Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:15 pm ar 14 Chwefror 2018.
Wel, bydd yr Aelod yn ymwybodol ein bod wedi edrych ar y nodyn cyngor technegol a oedd yn ymwneud yn benodol â'r iaith Gymraeg ac wedi ei gryfhau, ond rwy'n fwy na pharod i wrando ar unrhyw sylwadau sydd ganddi yn ei gylch—os teimlwch na chafodd ei atgyfnerthu mewn ffordd briodol yn eich tyb chi—wrth inni gynnal yr ymgynghoriad hwn ar bolisi cynllunio.