9. Dadl: Egwyddorion Cyffredinol y Bil Rheoleiddio Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (Cymru)

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:49 pm ar 13 Chwefror 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Siân Gwenllian Siân Gwenllian Plaid Cymru 5:49, 13 Chwefror 2018

Mae Plaid Cymru yn cefnogi’r cynnig yma heddiw yma gan ein bod ni yn derbyn bod yna resymau cwbl bragmataidd a chyllidol cadarn dros yr angen am y ddeddfwriaeth yma. Mae categoreiddio cymdeithasau tai fel corfforaethau cyhoeddus yn golygu mai fel cyrff cyhoeddus maen nhw’n cael eu trin o safbwynt cyfrifon cyhoeddus, ac mae gan hynny, wrth gwrs, oblygiadau mawr wrth i fenthyciadau gan y cymdeithasau tai gael eu cyfrif yn erbyn nenfwd benthyca Llywodraeth Cymru. Yn ei dro, mi allai hynny gael effaith andwyol ar allu’r sector i adeiladu tai, a hynny ar yr union adeg pan fo prinder dybryd o dai cymdeithasol, sy’n creu argyfwng gwirioneddol mewn sawl rhan o Gymru. Ond—ac mae yna 'ond', ac 'ond' gweddol fawr y prynhawn yma—mae gen i bryderon y gallai dadreoleiddio, a dyna'r ydym ni'n sôn amdano fan hyn, dadreoleiddio, arwain at ganlyniadau sydd ddim wedi cael eu rhagweld yn llawn, a chanlyniadau a allai filwrio yn erbyn rhai o egwyddorion craidd cymdeithasau tai fel y maen nhw ar hyn o bryd. Mae'n bwysig, rydw i'n meddwl, cofio nad cerbyd sector preifat creu elw ydy cymdeithas dai, ond, yn hytrach, strwythur ar gyfer darparu gwasanaethau ar gyfer y bobl fwyaf bregus yn ein cymdeithas ni.

Rydym ni wedi clywed heddiw gan ddau bwyllgor sydd—wel, rydym ni wedi clywed gan un, ond yn mynd i glywed gan y llall yn nes ymlaen—wedi cael cyfle i graffu ar yr egwyddorion cyffredinol sydd gerbron heddiw. Ond fy nghwestiwn i ydy: tybed a ydy'r craffu yna wedi bod yn rhy gul ac yn gyfyngedig, o gofio mai materion cyllidol a materion cyfansoddiadol sydd wedi bod o dan sylw yn bennaf. Rydw i'n meddwl bod angen golwg ehangach er mwyn tawelu rhai o'r pryderon sydd gen i. Buaswn i yn licio gweld y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau yn cael cyfle i graffu ar y mater yma—nid y Bil ei hun, ond craffu ar beth allai'r newidiadau yn sgil dadreoleiddio, beth allai hynny, golygu i ddyfodol y sector tai cymdeithasol yng Nghymru.

Mae yna rai cwestiynau mae angen inni chwilio atebion ar eu cyfer nhw. A fydd dadreoleiddio yn golygu newid mewn blaenoriaethau strategol gan gymdeithasau tai? A fydd o'n golygu mwy o bwyslais ar greu elw, ac a fydd hynny yn golygu, er enghraifft, fod ardaloedd gwledig yn colli allan? Achos rydym ni i gyd yn gwybod ei bod yn rhatach i adeiladu ystadau mawr mewn ardaloedd trefol nag ydy hi i adeiladu clystyrau o dai mewn ardaloedd gwledig, ond mae mawr angen y math yna o dai mewn ardaloedd gwledig. A ydym ni'n mynd i weld llai o adeiladu mewn ardaloedd gwledig, a hynny wedyn yn cyfrannu at all-boblogi a dirywiad yr iaith Gymraeg?

Rydym ni wedi sôn yn fan hyn am y pryder arall yn barod, sef colli atebolrwydd a democratiaeth. Rydym ni wedi sôn am lais y tenantiaid, ond mae llais cynghorwyr i'w glywed yn glir mewn byrddau rheoli ar hyn o bryd. Gyda gostyngiad yn y ganran, mae perig i'r lleisiau yma—lleisiau cynghorwyr a lleisiau tenantiaid—gael llai o ddylanwad, ac, yn ei dro, arwain at lai o atebolrwydd, ac, efallai, rydym ni'n ôl eto at y syniad yma y gall y byrddau rheoli newid cyfeiriad strategol, yn groes i'r hyn yr ydym ni'n ceisio ei gyflawni yn y maes yma.

Rhaid inni gofio bod y stoc tai wedi cael ei drosglwyddo o ddwylo cynghorau lleol i ddwylo cymdeithasau tai mewn sawl achos ar draws Cymru. Fe ellid dadlau bod y symudiad hwnnw wedi arwain at bellhau atebolrwydd yn barod. Mae yna bryder y gall y cam nesaf sydd o dan sylw'r Bil yma arwain at golli hyd yn oed mwy o atebolrwydd ac at y newid cyfeiriad strategol a allai weithio yn erbyn holl bwrpas cymdeithasau tai.

Felly, rydw i'n teimlo bod yn rhaid inni symud yn ofalus iawn o'r cam yma, gan sicrhau gwelliannau a fydd yn cryfhau'r llais democrataidd, ond hefyd yn diogelu pwrpas craidd y cymdeithasau tai: i mi, adeiladu'r math cywir o dai ar gyfer y bobl sydd eu hangen—ie, hynny—ond hefyd eu hadeiladu nhw yn y llefydd lle mae eu hangen nhw, nid lle mae'r farchnad yn gyrru'r datblygiadau. Felly, mae eisiau bod yn gwbl effro i beryglon dadreoleiddio ac ystyried pa gamau sydd eu hangen i ateb rhai o'r pryderon yr ydw i wedi’u codi heddiw. Rydw i'n awgrymu y byddai'r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau yn gallu cyfrannu at y drafodaeth yna. Diolch.