– Senedd Cymru am 6:07 pm ar 13 Chwefror 2018.
Yr eitem nesaf, felly, yw'r cynnig i gymeradwyo'r penderfyniad ariannol ynghylch y Bil Rheoleiddio Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (Cymru). Rwy'n galw ar y Gweinidog Tai ac Adfywio i wneud y cynnig—Rebecca Evans.
Cynnig NDM6656 Julie James
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, at ddibenion unrhyw ddarpariaethau sy’n deillio o’r Bil Rheoleiddio Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (Cymru), yn cytuno i unrhyw gynnydd mewn gwariant o’r math y cyfeiriwyd ato yn Rheol Sefydlog 26.69, sy’n codi o ganlyniad i’r Bil.
Diolch. Rwy'n cynnig y cynnig yn ffurfiol, a hoffwn i achub ar y cyfle hwn i ddiolch unwaith eto i'r Pwyllgor Cyllid am ei waith craffu. Byddaf yn ysgrifennu'n ffurfiol at y Pwyllgor i amlinellu fy ymateb i'r tri argymhelliad yn fanwl, er i fi nodi fy syniadau cychwynnol yn fy ymateb blaenorol.
Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid, Simon Thomas.
Diolch yn fawr, Llywydd. Gan fod y ddadl flaenorol eisoes wedi cael dau Gadeirydd yn adrodd yn ôl, roeddwn i'n meddwl amrywio pethau tipyn bach drwy adrodd ar y penderfyniad ariannol yn hytrach na'r brif ddadl, fel na wnaethoch chi gael tri Chadeirydd o'r bron, gan alluogi mwy o Aelodau eraill i gymryd rhan. Rwy'n ddiolchgar am beth mae'r Gweinidog newydd osod allan ac y bydd hi'n cysylltu'n uniongyrchol mewn ymateb i'r tri o'r argymhellion gan y Pwyllgor Cyllid sydd yn ffocysu'n gyfyng iawn ar oblygiadau ariannol y Bil presennol.
Mae'r pwyllgor yn cytuno bod y darpariaethau yn y Bil yn angenrheidiol. Rydym ni hefyd yn teimlo ei bod hi'n bwysig bod landlordiaid cymdeithasol cofrestredig yn cael eu dosbarthu fel sefydliadau sector preifat os ydym am osgoi i’w benthyciadau gyfrif fel tâl yn erbyn cyllideb Llywodraeth Cymru. Felly, mae cynsail y Bil yn cael ei dderbyn gan y Pwyllgor Cyllid. Ond mae yna dri argymhelliad, ac mae'n rhaid tynnu sylw pawb at hyn.
Credwn fod risgiau eithaf sylweddol, a dweud y gwir, ynglŷn â’r diwygio rheoleiddiol a amlinellir yn y Bil ac rydym wedi nodi rhai pryderon yn yr adroddiad sydd gyda ni. Rydym wedi gwneud tri argymhelliad, fel y dywedais i, a phe byddent yn cael eu rhoi ar waith, rydym ni o'r farn y bydden nhw'n helpu i liniaru ein pryderon. Er bod y Gweinidog wedi dweud wrthym y bydd fframwaith rheoleiddio cadarn ar waith, nid yw'r pwyllgor wedi ei argyhoeddi y bydd hwn yn arf mwy pwerus i ddylanwadu ar ymddygiad landlordiaid cymdeithasol o'i gymharu â'r rheolaeth ddeddfwriaethol bresennol sydd gan Lywodraeth Cymru.
Rydym eisoes yn ymwybodol bod rhai landlordiaid cymdeithasol yn arallgyfeirio oddi ar eu busnes craidd i feysydd newydd, ac mae posibilrwydd go iawn y gallai hyn ddwysáu gyda dadreoleiddio o dan y Bil hwn. Rydym yn pryderu, felly, nad yw arallgyfeirio pellach heb risg ariannol ac am y risgiau y gallai hyn eu cyflwyno i Lywodraeth Cymru a fydd, mewn gwirionedd, os cawn ni fod yn onest, yn fenthyciwr pan fetha popeth arall—a lender of last resort, mewn geiriau eraill. Bydd yn hanfodol felly i Lywodraeth Cymru fonitro rheolaeth ariannol landlordiaid cymdeithasol, ac rydym wedi argymell ei bod yn amlinellu strategaeth ar gyfer sut y bydd yn monitro gweithgareddau gan landlordiaid cymdeithasol a allai gynyddu'r risg o anawsterau ariannol.
Mae'n bwysig nad yw lleisiau tenantiaid chwaith yn cael eu colli, fel y clywsom ni yn y ddadl flaenorol. Clywsom fod Gwasanaeth Ymgynghorol Cyfranogiad Tenantiaid yn cyfleu'r newidiadau, ond rydym yn bryderus nad oes adnoddau ychwanegol wedi'u dyrannu ar gyfer y dasg hon. Felly, fe wnaethom argymell bod yr arian angenrheidiol yn cael ei neilltuo.
Fe wnaethom hefyd argymell bod digon o adnoddau yn cael eu dyrannu i gynhyrchu canllawiau i landlordiaid cymdeithasol cofrestredig i sicrhau dull cyson o weithredu y drefn newydd. Diolch yn fawr.
Nid oes siaradwyr eraill, felly galwaf ar y Gweinidog Tai ac Adfywio i ymateb i'r ddadl os yw'n dymuno.
Diolch yn fawr iawn. Rwy'n achub ar y cyfle hwn i ddweud unwaith eto fy mod i'n bwriadu ymateb yn gadarnhaol i bob un o dri argymhelliad y Pwyllgor Cyllid. Diolch.
Y cwestiwn yw felly: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.