gyfer Bil chwarae cynhwysol. Yn syml, byddai'r Bil hwn yn gwella cyfleoedd chwarae cynhwysol drwy osod dyletswydd ar awdurdodau lleol fel bod yn rhaid iddynt ddarparu offer chwarae a mannau sy'n diwallu anghenion plant ag anableddau. Byddai hyn yn adeiladu ar Fesur 2010. Mae hwnnw eisoes yn rhoi cyfrifoldeb ar awdurdodau lleol i ddarparu asesiadau o ddigonolrwydd cyfleoedd chwarae a'r cynlluniau gweithredu ar gyfer chwarae. O'r naw elfen yn hwn, mae dwy yn cynnwys ymwybyddiaeth o faterion cynwysoldeb, ond mae Chwarae Cymru wedi nodi heriau i gynghorau gyflawni'r rhain oherwydd gallu ac adnoddau. Byddai fy nghynnig yn cryfhau ac yn gwella hyn, gan flaenoriaethu'r ddarpariaeth o gyfarpar chwarae cynhwysol.
Rwyf am droi at rwystrau posibl i fy nghynnig. A fyddai Bil o'r fath yn rhoi pwysau ariannol diangen ar gynghorau, yn enwedig yng nghyd-destun y cyni yn y sector cyhoeddus ehangach? Rwyf o'r farn na fyddai. Gallai newidiadau ddigwydd dros amserlen hirdymor heb ddisgwyliadau uniongyrchol o newid llwyr. Gallai cynghorau ddatblygu a chynllunio meysydd chwarae cynhwysol ar sail hylaw fel rhan o unrhyw waith rheolaidd. Fel y mae enghraifft Rhondda Cynon Taf a ddisgrifiais yn gynharach yn ei awgrymu, mae cynghorau'n buddsoddi ac yn uwchraddio offer chwarae yn weddol reolaidd. Ni fyddai fy nghynnig ond yn sicrhau bod uwchraddio a gynlluniwyd yn cynnwys darpariaeth o offer cynhwysol sy'n hygyrch neu wedi'i addasu ar gyfer rhai â phroblemau synhwyraidd—ei bod yn egwyddor gychwynnol yn hytrach nag ychwanegiad munud olaf.
Ar ben hynny, nid yw'r gwahaniaeth rhwng offer chwarae cynhwysol ac offer nad yw'n gynhwysol mor sylweddol ag y gallech ei dybio. Gellid ei wneud yn gyfforddus o fewn gwaith adnewyddu man chwarae ar gost o ddegau o filoedd, ac mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn dweud wrthyf mai cyfartaledd yr hyn a wariant ar adnewyddu un man chwarae yw tua £25,000 yn fras. Mae hyn hefyd yn egluro pam na fyddai cynnig o'r fath yn arwain at ganlyniad anfwriadol fod cynghorau'n peidio ag adnewyddu eu cyfarpar chwarae. Ond problem fwy heriol yw nad oes un darn o offer chwarae a fyddai'n addas i'r holl fathau o anableddau neu bob oedran. Fodd bynnag, yr hyn a ddywedwn yw bod yna amryw o ddarnau o gyfarpar a allai fod o fudd i nifer o wahanol grwpiau o ddefnyddwyr.
Nawr, hyd yn oed os yw'r Aelodau'n cefnogi fy nghynnig heddiw, gwn na fydd newid sydyn yn y gyfraith. Fodd bynnag, ceir nifer o gynigion synhwyrol y gellid eu defnyddio i archwilio'r mater ymhellach. Er enghraifft, hoffwn weld yr asesiadau o ddigonolrwydd cyfleoedd chwarae y mae awdurdodau lleol eisoes yn eu cynhyrchu yn cael eu cyhoeddi. Byddai rhannu gwybodaeth yn well yn grymuso plant a'u teuluoedd fel ein bod ninnau a hwythau'n gwybod beth sydd ar gael. Gellid cryfhau ymwybyddiaeth drwy ryw fath o wobr Baner Werdd am arfer da, naill ai fel menter annibynnol neu fel rhan o'r cynllun nodi mannau gwyrdd sydd eisoes wedi'i sefydlu. A gellid hysbysebu unrhyw waith a wneir ar hyn drwy wefan fel bod rhieni'n gallu defnyddio a gweld ble y lleolir meysydd chwarae cynhwysol da. Felly, edrychaf ymlaen at gyfraniadau'r Aelodau ar fy nghynnig.