Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:00 pm ar 14 Chwefror 2018.
Diolch. Yn sicr, Lee Waters yw'r hyrwyddwr draenogod. Gobeithiaf eich bod yn cofio mai chi oedd yr ail ddewis mewn gwirionedd, a fi oedd y cyntaf, ond penderfynais fod yn hyrwyddwr ar ran pob rhywogaeth. [Chwerthin.] Ond rydych yn hyrwyddwr gwych ar ran amaethyddiaeth fanwl hefyd, ac rydych yn fy mheledu’n aml â llawer o ymchwil da iawn a wnaed gennych yn y maes hwn.
Cyflwynwyd syniad gennym na fyddai gennym strategaeth benodol, ond yn amlwg, mae llawer iawn o waith y gallwn ei wneud mewn perthynas ag amaethyddiaeth fanwl, ac yn sicr ein polisi yw gostwng effaith plaladdwyr ar bobl, bywyd gwyllt a phlanhigion i'r lefel isaf bosibl, felly yn sicr, credaf y gellir defnyddio amaethyddiaeth fanwl yn y modd hwn. Unwaith eto, ar ôl Brexit, wrth inni gyflwyno ein polisi ffermio ar gyfer y dyfodol a'n holl bolisïau amgylcheddol eraill, credaf y bydd amaethyddiaeth fanwl yn gymorth mawr i ni.