Part of the debate – Senedd Cymru am 4:34 pm ar 7 Chwefror 2018.
Rwyf wedi bod yn aelod o'r Cynulliad hwn bellach ers bron i saith mlynedd, a chafwyd dwy ddadl sydd wedi bod yn mynd rhagddynt drwy gydol y cyfnod cyfan hwnnw. Un yw'r metro—ac roedd yn fraint fawr i allu arwain y ddadl Aelod unigol gyntaf ar y mater hwnnw—a'r llall yw ffordd liniaru'r M4.
Roeddwn hefyd yn aelod o bwyllgor yr amgylchedd. Gwelaf fod nifer o aelodau'r pwyllgor hwnnw yma. Treuliasom gryn dipyn o amser, rwy'n cofio, yn y Cynulliad diwethaf, yn mynd drwy fater ffordd liniaru'r M4 yn ofalus tu hwnt, yr effaith—amgylcheddol, materion gyda'r traffig, problemau gyda thrafnidiaeth cynaliadwy ac ati. Bydd rhai ohonoch yn cofio'r dicter ar y pryd pan gyhoeddodd Llywodraeth Cymru, ychydig cyn i'r pwyllgor gyhoeddi ei ganfyddiadau, ei bod yn dewis y llwybr du—ac rwy'n credu fy mod wedi dweud ar y pryd fod y penderfyniad hwnnw'n tanseilio'r adroddiad a'r gwaith a ddigwyddodd yn y pwyllgor hwn i edrych ar yr holl opsiynau penodol hynny.
Wrth gwrs, ar y pryd roedd y gost bosibl rhwng £350 miliwn ac £1 biliwn, yn dibynnu ar ba lwybrau penodol a gâi eu trafod. Ac yn awr rydym yn sôn—os ydym yn gwbl onest—erbyn ei gorffen a drifft ac ati, am brosiect £2 biliwn. Mae wedi tyfu'n jygarnot economaidd sydd, yn fy marn i, allan o reolaeth. Ac os ydym am sôn am dagfeydd, fe fyddwch wedi gweld adroddiad ddoe mai'r A470 yw'r ffordd fwyaf prysur yng Nghymru mewn gwirionedd. Nid wyf yn gofyn am ffordd osgoi i'r A470, ond wrth gwrs, rwyf wedi bod yn gofyn am y cyswllt rheilffordd newydd fel rhan o'r metro i Lantrisant er mwyn tynnu pobl oddi ar y ffyrdd.
Rydym wedi rhoi ymrwymiad, ymrwymiad sylfaenol i'r metro, i drafnidiaeth integredig gynaliadwy. Rydym wedi rhoi ymrwymiad i bobl y Cymoedd y byddai'r dagfa yno—gyda'r cynnydd yn nifer y tai ledled ardal Taf Elái, ar gyrion Caerdydd, ac yn y Cymoedd—yn cael ei datrys yn rhannol gan ein hymrwymiad trawsnewidiol i'r metro. Fy mhryder mawr yw: lle mae'r cyfalaf pe baem yn bwrw ymlaen â phrosiect sy'n £2 biliwn fwy neu lai? Nid wyf am i'r metro ddod i gyfateb i anghenfil Loch Ness i bob pwrpas—mae pawb wedi gweld llun ohono ond nid oes neb yn gwybod a yw'n bodoli mewn gwirionedd ai peidio. Dyna fy mhryder.
Rwyf wedi rhoi ymrwymiadau i fy etholwyr, rydym wedi rhoi ymrwymiadau yn ein maniffesto, a chredaf fod amser yn awr i gamu'n ôl ac adolygu lle rydym, o gofio maint y prosiect hwn, lle mae arni a beth yw ei oblygiadau ar ein holl ymrwymiadau eraill. Efallai na fyddaf yn ennill y dadleuon hynny maes o law, ond credaf fod yn rhaid inni gael y ddadl honno. Rhaid inni gael cyfle i drafod rhywbeth sydd ar y raddfa hon. Yr hyn rwy'n ei geisio, mewn gwirionedd, yw sicrwydd gan y Llywodraeth y bydd y ddadl benodol honno'n digwydd—