7. Dadl Plaid Cymru: Ffordd liniaru arfaethedig yr M4

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:46 pm ar 7 Chwefror 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mr Simon Thomas Mr Simon Thomas Plaid Cymru 4:46, 7 Chwefror 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch i'r Aelod am ildio. I fod yn glir iawn i'r Aelod, nid yw'r gyllideb ond yn rhoi cyfalaf wrth gefn ar gyfer y cyllid hwn. Byddai angen cyllideb atodol a phleidlais ar y gyllideb atodol i ganiatáu i hyn fynd rhagddo, ac ar hynny edrychaf ymlaen at ymuno ag ef yn y lobi, fel yr arferent ei ddweud, i bleidleisio yn erbyn rhoi'r arian tuag at y prosiect hwn.