Part of the debate – Senedd Cymru am 5:54 pm ar 13 Chwefror 2018.
Diolch i'r Gweinidog am gyflwyno'r ddadl heddiw ar Fil Rheoleiddio Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (Cymru). Rydym ni'n cytuno â'r angen i ailddosbarthu landlordiaid cymdeithasol cofrestredig, ac felly rydym ni'n cefnogi'r cynnig heddiw. Mae angen i ni wneud hyn oherwydd bod angen inni ddiogelu'r ddarpariaeth o dai fforddiadwy. Nid yw Cymru yn adeiladu digon o gartrefi. Rydym ni'n gwybod bod Llywodraeth Cymru wedi gosod targed i adeiladu 20,000 o gartrefi newydd fforddiadwy yn ystod tymor y Cynulliad hwn, gyda 12,500 ohonyn nhw i gael eu hadeiladu gan landlordiaid cymdeithasol cofrestredig. Fodd bynnag, mae yna ymchwil hefyd, yn arbennig gan y diweddar Dr Alan Holmans, sy'n awgrymu y gallai Cymru fod angen cymaint â 12,000 o gartrefi newydd bob blwyddyn. Mae hyn yn bennaf oherwydd cynnydd disgwyliedig yn nifer yr aelwydydd un person. Felly, rydym ni'n wynebu problemau ar y gorwel o ran ateb y galw am dai, a thai fforddiadwy yn enwedig.
Pan gawsom ni ddadl ynglŷn â deddfwriaeth flaenorol gan Lywodraeth Cymru, sef diddymu'r hawl i brynu, gwnaethom sôn am hynny yn y grŵp UKIP a daethom i'n casgliad ein hunain ein bod ni'n meddwl nad oedd yn mynd i fod yn ddigon, oherwydd y nifer gymharol fach o dai cymdeithasol a oedd yn mynd i'r sector preifat o ganlyniad i'r hawl i brynu. Ond os nad oedd y Bil hwnnw'n mynd i fod yn ddigon yna mae'r Bil hwn efallai yn gwneud gormod, oherwydd mae'r risg o ran cyllid ar gyfer tai cymdeithasol fforddiadwy yn ddifrifol iawn. Os na weithredwn ni, bydd canlyniadau difrifol o ran cyllid, fel mae cyfranwyr blaenorol heddiw wedi ei amlinellu, ac ni fyddai’n bosibl darparu cartrefi newydd yn y niferoedd y mae ar Gymru eu hangen.
Byddwn ni, wrth gwrs, yn edrych ymlaen at graffu ar y Bil yn y pwyllgor ac, fel y mae eraill wedi dweud, mae'n bwysig bod Llywodraeth Cymru yn gweithio'n agos gyda'r Swyddfa Ystadegau Gwladol i sicrhau bod y manylion technegol, mewn gwirionedd, yn cefnogi amcanion y ddeddfwriaeth, sef sicrhau bod dyled cymdeithasau tai yn cael ei dynnu oddi ar ffigurau benthyca'r sector cyhoeddus.
Rwy'n sylwi, yn sgil pasio rheoliadau cyfatebol yn Lloegr, bod y Swyddfa Ystadegau Gwladol bellach wedi cwblhau asesiad o'r sector cymdeithasau tai yno, a chanlyniad hynny yw bod y sefyllfa wedi'i wrthdroi, a darparwyr cofrestredig tai cymdeithasol yn Lloegr wedi'u hailddosbarthu yn gynhyrchwyr marchnad breifat. Ac, wrth gwrs, mae hynny—. Gallai hynny fod yn gam tuag at ddarparu mwy o sefydlogrwydd yn y farchnad dai, sef yr hyn yr ydym ni ei eisiau yma yng Nghymru.
Mae'r Bil o bosibl yn caniatáu i Lywodraeth Cymru weithredu os yw o'r farn nad yw cymdeithas dai yn gweithredu yn unol â'r gyfraith—mae hyn yn ymdrin â'r mater o ddadreoleiddio, y mae llawer wedi sôn amdano. Ond rwy'n credu ei bod hi'n bwysig bod tenantiaid yn parhau i fynegi eu barn ynglŷn â sut y caiff cymdeithas dai ei rhedeg. Wrth gwrs, mae llawer o bobl wedi codi'r mater o lais y tenant heddiw, ac mae David Melding wedi gwneud achos cryf dros ei gynnwys ar wyneb y Bil, y byddem ni yn sicr yn ei ystyried, ac mae'n bosibl iawn y byddwn yn cefnogi unrhyw welliant y gallai ef ei gyflwyno i'r perwyl hwnnw os na fydd Llywodraeth Cymru yn dilyn ei gyngor, ond gwneud hynny fyddai'r peth gorau i Lywodraeth Cymru, efallai.
Bydd y newidiadau yn arbennig o bwysig i denantiaid a allai gael eu heffeithio gan drosglwyddiadau stoc o awdurdodau lleol i landlordiaid cymdeithasol cofrestredig. Rwy'n gobeithio y gallwn ni ymchwilio i hyn drwy waith y Pwyllgor craffu, ond byddai'n ddiddorol pe gallai'r Gweinidog ychwanegu unrhyw beth at hynny heddiw.
Rydym ni hefyd yn ymddiddori yn y ffordd y bydd cymdeithasau tai yn parhau i gael eu hariannu yn y dyfodol ac mae angen inni, wrth gwrs, barhau i ddod o hyd i fodelau cyllido newydd ac arloesol i barhau i ddarparu'r llif o dai fforddiadwy.
Felly, i gloi, Llywydd, rydym ni yn UKIP yn cefnogi egwyddorion cyffredinol y Bil. Rydym ni o'r farn mai dyma'r ffordd briodol o weithredu, er bod yn rhaid inni gadw mewn cof na fydd hyn ynddo'i hun yn datrys y prinder tai sydd ar y gorwel. Rydym ni'n edrych ymlaen at barhau i glywed yr hyn sydd gan y Llywodraeth i'w ddweud ynglŷn â hyn ac, ac o bosib, i graffu, yn y pwyllgor llywodraeth leol, neu mewn unrhyw bwyllgor perthnasol arall, ar y cynlluniau sydd ganddyn nhw yn y dyfodol i ddarparu'r tai y mae eu dirfawr angen ar Gymru. Diolch yn fawr iawn.