– Senedd Cymru am 5:31 pm ar 7 Chwefror 2018.
Symudwn at y cyfnod pleidleisio ar ffordd liniaru arfaethedig yr M4, a galwaf am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Os gwrthodir y cynnig hwn, byddwn yn pleidleisio ar y gwelliant a gyflwynwyd i'r cynnig. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y cynnig 26, neb yn ymatal, 28 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd y cynnig a phleidleisiwn ar y gwelliannau.
Felly, galwaf yn awr am bleidlais ar welliant 1 a gyflwynwyd yn enw Julie James. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y gwelliant 28, roedd 11 yn ymatal, 15 yn erbyn. Felly, derbyniwyd y gwelliant.
Galwaf yn awr am bleidlais ar y cynnig fel y'i diwygiwyd.
Cynnig NDM6647 fel y'i diwygiwyd:
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn cydnabod bod ymchwiliad cyhoeddus gan arolygwyr annibynnol i brosiect coridor yr M4 o amgylch Casnewydd yn parhau i fynd rhagddo ac ni ddylid gwneud unrhyw beth i amharu ar ganlyniad yr ymchwiliad, adroddiad yr archwilwyr neu’r broses statudol.
Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y cynnig fel y'i diwygiwyd 28, roedd 11 yn ymatal, 14 yn erbyn. Felly, derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd.
Symudwn ymlaen yn awr i bleidleisio ar ddadl UKIP ar ddiwygio etholiadol y Cynulliad. Galwaf am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Neil Hamilton. Unwaith eto, os na dderbynnir y cynnig, byddwn yn pleidleisio ar y gwelliant a gyflwynwyd i'r cynnig. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y cynnig chwech, neb yn ymatal, 48 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd y cynnig.
Symudwn ymlaen yn awr i bleidleisio ar y gwelliant a galwaf am bleidlais ar welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Julie James. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y gwelliant 48, neb yn ymatal, chwech yn erbyn. Felly, derbyniwyd y gwelliant.
Felly, galwaf am bleidlais ar y cynnig fel y'i diwygiwyd.
Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y cynnig fel y'i diwygiwyd 48, neb yn ymatal, chwech yn erbyn. Felly, derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd.