'Polisi Cynllunio Cymru'

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:14 pm ar 14 Chwefror 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Siân Gwenllian Siân Gwenllian Plaid Cymru 2:14, 14 Chwefror 2018

Mae 'Polisi Cynllunio Cymru' yn ei ffurf drafft yn nodi bod y cysyniad o ddatblygu cynaliadwy wedi ei ehangu, wrth gwrs, o dan y Ddeddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol, a'i bod hi'n ofynnol i wella'r pedair agwedd ar lesiant—economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol. Ac, yn ogystal, mae'r Ddeddf wedi dod â saith nod llesiant ymlaen i helpu sicrhau bod cyrff cyhoeddus yn gweithio tuag at yr un weledigaeth o Gymru gynaliadwy. Mae'r iaith Gymraeg yn un o'r saith nod llesiant o dan y Ddeddf, a hefyd yn rhan o'r agwedd ddiwylliannol o lesiant. Pam felly nad ydy polisi cynllunio drafft y Llywodraeth yn cryfhau cyfrifoldebau awdurdodau cynllunio lleol wrth iddyn nhw ystyried y Gymraeg fel rhan o'u penderfyniadau cynllunio?