Part of the debate – Senedd Cymru am 4:56 pm ar 13 Chwefror 2018.
Mae'r setliad rydym ni'n ei drafod heddiw ar gyfer y gwasanaethau heddlu yn dangos yn gwbl glir, unwaith eto, pam bod angen datganoli plismona i Gymru fel mater o frys. Gwaethygu'r problemau ariannu a wynebir gan yr heddlu yng Nghymru mae'r setliad yma yn ei wneud. Tra bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn honni bod y setliad yn rhoi hwb o £450 miliwn i gyllidebau'r heddlu, mewn gwirionedd, mae £270 miliwn o'r ffigur yn dod yn sgil y ffaith bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn rhoi caniatâd i luoedd godi prisiau uwch ar drethdalwyr, tra bod £180 miliwn—yr arian sy'n weddill—yn dod yn sgil y Swyddfa Gartref yn cynyddu gwariant canolog ac yn 'top-slice-io'.
Felly, wrth grafu'r wyneb, fe ddaw'n amlwg bod setliad cyllid heddlu Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn gwbl gamarweiniol. Mae'r setliad hwn yn golygu y bydd heddluoedd yn gorfod dewis rhwng cynyddu'r dreth gyngor o hyd at £12 i bob cartref, gan roi straen ychwanegol ar gyllidebau personol, neu, ar y llaw arall, mae'n rhaid iddyn nhw glustnodi toriadau pellach, a hynny yn ei dro yn peryglu diogelwch ein cymunedau ni. Mae cynlluniau Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn golygu toriad mewn termau real o £2.1 miliwn i Heddlu Gogledd Cymru.
Mae gan gyllideb Llywodraeth Cymru oblygiadau i Heddlu Gogledd Cymru hefyd. Rydym ni wedi sôn—roedd Mark Isherwood yn trafod y rhaglen swyddogion cyswllt ysgolion. Rhaglen effeithiol ydy hon, ond mae hi dan fygythiad rŵan oherwydd, yng nghyllideb 2019-20 Llywodraeth Cymru, mae yna doriad sylweddol. Mae'r arian yn cael ei ddefnyddio i greu cyfleoedd i ddisgyblion yn ysgolion cynradd ac uwchradd y gogledd i wella eu dealltwriaeth, eu hagwedd a'u hymddygiad at bynciau pwysig fel cyffuriau, alcohol, ymddygiad gwrthgymdeithasol a pherthnasau iach. Ar hyn o bryd, mae'r cynllun yn cael ei ariannu ar y cyd gan Heddlu Gogledd Cymru a Llywodraeth Cymru, ond mi fydd y toriad o 44 y cant yng nghyfraniad Llywodraeth Cymru i'r rhaglen yma yn peryglu dyfodol y rhaglen yn ei chyfanrwydd, sydd yn destun pryder.
Mae'r achos o blaid datganoli plismona o San Steffan i'n Senedd Gymreig yn un hollol glir, a dyma'r amser i wneud hynny. Os ydy'r Alban a Gogledd Iwerddon yn cael y pwerau yma, a Manceinion yn cael rhai cyfrifoldebau dros blismona, pam nad ydy Cymru yn eu cael nhw hefyd? Mae pedair blynedd wedi mynd heibio ers i gomisiwn trawsbleidiol Silk argymell datganoli plismona, ond rydym ni'n dal yn ddim agosach at wireddu hynny. Mae ffigurau gan Heddlu Dyfed-Powys yn dangos pe bai plismona wedi'i ddatganoli a'i gyllido yn ôl pob pen o'r boblogaeth yna fyddai heddluoedd Cymru yn elwa o £25 miliwn y flwyddyn. Mi fyddai rhoi rheolaeth i Gymru dros ein heddluoedd ein hunain yn sicrhau gwell setliad cyllidol, a hefyd yn sicrhau bod un o'n gwasanaethau cyhoeddus pwysicaf yn cael ei reoli mor agos â phosibl at y cymunedau y mae'n eu gwarchod.